Ailddatblygiad £50m Theatr Clwyd i greu 100 o swyddi

Delwedd o'r theatr ar ei newydd weddFfynhonnell y llun, Theatr Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o'r theatr wedi i'r prosiect ailddatblygu gael ei gwblhau

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £50 miliwn i ailddatblygu un o theatrau amlycaf y gogledd yn debygol o greu 100 o swyddi newydd.

Mae yna obeithion hefyd y bydd trawsnewid Theatr Clwyd yn Yr Wyddgug yn rhoi hwb blynyddol o hyd at £30 miliwn i’r economi leol.

Y disgwyl yw y bydd y prosiect uchelgeisiol wedi ei gwblhau y flwyddyn nesaf, gan droi'r aedeilad yn un carbon-positif.

Bydd mwy o manylion yn cael eu datgelu am y cynlluniau ym mis Medi.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol y theatr, Liam Evans-Ford: "Pan fyddwn yn ailagor y flwyddyn nesaf, ein nod yw bod yn gyrchfan drwy’r dydd i bobl o bob oedran a chefndir.

"Mae cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd yr ailddatblygiad oherwydd mai dyna’r her fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth."

Ffynhonnell y llun, REPT0N1X
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y theatr yn 1976 ond bellach mae problemau wedi codi gyda'r adeilad

Bydd y theatr yn cynnwys technolegau gwyrdd megis gwresogi ffynhonnell aer, ynni solar, a chasglu dŵr glaw, gan leihau ei hôl troed carbon 80%.

Ychwanegodd Mr Evans-Ford, sydd wedi bod yn rhedeg y prosiect ailddatblygu ers 2016: "Ar y dyddiau cywir, bydd yr adeilad yn niwtral o ran carbon, ac ar ddiwrnodau heulog, gallwn hyd yn oed fod yn carbon-positif."

O ran yr effaith economaidd, nododd: "Ar hyn o bryd rydym yn cynhyrchu tua £10 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn. Amcangyfrifir y bydd hynny’n dyblu neu'n treblu hyd yn oed unwaith y byddwn yn agored yn llawn."

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, Liam Evans-Ford

Bydd yr ailddatblygiad hefyd yn creu gofodau newydd ar gyfer rhaglenni cymunedol ac hyfforddiant talent, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer digwyddiadau.

"Rydym yn un o’r ychydig theatrau yn y DU sy’n dal i gynhyrchu popeth yn fewnol – o’r gwisgoedd i’r setiau a’r props," meddai Mr Evans-Ford. "Bydd hyn yn cryfhau ein gallu i gynhyrchu theatr o’r radd flaenaf."

Bydd yr arlwyo newydd yn y theatr dan ofal y cogydd teledu enwog Bryn Williams, gan ychwanegu at yr apêl yn gyffredinol i ymwelwyr.

Mae arweinwyr busnes lleol hefyd wedi croesawu’r cynllun.

Dywedodd Ian Edwards, aelod blaenllaw o'r corff Wrexham Business Professionals: "Mae cyfraniad Liam yn tanlinellu pa mor bwysig yw’r celfyddydau creadigol yn economi’r rhanbarth."

Ychwanegodd ei gyd-aelod Louise Harper: "Mae’n amlwg bod Gogledd-Ddwyrain Cymru yn ardal fywiog lle gall celfyddydau a busnes gydweithio i greu dyfodol mwy llewyrchus."

Pynciau cysylltiedig