'Mae hwn yn ddiwedd yr iaith Gymraeg ar radio annibynnol'

Kev Bach, Lois Cernyw ac Alistair James Ffynhonnell y llun, Global
Disgrifiad o’r llun,

Kev Bach, Lois Cernyw ac Alistair James - rhai o gyflwynwyr Cymraeg Capital Cymru ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Gyda phryderon bod Capital Cymru ar fin dod â'i holl raglenni Cymraeg i ben mae 'na gwestiynau yn cael eu codi am ddyfodol radio lleol.

Yma, mae awdur Chwyldro ym Myd Darlledu a chyn-newyddiadurwr gyda Sain Abertawe, Sian Sutton, yn ymchwilio i beth ddigwyddodd i lais Cymru a llais lleol ar radio annibynnol:

Sain Abertawe yn arloesi

Yn 1974 fe wnaeth Sain Abertawe dorri tir newydd ym myd darlledu wrth gynnig y gwasanaeth radio dwyieithog cyntaf drwy Brydain.

Yn ôl y ffigyrau gwrando roedd dros 60% o bobl ardal de-orllewin Cymru – rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro - yn gwrando ar raglenni'r orsaf a'r arbrawf yn cael ei ystyried yn llwyddiant.

Yn sgil hynny cafodd sawl gwasanaeth radio annibynnol newydd ei sefydlu yng Nghymru – CBC yng Nghaerdydd, Radio Gwent yng Nghasnewydd a Sain y Gororau yn Wrecsam, a thu hwnt.

Cwmnïau lleol oedd yn gyfrifol am y gorsafoedd a'u cynnwys a'r elfen leol oedd sylfaen eu poblogrwydd, a'r berthynas â'r gynulleidfa.

'Atal dirywiad yr iaith'

Ffynhonnell y llun, Bauer Media/Sain Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Stiwdio newydd Sain Abertawe yn cael ei adeiladu cyn iddo agor yn 1974

Dywedodd Wyn Thomas, oedd yn gyfrifol am gynnwys Cymraeg Sain Abertawe ar y dechrau:

"Ym 1982 roedden ni ynghanol yr eira mawr a dyna oedd nifer yn cofio am y gwasanaeth yr oedd Sain Abertawe yn ei gynnig, a base wedi bod yn hwylus iawn yn ystod Covid er enghraifft. Roedd y berthynas yna yn hollbwysig.

"Nid arian oedd yr holl beth i'r rhai oedd wedi sefydlu'r rhain ond eisiau cael gwasanaeth arbennig o dda a newyddion yn bennaf i bobl yr ardal.

"Mi oedd yn gyfle i gychwyn gyrfaoedd nifer fawr o bobl aeth ymlaen i orsafoedd BBC Radio Cymru a Radio Wales ac yn y blaen.

"Ond hefyd y ffaith ein bod wedi cael rhaglenni Cymraeg ein hardal ein hunain - Cymraeg Cwmtawe a Llanelli - oedd yn hollbwysig. Oedd hi'n ofnadw' o bwysig i gynnal yr iaith ac i atal y dirywiad oedd yn digwydd. Mi oedd colli hwnnw yn bechod difrifol."

Colli lleisiau lleol

Ffynhonnell y llun, Sain Abertawe/Bauer Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y rhaglen Gymraeg olaf ei darlledu ar orsaf arloesol Sain Abertawe ym mis Tachwedd 2023

Ar y pryd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol, IBA, oedd yn rheoleiddio'r gwasanaeth radio annibynnol newydd ac yn mynnu rhoi lle i'r Gymraeg.

Dywedodd Wyn Thomas: "Mi oedden nhw yn llym eu rheolau a'r rheolau yn dda - yn gorfodi Sain Abertawe i roi 13% o'r gwasanaeth yn Gymraeg ac yn uwch wrth ddosbarthu ar draws y rhaglenni i gyd - oedd yn beth da.

"Ac roedd rhan o'r arian oedden ni'n gwneud o hysbysebion yn gorfod mynd i gael cerddoriaeth byw. Oedden i wrth fy modd â'r IBA oedd yn gorfodi pobl."

