Canfod corff deifiwr aeth ar goll ym Mhen Llŷn

Imrich MagyarFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Imrich Magyar wedi bod ar goll ers 28 Tachwedd ar ôl mynd i drafferthion oddi ar arfordir Porth Ysgaden

  • Cyhoeddwyd

Mae corff deifiwr a aeth ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn ddiwedd Tachwedd wedi cael ei ganfod.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y cafodd corff Imrich Magyar, 53 o ardal Warrington, ei ganfod yn ardal Llangwnnadl ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.

Roedd wedi bod ar goll ers 28 Tachwedd ar ôl mynd i drafferthion oddi ar arfordir Porth Ysgaden.

Cafodd ei gar a'i eiddo personol eu darganfod mewn maes parcio gerllaw, a dechreuodd y gwaith o chwilio amdano.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Y teulu'n 'diolch i bawb'

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Magyar: "Diolch i'r heddlu, gwylwyr y glannau, y bad achub a phawb arall am helpu i chwilio am Imrich.

"Mae'r teulu yn ddiolchgar am yr holl ymdrech a wnaed ac i'r bobl a ddaeth allan i helpu.

"Diolch i'r heddlu a swyddfa'r crwner am eu cefnogaeth a'u cymorth i'r teulu. Diolch i bawb."

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd, Andrew Gibson o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion Imrich, sydd wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cymorth yn ystod y chwilio."

Pynciau cysylltiedig