Cyllid i lywodraeth leol yn 'druenus' medd y Ceidwadwyr Cymreig

Darren Millar ASFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorau gwledig yn cael eu heffeithio'n "anghymesur gan gyllideb ddrafft llywodraeth Cymru", yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Darren Millar AS, arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig wrth raglen Politics Wales fod y cynnydd o 4.3% yn y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb ddrafft Cymru yn "druenus".

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn am arian i leihau diffyg o £559m yn 2025-6 - sydd yn debygol o gynyddu i dros £1bn dros ddwy flynedd.

Yn ôl Eluned Morgan, mae'r codiad o 4.3% ar ben y "swm enfawr o arian" a roddwyd i gynghorau eleni, ac felly maen nhw wedi cael "llawer mwy" na 4.3% dros ddwy flynedd.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, gyflwyno cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26.

Yn rhan o'r gyllideb, cafodd pob adran hwb ariannol, gyda GIG Cymru yn derbyn £600m ychwanegol

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £253m i gyllidebau'r cynghorau'r flwyddyn nesaf os bydd eu cynlluniau cyllideb yn pasio – llai na hanner yr hyn y mae'r sector yn dweud bod angen i gau'r bwlch ariannol maen nhw'n ei wynebu.

Yn ôl y gwrthbleidiau dyw'r cyllid ar gyfer cynghorau ddim yn ddigon.

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi codi pryderon am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus fel cartrefi gofal, meddygfeydd a hosbisau - gyda'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni y gallai "cannoedd o filiynau" fynd yn ôl i'r Trysorlys.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £253m i gyllidebau'r cynghorau'r flwyddyn nesaf os bydd eu cynlluniau cyllideb yn pasio

Dywed Heledd Fychan o Blaid Cymru ei fod yn "bryder enfawr i awdurdodau lleol ar draws Cymru".

Dywedodd Darren Millar AS fod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn anghywir a galwodd am sefydlu lwfans tanwydd gaeaf Cymreig i bensiynwyr.

Mae'n dilyn penderfyniad dadleuol Llywodraeth Lafur y DU i newid y taliadau sy'n helpu gyda chost tanwydd dros y gaeaf.

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn defnyddio "fformiwla ariannu hen ffasiwn" sy'n golygu bod cynghorau gwledig yn "cael cynnydd anghymesur is mewn cyllid o'i gymharu â dinasoedd fel Casnewydd a Chaerdydd".

Fe wnaeth Heledd Fychan gwestiynu a fyddai toriadau yn y dyfodol wrth i'r cynnydd mewn cyllid gan lywodraeth y DU ddod yn eu dyddiau cynnar mewn grym.

Dywedodd bod y dyfodol yn edrych yn "llwm" ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a bod toriadau yn "anochel" mewn blynyddoedd i ddod.

Gallwch wylio'r cyfweliad gydag Eluned Morgan ac ymateb y gwrthbleidiau yn llawn ar BBC Politics Wales ar iPlayer yma.