Ond dros y blynyddoedd cafodd gorsafoedd bach annibynnol eu prynu gan gwmnïau masnachol mwy gan ganoli'r gwasanaeth a cholli'r lleisiau ac acenion lleol.

Ar ôl newid y rheolau yn 2020 daeth enw Sain Abertawe/Swansea Sound i ben wrth i'r orsaf ymuno â Greatest Hits Radio a chafodd y rhaglen Gymraeg olaf ei darlledu ym mis Tachwedd 2023.

Diwedd cyfnod

Pasio Deddf Cyfryngau gan Senedd y DU y llynedd sy'n golygu bod Global Radio wedi gallu cyhoeddi y bydd eu rhaglenni lleol yn dod i ben. Mae disgwyl i holl raglenni Cymraeg Capital Cymru – a'r elfennau lleol o'r gwasanaeth mewn dinasoedd yn Lloegr - ddiflannu ar 24 Chwefror.

Yn ôl y sylwebydd ar ddarlledu a'r cyn-ddarlithydd ym mhrifysgol Northampton, Marc Webber, mae hyn yn ddiwedd cyfnod ar y sector radio annibynnol yng Nghymru.

Meddai: "Mae hwn yn ddiwedd ar radio annibynnol yng Nghymru heblaw am Nation Radio sydd yn Saesneg… ond yn bendant diwedd yr iaith Gymraeg ar radio annibynnol."

Mae'n bosib bod dyfodol eto i radio cymunedol ond, meddai, ni ddylai'r gwasanaeth fod yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.

"Erbyn hyn mae ambell orsaf gymunedol ar gael - Môn FM a Bro FM a Radio Tir Coed yn Abertawe neu yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor sy'n gwneud swydd wych," meddai.

"Ond does neb yn cael cyflog neu'n cael eu talu. Maen nhw'n gweithio yn rhad ac am ddim, yn wirfoddolwyr. Sut mae creu gyrfa mas o hwnna? Dylai gwaith radio ddim troi yn achos da."

Datganoli darlledu

Mae'r cyn-aelod o'r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn pryderu am golli lleisiau lleol, swyddi a thrafodaethau ar bynciau lleol wrth i'r radio annibynnol newid a diflannu.

Mynegodd ei bryder, bod Cymru yn colli ei llais ym myd radio lleol, mewn cyflwyniad i bwyllgor y Senedd yn 2018 a bu'n feirniadol o Ofcom gan alw am ddatganoli darlledu i Gymru.

Mae Wyn Thomas yn cefnogi'r alwad am ddatganoli er yn feirniadol o Senedd Cymru am fod yn araf yn ymateb i'r newid ym myd radio lleol dros y degawdau.

Meddai: "Byddwn i wedi gobeithio y byddai'r llywodraeth wedi gweld beth oedd yn mynd i ddigwydd a'r dirywiad ar raglenni Cymraeg a rhaglenni cyffredinol a'r berthynas arbennig rhwng y gorsafoedd a'u cynulleidfa a deall y byddai hynny'n gostus i ni fel cymdeithas yn gyflawn ac y bydden nhw wedi rhoi stop ar y peth.

"Byddwn wrth fy modd yn gweld darlledu yn cael ei ddatganoli."

Llywodraethau am 'ystyried yr oblygiadau'

Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), bod y Ddeddf Cyfryngau'n rhoi "rhagor o hyblygrwydd" i orsafoedd masnachol "gyrraedd anghenion eu cynulleidfaoedd".

Ychwanegodd y llefarydd mai penderfyniad Global ydy hyn ond eu bod yn "siomedig" bod hynny'n golygu torri rhaglenni Cymraeg, gan ddweud bod Llywodraeth y DU yn "gefnogwyr cryf" o ddarlledu Cymraeg ac am ystyried oblygiadau'r penderfyniad gyda Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Cymru Greadigol wedi gweithio gyda "Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ofcom, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, TAC a Pact i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu rheoliadau, polisïau ac ymyriadau perthnasol".

Ychwanegodd y byddai'r trafodaethau yn parhau gyda llywodraeth newydd y DU.

Mewn datganiad, dywedodd Global eu bod nhw yn gwneud newidiadau ac fe fydden nhw'n cyhoeddi mwy o fanylion maes o law.

Mae Cymru Fyw wedi gwneud cais i Ofcom am sylw.