Yr adferiad arafaf ym Mhrydain yn nifer y teithwyr ar fysiau

BwsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer y teithwyr ar fysiau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 wedi cyrraedd 78.3% o'r lefel cyn y pandemig

  • Cyhoeddwyd

Yng Nghymru y cafwyd yr adferiad arafaf ar ôl y pandemig yn nifer y teithwyr ar fysiau ym Mhrydain, mae adroddiad gan bwyllgor Senedd Cymru wedi dweud.

Roedd nifer y teithwyr yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 78.3% o'u lefelau cyn y pandemig o gymharu ag 89.5% ar gyfer Prydain yn gyffredinol.

Mae'r niferoedd wedi cael eu beio ar lai o bobl hŷn yn defnyddio tocynnau consesiynol, er y gwelwyd adferiad yn nifer y teithwyr sy'n talu am docyn.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn ei adroddiad yn galw am weithredu i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru "y byddwn yn astudio'r adroddiad yn ofalus ac yn darparu ymateb llawn".

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddai cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddod â bysiau o dan reolaeth gyhoeddus yn "caniatáu i ni ganolbwyntio o ddifrif ar ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n gweithio i bobl Cymru".

Yn ôl data Adran Drafnidiaeth y DU, roedd nifer y teithwyr ar fysiau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024 wedi cyrraedd 78.3% o'r lefel cyn y pandemig (Mawrth 2020).

Mae hyn yn cymharu â 92.5% yn yr Alban, 89.5% yn Lloegr, ac 89.5% ar gyfer Prydain gyfan.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates, wedi awgrymu yn y gorffennol, er y gwelwyd adferiad yn nifer y teithwyr sy'n talu am docyn, na welwyd adferiad o ran teithio consesiynol.

Mae hyn yn wahanol i'r tueddiadau yn Lloegr a'r Alban, lle mae polisïau fel prisiau tocynnau wedi'u capio (£2 yn Lloegr, yn codi i £3 o fis Rhagfyr 2024) a theithio am ddim ar fysiau i'r rhai o dan 22 oed yn yr Alban wedi'u cyflwyno.

'Cyfran uchel o bobl hŷn'

Dywedodd adroddiad pwyllgor y Senedd fod prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price wedi tynnu sylw "at y gyfran hanesyddol uchel o bobl hŷn sy'n defnyddio bysiau yng Nghymru ac awgrymodd fod y pandemig wedi peri i lawer o bobl ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, sy'n golygu bod llai o angen iddynt deithio".

Mae gan bobl 60 oed a throsodd yng Nghymru hawl i bas bws, tra yn Lloegr darperir pas bws ar oedran pensiwn y wladwriaeth.

Dywedodd Mr Price wrth y pwyllgor hefyd ei fod "yn obeithiol y gallai'r model masnachfreinio bysiau arwain at gyfnod o dwf cyson yn nifer y teithwyr pe bai'n arwain at wasanaethau mwy dibynadwy, haws eu defnyddio, gyda system prisiau a thocynnau symlach".

un o'r trenau newyddFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gennym ni dros 50% o'n trenau newydd sbon yn rhedeg ledled Cymru" meddai Trafnidiaeth Cymru

Roedd y pwyllgor hefyd yn "bryderus iawn o glywed am yr oedi wrth gyflwyno trenau oherwydd nad oedd gweithgynhyrchwyr yn bodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt".

Mae aelodau'r pwyllgor o'r farn "y dylai Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio'r holl opsiynau sydd ar gael iddynt i sicrhau bod y rhan olaf hon o'r contract yn cael ei chyflawni mewn pryd.

"O ystyried yr effaith ar y pwrs cyhoeddus, dylai hyn gynnwys, os oes angen, gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ymyrryd".

Roedd Ken Skates wedi dweud wrth y pwyllgor fod Trafnidiaeth Cymru "wedi cyflawni gwelliannau sylweddol o ran prydlondeb a dibynadwyedd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol", ond gwelwyd dirywiad yn dilyn y gwelliant hwnnw.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Erbyn hyn mae gennym ni dros 50% o'n trenau newydd sbon yn rhedeg ledled Cymru ac rydyn ni o fewn camau olaf darparu Metro De Cymru.

"Bydd y cyhoeddiad diweddar ar y Bil Bysiau yn caniatáu inni ganolbwyntio o ddifrif ar ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n gweithio i bobl Cymru."

Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn parhau i adeiladu ar y gwelliannau perfformiad a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf" meddai Ken Skates

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a gogledd Cymru, Ken Skates: "Byddwn yn astudio'r adroddiad yn ofalus ac yn darparu ymateb llawn.

"Mae'r Bil Bysiau a gyhoeddais yr wythnos diwethaf yn amlinellu'r ffordd ymlaen i drawsnewid gwasanaethau bysiau yng Nghymru, fel y gallwn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaethau.

"Mae gennym ni eisoes wasanaethau bws fel Traws Cymru lle mae nifer y teithwyr yn cynyddu, ac mae hyn yn arwydd o'r hyn y gallwn ei gyflawni ledled Cymru. Mae trenau newydd yn cael eu darparu.

"Rydym yn gweld newid gwirioneddol ar ein rheilffyrdd, gyda, er enghraifft, dros 80 y cant o deithiau ar brif reilffordd gogledd Cymru ar drenau newydd.

"Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn parhau i adeiladu ar y gwelliannau perfformiad a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf."