Uchafbwyntiau gigs Ionawr 2024

  • Cyhoeddwyd

Cynan Evans, o dîm Gorwelion, sy'n cymryd cipolwg ar galendr gigiau mis Ionawr gan hefyd edrych ymlaen at rai o ddigwyddiadau cerddorol mawr y flwyddyn.

Mae Gorwelion yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru i feithrin artistiaid a bandiau Cymreig.

Ffynhonnell y llun, Cwrw

RedRedRed

Cwrw, Caerfyrddin – 6 Ionawr

Mae RedRedRed yn fand pync weddol newydd o Sir Benfro ac maen nhw’n barod wedi gwneud argraff ar y sîn gerdd leol. Boed yn gig arferol neu'n sioe reslo, (maen nhw wedi perfformio yn ystod sioe reslo lleol!) bydd RedRedRed yn dod ag awyrgylch pync i'r digwyddiad.

Maen nhw’n cael eu cefnogi gan Lacrosse Club a Hazard, dau fand sydd wastad yn dod a thorf fawr i Cwrw, sydd ar Stryd y Brenin - felly digon i edrych mlaen ato fe.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranydd

Bwncath

Plas Isaf Country Barn , Corwen – 13 Ionawr

Does dim dwywaith fod Bwncath yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru. Cawsant haf prysur iawn yn 2023, gyda nifer o gigs mawr gan gynnwys Maes B. Maent yn dechrau 2024 gyda gig yng Nghorwen, y cyntaf o lawer mae'n siŵr.

Cafodd y band ei ffurfio yng Nghaernarfon yn 2014 gan ryddhau albym yn 2017.

Fe wnaeth canwr Bwncath, Elidyr Glyn, ennill Cân i Gymru yn 2019 gyda'r gân Fel Hyn ‘Da Ni Fod. Enillodd y band boblogrwydd pellach yn sgil hynny gan ryddhau ail albym yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Sŵn

Sŵn Winter Warmers

Clwb Ifor Bach – 13, 20 a 27 Ionawr

Mae Sŵn wedi cyhoeddi tri gig Winter Warmers yng Nghlwb Ifor Bach ar gyfer mis Ionawr. Nod y tair sioe yma yw arddangos y talent sydd ar gael yng Nghymru.

Arddull roc yw ffocws y noson gyntaf a Banshi yw un o’r grwpiau sy’n perfformio. Mae artistiaid fel Fleetwood Mac, Jefferson Airplane a Jeff Buckley wedi dylanwadu arnynt felly os ydych yn hoff o’r artistiaid yma, mae Banshi yn fand y mae angen i chi i wrando arno.

Artistiaid mwy pop sydd yn yr ail wythnos: Twst, Plastic Estate a Kitty & Sorry Stacy. Chloé Davies yw enw iawn yr artist Twst ac fe gafodd ei henwi yn rhestr 'Ones to Watch' The Guardian.

Mae'r drydedd o'r tair sioe yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth MOBO a hip hop. Un o artistiaid y noson hon yw Razkid, artist grime o Gaerdydd sydd wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn 2023. Dylai'r gig yma fod yn ddechrau cryf i'w flwyddyn.

Independent Venue Week

Ffynhonnell y llun, IVW

Mae Independent Venue Week yn digwydd ar draws Prydain ac mae'n dechrau ar 29 Ionawr. Mae’n ddathliad o leoliadau cerddoriaeth annibynnol ar draws Cymru felly dyma’r amser gorau i gefnogi eich feniw lleol ac i ddal gig ansawdd uchel yn eich ardal.

Bydd degau o gigiau yn cael eu cynnal ledled y wlad. Gallwch ddod o hyd i'r digwyddiadau agosaf atoch chi ar wefan Independent Music Week, dolen allanol.

Edrych ymlaen at weddill y flwyddyn:

Focus Wales

Ffynhonnell y llun, Focus Wales

Mae Focus Wales wedi bod yn ŵyl flynyddol yn Wrecsam ers 2011, ac mae hi’n dal i dyfu bob blwyddyn.

Ddiwedd 2023 cyhoeddwyd rhestr o 70 artist a fydd yn yr ŵyl eleni, gydag artistiaid megis Spiritualized, The Mysterines, The Bug Club, Adwaith a llawer mwy o berfformwyr adnabyddus o Gymru. Bydd rhagor o artistiaid ac mae Focus Wales hefyd yn gwahodd acts rhyngwladol i mewn i sîn cerddoriaeth Cymru.

Cadwch lygad mas am fwy o gyhoeddiadau gan Focus Wales a chliriwch eich calendrau am y 9-11 Mai 2024!

Immersed

Ffynhonnell y llun, Immersed Festival

Immersed yw’r ŵyl gerddoriaeth a chelf sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol De Cymru ar 2 Mawrth yn Tramshed, Caerdydd.

Dyma’r chweched flwyddyn i'r brifysgol gynnal yr ŵyl ac mae digon o ddewis fel bod rhywbeth at ddant pawb. Mae dros 50 o artistiaid yn perfformio. Un o'r prif artistiaid fydd yn perfformio yw Bob Vylan, enillwyr gwobr MOBO, Grove a Chroma.

Pynciau cysylltiedig