Dirgelion dewis Pab newydd: Beth sy'n digwydd yn y conclaf?

Bydd ychydig dros 130 o gardinaliaid yn dod at ei gilydd i ethol pab newydd
- Cyhoeddwyd
Dirgelwch, bargeinio, myfyrio, mentyll coch, mwg du a gwyn, mae cyfrinachau'r conclaf yn hudo ers canrifoedd.
Dyma un o etholiadau hynaf a mwya' dirgel y byd, a hynny i ethol dyn – does dim merch yn agos at y broses – i arwain tua 1.4 biliwn o babyddion ac un o arweinwyr crefyddol enwoca'r byd.
Cardinaliaid sy'n dewis y pab - sef uwch swyddogion o fewn yr eglwys sy'n ei gynghori.
Mae 'na dros 250 i gyd o dros 90 o wledydd, ond dim ond y rheiny o dan 80 oed sy'n cael pleidleisio. 133 sydd â'r hawl hwnnw y tro yma.
Fe gafodd dros 100 o'r rheiny eu penodi gan y Pab Ffransis, pab y cyrion oedd yn awyddus i godi llais gwledydd y tu hwnt i Ewrop. Am y tro cyntaf felly fe fydd gan wledydd fel Haiti, Myamar a Rwanda gynrychiolwyr yn y conclaf.
Ond dyw hynny ddim yn golygu bod y canlyniad yn hawdd i'w ddarogan. Mae hon yn frwydr rhwng y ceidwadol a'r rhyddfrydol – y cardinaliaid hynny sy'n awyddus i barhau ar lwybr Ffransis tuag at Eglwys fwy eangfrydig a goddefgar, a'r rheiny sydd am ddychwelyd at ddysgeidiaeth mwy ceidwadol yn gadarn yn erbyn ordeinio merched a pherthnasau hoyw.
Tu ôl i ddrysau caeedig
O'r lladin cwm clave, gydag allwedd, mae'r cardinaliaid yn cael eu cloi o'r byd drwy gydol y coleg etholiadol.
Ar ôl tyngu llw o gyfrinachedd, mae eu cyswllt â'r byd yn dod i stop – dim ffonau, dim teledu na radio, dim negeseuon. Eu cartref drwy gydol y broses fydd Casa Santa Marta, adeilad pump llawr y tu ôl i Basilica San Pedr a chyn gartref Pab Ffransis.
Dros y dyddiau diwethaf, mae'r ystafelloedd syml, cyfforddus wedi cael eu harchwilio a'u selio a'u dosbarthu ar ôl i enwau cardinaliaid gael eu tynnu o het. Mi fydd prydau syml a llesol yn cael eu gweini i borthi'r myfyrio.

Bydd cardinaliaid yn mynd i Gapel Sistina i fwrw eu pleidlais, gyda'r bleidlais gyntaf i gael ei chynnal brynhawn Mercher
Ac yna mi fyddan nhw'n cerdded draw i ganolfan bleidleisio odidoca'r byd, Capel Sistina, gyda murluniau Michaelangelo yn gefnlen i'r cyfan.
Fe fydd y bleidlais gyntaf yn cael ei chynnal brynhawn Mercher gyda'r cardinaliaid yn rhoi un enw ar ddarn o bapur gan sicrhau bod eu llawysgrifen yn anhysbys.
Wedi hynny, fe fydd pedair pleidlais bob dydd ac os 'na fydd cytundeb wedi tridiau, yna saib a diwrnod o weddi.

Bydd llygaid y byd ar y simdde arbennig sydd wedi ei gosod uwchben Capel Sistina, a bydd mwg gwyn yn arwydd bod pab newydd wedi ei ethol
Bob tro fe fydd y papurau pleidleisio yn cael eu llosgi mewn ffwrnais arbennig wedi ei osod yng nghefn y capel.
Os nad yw un enw wedi denu dau draean o'r bleidlais yna fe fydd cemegion yn cael eu hychwanegu at y tân i droi'r mwg yn ddu.
Ond pan fydd y trothwy wedi ei gyrraedd, fe fydd mwg gwyn yn codi drwy'r simdde yn arwydd i'r dorf ac i'r byd bod pab newydd wedi ei ethol.
'Mae gennym bab!'
Fe fydd yr enillydd yn cael cynnig y swydd, ac os yw'n gwrthod mae'r broses yn ail gychwyn, ond o'i derbyn fe fydd yn cael ei arwain yn syth i ystafell y dagrau - La Stanza Delle Lacrime, ger yr allor, â'r enw yn arwydd o emosiwn pabau dros y canrifoedd yn y munudau cyntaf ar ôl eu hethol.
Yno fe fydd yn cael ei wisgo mewn gwisg wen a mantell goch, er i'r Pab Ffransis wrthod mawredd y fantell.
Mae gwisgoedd o feintiau gwahanol wedi eu paratoi.
Fe fydd yn cael ei hebrwng wedyn i falconi Basilica i'w ddatgelu i'r byd a'r geiriau yn atsain ar draws Sgwar San Pedr: habemus papam! - Mae gennym Bab!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill