Morgannwg yn dathlu wrth ennill y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
Mae cricedwyr Morgannwg wedi ennill y Cwpan Undydd, gan drechu Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham ddydd Llun.
Dyma'r eildro i'r sir o Gymru ennill y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw hefyd wneud hynny yn 2021.
Wedi i'r glaw olygu nad oedd modd ei chwarae ddydd Sul, rhoddwyd cynnig arall arni ddydd Llun, gyda'r gêm wedi'i chwtogi i un 20 pelawd yn hytrach na 50.
Cafodd Morgannwg ddechrau digon sigledig, gan gyrraedd sgôr o 65-4 wedi ychydig dros wyth pelawd.
Ond fe wnaeth pethau wella wedi hynny, gyda Sam Northeast yn serennu gyda sgôr o 63 heb fod allan, wrth i Forgannwg gyrraedd cyfanswm addawol o 186-7 yn eu 20 pelawd nhw.
Roedd y cyfanswm hwnnw yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r Cymry, wrth i Wlad yr Haf orffen ar sgôr o 171-6.
Roedd hynny'n golygu buddugoliaeth o 15 rhediad i Forgannwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024