Eluned Morgan: Diffyg parch wedi bod at ddatganoli

Mae Eluned Morgan wedi cyhuddo ASau Llafur Cymru yn San Steffan o beidio â brwydro dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod diffyg parch wedi bod tuag at ddatganoli gan Lywodraeth y DU.
Daw wedi i Eluned Morgan wneud araith a oedd yn dweud "na fyddai hi'n oedi wrth gwestiynu" rhai o benderfyniadau Llywodraeth y DU.
Yn yr araith ddydd Mawrth, dywedodd y bydd yn "herio" y Llywodraeth Lafur yn San Steffan os ydyn nhw'n gwneud pethau "sy'n niweidiol i Gymru".
Daw wedi i arolwg barn awgrymu mai Llafur sydd yn y trydydd safle yng Nghymru, union flwyddyn cyn etholiad y Senedd.
Yn yr arolwg gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, Plaid Cymru sydd ar y blaen ar 30%, mae Reform UK ar 25% a Llafur ar 18% - yr isaf i Lafur mewn unrhyw arolwg barn ar gofnod yng Nghymru.
Yn siarad yn ddiweddarach, dywedodd bod rhaid cymryd yr arolwg "o ddifrif", ond y byddai'n "canolbwyntio, wrth gwrs, ar ddelifro beth sydd angen ar bobl Cymru".
'Rhoi Cymru cyn y blaid Lafur'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "ffaith" iddi weld diffyg parch dros ddatganoli gan Lywodraeth y DU.
"Welon ni fe o dan y Torïaid cyn hyn... a dyna beth oedd yr araith yn dynodi ddoe," meddai.
Ychwanegodd bod 'na feysydd lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, lle nad ydyn nhw wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru.
"Maen nhw'n gweithredu mewn ffordd na ddylen nhw - heb barchu datganoli - felly mae'n bwysig bod ni'n dweud fod angen i hwnna stopio."
Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Llafur, "bob amser yn mynd i sicrhau ein bod ni'n rhoi gofynion pobl Cymru o flaen popeth arall".
"Mae'n dweud ar fy membership form Llafur i, 'gwlad yn gyntaf'. Fy ngwlad i yw Cymru, ac felly mae'n rhaid i fi roi Cymru cyn y blaid Lafur," meddai.

Dywedodd Eluned Morgan "na fyddai hi'n oedi wrth gwestiynu" rhai o benderfyniadau Llywodraeth y DU
Yn ei haraith ddydd Mawrth fe wnaeth y prif weinidog alw am dro pedol ynglŷn â'r penderfyniad i dorri ar lwfans taliadau tanwydd y gaeaf, a mynegodd bryder hefyd am newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau.
"Pan mae San Steffan yn gwneud penderfyniadau fydd, yn ein barn ni, yn niweidio cymunedau yng Nghymru, fyddwn ni ddim yn aros yn dawel," meddai.
Mynnodd nad oedd hyn yn arwydd o rwyg rhwng Llafur Cymru a'r blaid Brydeinig, ond yn hytrach yn arwydd o "lywodraeth aeddfed a modern".
Yn siarad fore Mercher, dywedodd ei bod wedi holi am rai o'r materion hynny eisoes "yn dawel, yn y cefndir" ond ei bod bellach eisiau codi'r materion yn gyhoeddus.
"Beth ni wedi gwneud tro 'ma yw gwneud e'n gyhoeddus ac i sicrhau bod Llafur y Deyrnas Unedig yn clywed yn gryf, yn gyhoeddus, ein bod ni'n mynnu'r pethau 'ma."
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
Ychwanegodd ei bod yn "hapus iawn i sicrhau ein bod ni'n cydweithredu gyda nhw [Llywodraeth y DU] lle ni'n gallu, ac mae pŵer mewn partneriaeth yn rhywbeth dwi'n awyddus i adeiladu arni".
"Dwi eisiau gweld mwy o evidence o hynny'n digwydd."
Dywedodd y bydd yn cwrdd â Syr Keir Starmer ddydd Iau, a'i bod yn gobeithio trafod yr hyn y mae hi wedi nodi yn ei haraith.
Yn siarad yn ddiweddarach, dywedodd y byddai "wastad yn mynd i roi Cymru'n gyntaf, dwi wastad mynd i sefyll lan dros fy ngwlad i, cyn fy mhlaid i".
"Mae e [Keir Starmer] yn ymwybodol o hynny, ond dwi eisiau gweld mwy o ran beth sy'n mynd i ddod i Gymru yn y dyfodol ac mae gyda nhw flwyddyn i helpu ni gyda hynny nawr."