Oedi i rai myfyrwyr cyn cael marciau eu gradd

Eve Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eve Davies wedi cael gwybod na fydd yn derbyn ei chanlyniad terfynol tan fis Medi

  • Cyhoeddwyd

Gallai myfyrwyr sy'n eu blwyddyn olaf wynebu oedi cyn cael marciau eu harholiadau terfynol wrth i ddarlithwyr foicotio marcio ac asesu yn sgil gweithredu diwydiannol.

Mae un myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi cael gwybod ei bod hi'n bosib na fydd yn derbyn ei marciau tan o leia' fis Medi.

Mae aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn galw am well tâl ac amodau.

Dywed Prifysgol Caerdydd ei bod yn flin ganddynt bod y gweithredu yn achosi ansicrwydd i fyfyrwyr.

Methu dathlu'n iawn

Dywed Eve Davies bod ei chyfnod o dair blynedd yn y brifysgol wedi bod yn helbulus wrth i Covid-19 amharu ar addysg y ddwy flynedd gyntaf a chyfres o streiciau yn y drydedd flwyddyn.

Mae hi bellach yn wynebu peidio cael gwybod canlyniad terfynol ei gradd tan ar ôl yr haf.

"Y cyfan ry'n wedi'i glywed yw na fyddwn yn cael ein marciau tan fis Medi y cyntaf," meddai.

"Maen nhw wedi nodi hwnna fel dyddiad dros dro ond fe fydd ein seremonïau graddio yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf boed ni wedi cael ein marciau neu beidio.

"Fe fyddai'n well gen i wybod fy mod wedi gwneud yn dda a dathlu fy ngradd."

Dywed Ms Davies ei bod yn deall pam bod darlithwyr yn gweithredu'n ddiwydiannol ond ei bod hi hefyd yn bryderus am y dyfodol am ei bod wedi derbyn cynnig amodol i wneud gradd bellach - gyda'r cwrs hwnnw fod i ddechrau ar 25 Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddarlithwyr Bangor yn streicio yn 2019

Mae undebau prifysgolion wedi bod yn streicio yn sgil cytundebau dros dro, tâl a phwysau gwaith ers 2019.

Yn ôl Dr Emily Lowthian, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r amodau wedi gwaethygu yn ystod ei chyfnod hi yn y sector.

Cyn iddi gael swydd darlithydd llawn amser roedd Dr Lowthian yn mynd o un cytundeb byr i un arall gyda'r hyd yn amrywio o saith mis i ddwy flynedd.

Dywed hefyd bod argyfwng costau byw yn golygu ei bod hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Emily Lowthian ei bod yn amhosib iddi brynu tŷ yn yr argyfwng costau byw presennol

"Yn sgil yr argyfwng costau mae'n anodd i mi fynd i'r farchnad dai," meddai.

"Fe fyddech yn disgwyl i rywun sydd wedi hyfforddi am saith mlynedd fod yn gallu prynu tŷ yn gymharol hawdd gan ystyried fy mod wedi aberthu llawer o'm mywyd i astudio ac i gael swydd sy'n talu'n dda.

Wrth iddi weithredu'n ddiwydiannol gan beidio â marcio, mae Dr Lowthian yn colli 50% o'i chyflog - rhywbeth mae hi'n ei deimlo sy'n anghyfartal.

"Ni ddim yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a phan mae pobl yn ein cosbi drwy dynnu 50-100% o gyflog am beidio gwneud 5-10% o waith, er enghraifft, dyna lle mae'r broblem." 

Dywed Dr Lowthian ei bod yn deall pa mor anodd yw hi i fyfyrwyr wynebu y fath ansicrwydd ac mae'n eu hannog i gwyno i'r is-ganghellor.

Methu fforddio cynnig gwell

Dywed Raj Jethwa, prif weithredwr Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r pwysau costau byw sy'n wynebu staff prifysgol ond bod yr esgid ariannol yn gwasgu.

"Y cynnig diweddaraf yw'r uchaf y gall y sector ei fforddio, ac ers i ni wneud y cynnig hwnnw yn Chwefror mae sawl sefydliad wedi gorfod gohirio'r codiad cyflog am eu bod yn wynebu pwysau ariannol.

"Felly mae'n hynod o anodd i sefydliadau ond maen nhw wedi cynnig codiad cyflog sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Andy Williams o gangen UCU Caerdydd yn credu bod mwy o bwyslais ar gosbi staff na chydweithio

Mae Dr Andy Williams, llefarydd cangen Caerdydd o'r UCU yn credu bod yr arian ar gael ac yn dweud y gallen nhw fod yn cael cynnig gwell i gydfynd â chwyddiant.

"Mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn cosbi staff na chydweithio gyda ni ac mae'n rhaid i hynna newid," meddai.

Cael gradd - ond yna ei hadolygu

Dywed Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe bod hwn yn anghydfod cenedlaethol ac nad oes modd ei ddatrys yn annibynnol.

Maen nhw hefyd yn dweud bod ganddynt hawl yn gyfreithiol i dynnu arian o gyflogau os nad yw staff yn cyflawni eu dyletswyddau'n llawn.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe eu bod yn gwneud eu gorau i leihau'r effaith ar fyfyrwyr, bod ganddynt berthynas dda gyda'r undebau yn lleol a'u bod yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o undeb yr UCU ac undebau eraill i ddelio â phryderon fel pwysau gwaith a chytundebau dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd eu bod yn flin bod y gweithredu yn achosi ansicrwydd i fyfyrwyr.

Fe fydd myfyrwyr sydd wedi dangos digon o dystiolaeth eu bod wedi cwrdd â gofynion eu gradd yn cael tystysgrif yn dweud eu bod wedi graddio, ond bydd y radd honno yn cael ei hadolygu unwaith y bydd y marciau terfynol wedi dod i law.

Ychwanegodd llefarydd bod y brifysgol yn parhau yn ymrwymedig i weithio'n adeiladol gydag undeb yr UCU.