Gallai etholiad y Senedd fod yn 'seismig' i Gymru - arbenigwr

Byddai'n enfawr os mai nid Llafur fydd y blaid fwyaf yn y Senedd ymhen blwyddyn, medd yr Athro Richard Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr gwleidyddol wedi dweud y gallai etholiad y Senedd yn 2026 fod yn "seismig" i wleidyddiaeth yng Nghymru.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, byddai'n newid enfawr os mai nid Llafur fydd y blaid fwyaf yn y Senedd ymhen blwyddyn.
Gyda blwyddyn i fynd, mae arolwg barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru a Reform UK ar y blaen i Lafur gyda phleidleiswyr yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd7 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl dros 100 mlynedd, cyn 1922, i ganfod etholiad pan nad oedd y blaid Lafur yn rheoli gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Mae hynny'n wir hefyd ym Mae Caerdydd, ble mae'r blaid wedi ennill pob etholiad i'r Senedd ers ei dyfodiad.
Ond am y tro cyntaf, mae hi'n llawer mwy aneglur ai Llafur fydd y blaid fwyaf yno wedi etholiad y Senedd ymhen blwyddyn.
Dan arweinyddiaeth Eluned Morgan, mae gan y blaid frwydr o'u blaenau os ydyn nhw am barhau i reoli gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Mae plaid Eluned Morgan yn wynebu her os am ddal eu gafael mewn grym yng Nghymru
Mae arolygon barn wedi bod yn awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn y Senedd.
Ond mae'r arolwg diweddaraf, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, yn awgrymu bod Plaid Cymru ar y blaen, a bod plaid Nigel Farage ar y blaen i Lafur hefyd, gyda'r Ceidwadwyr yn bedwerydd.
Mae'r system bleidleisio newydd fydd yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf yn 2026 yn golygu y gallai'r pedair plaid fod â nifer tebyg o aelodau'r Senedd, sy'n codi cwestiynau ynglŷn â sut y bydd llywodraeth yn cael ei ffurfio.
Mae'r newidiadau mawr allai ddigwydd yn 2026 yn rhannol oherwydd y ffaith bod nifer aelodau'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
Bydd 16 o etholaethau mwy, yn hytrach na'r 40 a fu yn y gorffennol, gyda chwe aelod yn cael eu hethol i gynrychioli pob un o'r etholaethau hynny.
Mae'r drefn newydd yn debygol o adlewyrchu'n well y gyfran o'r pleidleisiau i bob plaid.

Plaid Cymru - dan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth - sydd ar y blaen yng Nghymru, yn ôl yr arolwg barn
Roedd dau arolwg barn diweddar - gan Survation a Beaufort Research - yn rhoi Llafur ar y blaen i Blaid Cymru a Reform o drwch blewyn.
Ond mae arolwg a gyhoeddwyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd ddydd Mawrth yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18% - yr isaf i Lafur mewn unrhyw arolwg barn ar gofnod yng Nghymru.
Roedd y Ceidwadwyr ar 13%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, a'r Gwyrddion ar 5%.
Yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, fe sicrhaodd Llafur 37% o'r bleidlais yng Nghymru.
O ran seddi, mae'r arolwg barn yn awgrymu y byddai gan Blaid Cymru 35 o'r 96 sedd yn y Senedd, byddai gan Reform 30, Llafur 19, naw gan y Ceidwadwyr, a thair gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Byddai angen 49 aelod i ffurfio llywodraeth.
Cyfanswm sampl YouGov ar gyfer yr arolwg oedd 1,265 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 23 a 30 Ebrill 2025.
Yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd, fe fyddai'n "seismig" i wleidyddiaeth yng Nghymru os mai nid Llafur yw'r blaid fwyaf yn y Senedd wedi'r etholiad yn 2026.
Dywedodd bod y system bleidleisio a gafodd ei defnyddio yn y gorffennol ar gyfer y Senedd - cymysgedd o gynrychiolaeth gyfrannol a chyntaf i'r felin - wedi golygu bod Llafur wedi gallu ennill tua 50% o'r seddi gyda thua "traean y bleidlais".
Ond gyda'r system newydd, mae'r system yn fwy cyfrannol nag erioed.
Er hynny, dyw arolygon barn ddim yn fanwl gywir, a gyda blwyddyn i fynd, bydd pethau'n newid eto.
Ond ychwanegodd yr Athro Wyn Jones: "Hyd yn oed os ydy Llafur ond ar y blaen o ychydig, fe fyddai hynny'n enfawr, achos fe fyddai'n golygu na fyddai'r grŵp Llafur yn y Senedd lawer mwy na'r grŵp presennol - a byddai'r Senedd 36 sedd yn fwy".
Pwy allai gydweithio?
Mae'r awgrym na fydd gan yr un blaid fwyafrif yn y Senedd yn codi'r cwestiwn, pwy allai gydweithio er mwyn ffurfio llywodraeth?
Mae gwleidyddion yn gyndyn i drafod y pwnc yma, gyda blwyddyn i fynd eto tan yr etholiad.
Ond yr awgrym yw ei bod yn annhebygol y byddai Llafur yn gweithio gyda Reform neu'r Ceidwadwyr, gyda'r blaid yn hytrach wedi ffafrio cydweithio â Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol.
Mae Plaid Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n gweithio gyda Reform, ond dydyn nhw ddim wedi mynegi safbwynt eto ar gydweithio gyda phleidiau eraill.
Dywedodd Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr ei bod yn "bendant" y bydd angen clymblaid wedi'r etholiad, ond dydyn nhw ddim wedi dweud gyda phwy y byddan nhw'n fodlon cydweithio.
Mae Nigel Farage wedi dweud y byddai Reform yn fodlon cydweithio ag unrhyw blaid arall i ffurfio llywodraeth yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, os yw'r arolygon barn yn gywir, "yr unig lywodraeth gredadwy ydy rhyw fath o drefniant rhwng Plaid a Llafur", ond mae amser o hyd i bethau newid yn sylweddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Mawrth