Ydy cyffuriau colli pwysau yn newid y diwydiant ffrogiau priodas?

Yn y llun yma mae Angie yn gwenu ar y camera wrth iddi sefyll wrth ymyl manequin. Mae Angie yn gwisgo siaced goch a chrys-t gwyn. Mae hi hefyd yn gwisgo band coch disglair ar ei phen ac mae ganddi wallt hir du.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angie Smith wedi addasu ffrogiau i 11 o fenywod sydd wedi dewis defnyddio cyffuriau colli pwysau eleni

  • Cyhoeddwyd

I nifer sy'n paratoi at eu priodas, mae'r disgwyliadau i edrych yn berffaith ar y diwrnod mawr yn gallu bod yn ormod.

Mae meddyginiaethau colli pwysau, fel Ozempic a Mounjaro, wedi trawsnewid priodasau i rai sy'n dymuno colli pwysau yn gyflym.

Ond mae newidiadau radical wedi gadael rhai cwmnïau priodas dan y don, ac yn ail-feddwl sut maen nhw'n rhedeg eu busnesau.

Mae gwniyddesau yn dweud eu bod yn gweld mwy o fenywod yn colli pwysau yn gyflym cyn eu diwrnod mawr - sy'n arwain at addasiadau brys a drud.

Eleni, mae'r wniadwraig Angie Smith o Wenfô ym Mro Morgannwg wedi gweithio gydag 11 priodferch sydd wedi dewis defnyddio cyffuriau colli pwysau.

"Daeth priodferch i mewn, oedd eisoes wedi bod ar daith pwysau y flwyddyn gynt ac wedi cyrraedd plateau, ac yna penderfynodd ei bod hi'n mynd ar y pigiadau colli pwysau," meddai.

"Pan ddaeth hi am fesuriad olaf, do'n i ddim yn adnabod y fenyw oedd yn cerdded i fyny'r dreif."

Dywedodd Angie ei bod hi wedi cael "ychydig o sioc" pan allai "roi fy nwrn i lawr cefn y ffrog" ond ei bod hi'n gallu ei theilwra yn y pendraw.

Mae Angie yn cydnabod, er gwaethaf y pwysau parhaus i gadw i fyny â'r archebion, fod yna werth pan mae priodferch yn cael ei ffrog berffaith.

"Rwy'n credu'n bersonol o'm safbwynt i, os yw'n gwneud gwahaniaeth i'w lles, dydw i ddim yn gweld y broblem gydag ef."

'Hunllef logistaidd'

Er bod rhai pigiadau colli pwysau ar gael ar bresgripsiwn ar y gwasanaeth iechyd, y cyngor yw defnyddio meddyginiaethau rheoli pwysau dim ond os yw meddyg neu fferyllydd yn eu hargymell i chi.

Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n troi at bigiadau colli pwysau wedi gweld gwniyddesau fel Angie yn gwneud penderfyniadau ar sut maen nhw'n gweithio yn y dyfodol i amddiffyn eu busnesau a'u staff.

"Yn logistaidd, mae wedi bod yn dipyn o hunllef," meddai Angie.

Dywedodd, ar ôl trafod "yr holl bethau arferol" gyda'r briodferch am eu ffrog a'u priodas, ei bod yn gofyn yn uniongyrchol a ydyn nhw'n defnyddio pigiadau colli pwysau.

"Dydw i ddim yn bod yn anghwrtais nac yn chwilfrydig - mae angen i mi wybod o safbwynt cynllunio oherwydd mae'n newid sut rwy'n gweithio," meddai.

Yn y llun yma mae par o ddwylo yn gweithio ar ffrog
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn tueddu i brynu ffrog briodas tua blwyddyn cyn y briodas ei hun

"Dyw llawer o briodferched ddim yn sylweddoli faint o waith sy'n mynd i mewn i'r ffrogiau," meddai Rhiannon Brown, 55 o Gaerdydd, sydd wedi rhedeg busnes addasu ffrogiau ers dros ddegawd.

Dywedodd er ei bod wedi "delio â cholli pwysau" mewn priodferched drwy gydol ei gyrfa, fod llawer o'i chleientiaid sy'n defnyddio pigiadau yn colli pwysau mawr o fewn wythnosau.

Gyda llai na 24 awr i fynd tan ei phriodas, roedd angen addasiad munud olaf ar un o briodferched Rhiannon o ganlyniad i golli pwysau annisgwyl pellach.

Dywedodd ei bod yn bwriadu egluro mewn gwaith papur yn y dyfodol y bydd ffi ychwanegol yn berthnasol os oes angen ail addasiad llawn ar briodferch oherwydd colli pwysau sylweddol.

Mae gan Rhiannon wallt hir melyn ac mae hi'n gwisgo crys-t du. Mae hi'n gwenu ar y camera yn erbyn wal frics wen.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Brown a'i thîm yn addasu 40 o ffrogiau'r wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor priodasau

"Cyn belled â bod priodferched yn onest gyda ni ac yn dweud wrthym ni eu bod nhw ar y daith yma, yna gallwn ni roi'r ffitio ychydig yn agosach at y briodas," meddai.

"Os ydyn nhw'n dod am eu hail ffitiad ac mae fel gwneud y ffitio cyntaf eto oherwydd eu bod nhw wedi colli cymaint o bwysau, yn amlwg bydd yn rhaid i ni godi tâl am hynny oherwydd ei fod yn fwy o oriau o waith."

Mae Rhiannon yn dweud bod terfyn hefyd ar faint o waith y gellir ei wneud cyn bod angen ffrog hollol newydd.

"Gallwn ni leihau ffrogiau dau faint yn gyfforddus yn dibynnu ar y steil.

"Ond unwaith y byddwch chi'n mynd dros hynny, bydd pwynt lle na allwn ni newid y ffrog i'r briodferch."

Pwnc 'tabŵ iawn'

Mae Georgie Mitchell a Beth Smith yn cyflwyno The Unfiltered Bride, podlediad lle mae pobl yn rhannu eu problemau priodasol a'u hawgrymiadau, gan gynnwys eu profiad o golli pwysau.

"Rwy'n credu bod y pigiadau colli pwysau yn dal yn dabŵ iawn," meddai Beth.

"Dydw i ddim yn gwybod a yw pawb yn teimlo'n gyfforddus i ddweud eu bod nhw arno."

Fel cynllunwyr a chyflenwyr priodasau eu hunain, mae Georgie a Beth yn cydnabod y pwysau sydd ar briodferched ar "y diwrnod sy'n cael ei ddogfennu fwyaf yn eu bywydau".

Ychwanegon nhw eu bod hefyd wedi gweld priodfeibion ​​yn dewis pigiadau mewn ymdrech i golli pwysau.

Georgie Mitchell a Beth SmithFfynhonnell y llun, The Unfiltered Bride
Disgrifiad o’r llun,

Georgie Mitchell a Beth Smith sy'n cyflwyno podlediad The Unfiltered Bride

Beth yw barn y rheiny sydd ar fin priodi, ac yn cymryd cyffuriau colli pwysau, felly?

Dywedodd Katie, fydd yn priodi yn ne Cymru yn 2026, ei bod hi'n deall pam y byddai angen i gwmnïau godi tâl ychwanegol wrth addasu ffrogiau ar ôl i rywun golli llawer o bwysau.

"Dwi wedi colli 4.5 stôn tra'n defnyddio Mounjaro," meddai.

"Ro'n i'n eithaf agored a gonest gyda'r siop wisgoedd wreiddiol yr es iddi."

Mae Katie bellach ar ddos ​​cynnal a chadw yn y cyfnod cyn ei phriodas y flwyddyn nesaf.

"Rwy'n sylwi bod fy nghorff yn newid," meddai.

"Mae'n siŵr y gwna i fynd lawr eto'n fuan i weld sut olwg sydd ar y ffrog, oherwydd dwi'n credu fy mod i wedi colli stôn arall ers i mi ei rhoi hi 'mlaen, felly mae'n mynd i edrych yn wahanol."

Prynu ffrog tri maint yn rhy fach

Aeth Martine, a briododd fis yma, ddim at ei gwniadwraig am addasiadau nes iddi gyrraedd ei "phwysau targed".

"Prynais hi [y ffrog] yn fwriadol dri maint yn rhy fach," meddai'r fam o Fryste.

"Ro'n i'n teimlo'n eithaf hyderus y byddwn i'n cyrraedd yno, ond ro'n i'n gwybod os na fyddwn i, y gellid addasu'r ffrog i'w gwneud yn fwy.

"Mae pawb yn edrych arnat ti, gan mai ti yw'r briodferch. Ro'n i eisiau edrych ar fy ngorau."

Mae Martine wedi colli dros bum stôn, sy'n cyfateb i 10 modfedd ar draws ei chorff, a dywedodd bod ei siâp wedi newid yn llwyr.

"Rwy'n deall, os yw rhywun yn mynd yno [at y wniadwraig] ac mae ganddyn nhw stôn i'w cholli o hyd, y bydd yn llawer mwy o waith.

"Es i yno gyda phwysau ble do'n i ddim am golli mwy."

Yn y llun yma gwelir par o ddwylo yn darlunio ffrog ar ddarn o bapur.
Disgrifiad o’r llun,

Mae addasu ffrogiau priodas yn gallu cymryd oriau, medd Angie Smith

Sut mae'r cyffuriau yma yn gweithio?

Y gred yw bod tua 1.5 miliwn o bobl ar gyffuriau colli pwysau yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Mae rhai pobl yn gallu cael y pigiadau - o'r enw Mounjaro a Wegovy - drwy'r gwasanaeth iechyd, ond mae'r mwyafrif yn eu prynu'n breifat.

Mae'r ddau gyffur yn effeithio ar eich awydd am fwyd trwy efelychu hormon sy'n gwneud i bobl deimlo'n fwy llawn.

Er bod nifer yn cymryd y moddion yma yn mewn ffordd hollol ddiogel, mae sgil effeithiau negyddol i rai pobl, gyda'r gwasanaeth iechyd yn rhybuddio na ddylid eu defnyddio heb bresgripsiwn gan feddyg.

"Fy mhrif bryderon yw pobl yn ei gaffael yn anghyfreithlon neu'n ei gael trwy sianeli sy'n anniogel - pobl sydd ddim yn cymryd y feddyginiaeth gywir, neu nid y dos cywir," meddai Dr Tom Kamal, meddyg teulu o Fro Morgannwg sydd hefyd yn rhedeg clinig estheteg a lles preifat.

"Mae hynny mor, mor anniogel, a phan nad ydyn nhw'n ei wneud yn y lleoliad gofal iechyd cywir neu o dan yr oruchwyliaeth gywir, yn anochel byddwn yn gweld cymhlethdodau a sgîl-effeithiau o ganlyniad."

Pynciau cysylltiedig