Ennill rhaglen deledu a thenantiaeth fferm 600 acer yn 'freuddwyd'

Ioan Jones a Sara JenkinsFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Ers i Sara Jenkins ac Ioan Jones symud i Lyndy Isaf cyn y Nadolig maen nhw wedi dyweddïo, ac yn "edrych ymlaen i adeiladu bywyd efo'n gilydd yma"

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl Cymraeg wedi ennill tenantiaeth fferm 613 erw yn Eryri fel rhan o raglen deledu, ac wedi dweud fod y peth yn "freuddwyd".

Rhaglen Channel 4 ydy 'Our Dream Farm', lle mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn chwilio am denantiaid newydd ar gyfer fferm fynyddig yn Nant Gwynant.

Daeth y gyfres i ben nos Sadwrn a chafodd Ioan Jones a Sara Jenkins eu coroni'n enillwyr - a sicrhau tenantiaeth 15 mlynedd ar fferm Llyndy Isaf ar odre'r Wyddfa.

Ar y rhaglen roedd saith o ymgeiswyr yn cystadlu gyda'i gilydd mewn gwahanol dasgau, i brofi gwahanol sgiliau amaethyddol - fel trin anifeiliaid a rhedeg busnes.

Sara Jenkins gyda mochyn a pherchyllFfynhonnell y llun, Big Circus Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Sara Jenkins weithio gyda moch ym mhumed bennod 'Our Dream Farm'

Daw Ioan a Sara o gefndir ffermio yng Nghymru ac mae'r ddau ohonynt yn 28 oed.

Cafodd Ioan ei fagu ar fferm ddefaid a chig eidion ym Moduan, Pen Llŷn, tra bod Sara â'i gwreiddiau ar fferm deulu yn Nhal-y-bont, Ceredigion.

Dywedodd Ioan eu bod "mor falch" o gael eu dewis, "ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i adeiladu bywyd efo'n gilydd yma yn y lleoliad hardd hwn".

"Mae tenantiaeth fferm yn bethau prin iawn a dydi cyfleoedd fel hyn ddim yn digwydd yn aml.

"Felly mae'n rhaid i chi gymryd y cyfle pan mae'n cynnig ei hun, a mynd amdani fel y gwnaethon ni."

Symudodd y cwpl i Lyndy Isaf cyn y Nadolig, a dywedodd Ioan eu bod wedi bod yn "brysur dros y misoedd diwethaf yn dod i adnabod y fferm a'r dirwedd".

Ychwanegodd eu bod wedi bod yn lwcus o'r tywydd "gwych" wrth ŵyna eleni, a bod y ffermdy gwyliau ddaeth gyda'r fferm "wedi bod yn brysur iawn gyda gwesteion".

Ffermdy Llyndy IsafFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Daw tenantiaeth fferm Llyndy Isaf yn Nant Gwynant ger Beddgelert gyda mynediad at lannau Llyn Dinas a thŷ pedair ystafell wely

Daeth fferm Llyndy Isaf o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012, pan gafodd ei phrynu gan yr elusen - yn dilyn llwyddiant apêl gyhoeddus.

Cafodd yr ymgeiswyr llwyddiannus eu dewis gan Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a'u Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Eryri, Trystan Edwards.

Dywedodd Trystan Edwards fod Ioan a Sara wedi cael "eu rhoi ar brawf" am gyfnod o dair wythnos, "gan ddangos i ni pa mor dda roeddent yn deall rôl ffermio a byd natur mewn amgylchedd mor arbennig â hwn".

"Mae'r fferm yn sicr o fynd o nerth i nerth dan eu gwarchodaeth ofalus, ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt," meddai.

Ychwanegodd Mr Edwards ei fod yn "gobeithio y bydd y gynulleidfa sydd wedi bod yn gwylio'r gyfres yn gwerthfawrogi'r rhan hollbwysig mae ffermwyr yn ei chwarae wrth helpu natur i ffynnu yng nghefn gwlad, wrth redeg busnesau cynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd da".

"Rydym hefyd yn hynod o falch o gael arddangos diwylliant unigryw Cymru a pha mor hanfodol yw ffermio i gymunedau gwledig yng Nghymru," meddai Trystan.

Matt Baker (blaen), Trystan Edwards (chwith) a Giles Hunt (dde) gyda'r ymgeiswyrFfynhonnell y llun, Big Circus Media
Disgrifiad o’r llun,

Matt Baker (blaen) oedd yn cyflwyno'r rhaglen, gyda Trystan Edwards (chwith) a Giles Hunt (dde) yn arsylwi a beirniadu'r ymgeiswyr

Fel rhan o'u cynllun busnes, mae Ioan a Sara wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn trafod creu maes parcio ychwanegol ar gyfer cerddwyr ac i agor maes pebyll ar y tir yn yr haf.

Ers i'r ffilmio orffen mae'r cwpl hefyd wedi dyweddïo ac maen nhw'n gobeithio cynnal y briodas ar fferm teulu Sara.

Mae'r ddau yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda'u cyd-gystadleuwyr ac aethant am ginio yn ddiweddar gyda Ryan a Lowri a Greg.

Dywedodd Matt Baker, oedd yn cyflwyno'r rhaglen, ei fod yn falch o'r ddau - gan eu bod yn "gwpwl hyfryd," ac yn "ffermwyr angerddol ac yn rheolwyr tir talentog".

Esboniodd Giles Hunt bod Sara ac Ioan yn "arbennig iawn" drwy gydol y broses, a'i fod yn "edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y blynyddoedd sydd i ddod".

Ychwanegodd bod pob un o'r ymgeiswyr wedi trio eu gorau, a gobeithio y bydd yr ymgeiswyr aflwyddiannus yn "cymryd popeth maent wedi ei ddysgu yn ystod y broses, a'i roi ar waith ar gyfer y denantiaeth nesaf y byddant yn rhoi cynnig arni".