'Cafodd fy nghyn-bartner ddedfryd mor fyr am fy nhagu'

Sophie Henson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Henson y byddai hi wedi hoffi gweld y canllawiau yn cael eu cyflwyno cyn ei hachos hi

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys disgrifiadau o droseddau a allai beri gofid.

Mae dioddefwyr yng Nghymru wedi croesawu canllawiau newydd ar gosbi troseddwyr sy'n tagu (strangle).

"Dylai o ddim cael ei ystyried fel trosedd fach - ro'n i'n meddwl 'mod i am farw pan ddigwyddodd o i fi," meddai Sophie Henson, 24.

Dywedodd ei bod nawr yn teimlo'n dawel ei meddwl o weld "tagu'n cael ei gymryd o ddifrif" gan y system gyfiawnder.

Cafodd Sophie ei thagu gan ei chyn-bartner pan oedd hi 36 wythnos yn feichiog, mewn lleoliad anghysbell i ffwrdd o'i chartref.

Mae hi a goroeswyr eraill wedi croesawu canllawiau newydd ar gosbi troseddwyr, ar ôl i'r Cyngor Dedfrydu gyhoeddi'r argymhellion cyntaf ar gyfer barnwyr ac ynadon yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r argymhellion yn rhoi cyngor i farnwyr ar sut i ddedfrydu mewn achosion o'r fath, a pha ffactorau allai ddylanwadu ar hyd y ddedfryd.

Ffynhonnell y llun, Sophie Henson
Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd Sophie lun o gleisiau ar ei gwddf ar ôl cael ei thagu yn 2023

Dywedodd Sophie, o Ben-y-bont ar Ogwr: "Ro'n i'n teimlo fel pysgodyn marw, roedd fy ngheg ar agor, fy nghorff mor llipa."

Cafwyd ei chyn-bartner Zac Pennell yn euog fis Ionawr o reoli trwy orfodaeth a thagu bwriadol.

"Pan gafodd 21 mis yn y carchar, roedd yn dorcalonnus," meddai Sophie.

"Ro'n i'n teimlo ei bod yn ddedfryd mor fyr am ba mor beryglus yw e.

"Rwy'n credu y bydd y canllawiau newydd yn helpu pobl i gael cyfiawnder, y bydd yn cael ei gymryd o ddifrif ac mae'n gam cadarnhaol."

Disgrifiodd tagu fel "ymosodiad agos a phersonol" sy'n gallu ac weithiau yn cymryd bywydau.

Daw ar ôl cyhoeddiad cynharach y bydd cyn-bartneriaid cenfigennus sy'n lladd neu'n tagu eu dioddefwyr yn derbyn cyfnodau llymach o garchar.

Beth yw'r canllawiau newydd?

Hyd yma doedd dim arweiniad i farnwyr ar y math o ddedfrydau i'w rhoi i bobl sy'n euog o dagu (strangulation) neu fygu (suffocation).

Mae'r argymhellion newydd yn cynnig arweiniad ar faterion fel hyd dedfrydau.

Mae'n cynnwys manylion neu ffactorau sy'n cynyddu difrifoldeb, fel presenoldeb plant, neu os yw'r dioddefwr yn feichiog.

Mae hefyd yn amlygu ffactorau sy'n lleihau difrifoldeb, gan gynnwys edifeirwch, anhwylder meddwl neu anabledd dysgu.

Daw'r canllawiau newydd i rym ar 1 Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Johanna Robinson y gall tagu "arwain at strôc, anaf i'r ymennydd a marwolaethau"

Dywedodd Johanna Robinson, sy'n aelod o'r Cyngor Dedfrydu, fod y canllawiau newydd yn "gydnabyddiaeth bwysig iawn o'r niwed sy'n digwydd gyda thagu a mygu".

"Gall yr arwyddion o ran niwed corfforol fod yn eithaf cyfyngedig, ond fe all arwain at strôc, anaf i'r ymennydd a marwolaethau," meddai.

"Dwi'n meddwl, oherwydd y diffyg arwyddion corfforol, gall wneud i bobl danamcangyfrif pa mor aml mae'n digwydd."

'Anfon neges gref'

Dywedodd Ms Robinson - sydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol - fod cydnabod y niwed corfforol a seicolegol yn allweddol i'r canllawiau.

"Mae hefyd yn annog barnwyr i chwilio am arwyddion o gynllunio a bwriad i achosi niwed difrifol, a chwestiynu a oes yna gyhuddiad gwahanol, efallai o geisio llofruddio," meddai.

"Rwy'n gobeithio bod hyn [y canllawiau] yn anfon neges gref ac yn ei dro yn atal troseddau o'r fath."

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.