'Cyfle prin' i adeiladu morlyn llanw rhwng Cymru a Lloegr

Afon/Aber HafrenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Aber Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd

  • Cyhoeddwyd

Dylai morlyn llanw (tidal lagoon) gael ei greu yn Aber Hafren er mwyn cynhyrchu trydan, yn ôl adroddiad.

Gwrthododd Comisiwn Aber Afon Hafren gynigion ar gyfer morglawdd mawr ar draws yr Hafren.

Yn hytrach, mae'n dweud y dylai llywodraethau Cymru a'r DU helpu i adeiladu prosiect llai o faint i fanteisio ar rym y llanw ar ffin Cymru a Lloegr.

Ond mae cyn-ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Peter Hain, wedi beirniadu'r cynigion gan ddweud y byddai angen 50 morlyn i gystadlu ag un morglawdd.

Byddai prosiect morlyn llanw – y cyntaf yn y byd – yn hybu'r economi a chreu tystiolaeth ynglŷn ag ynni'r llanw, meddai'r adroddiad.

map

Mae'r galw am drydan ym Mhrydain yn debygol o fwy na dyblu erbyn 2050, meddai'r comisiwn.

Mae gan Aber Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd, gan gynnig "cyfle prin" i'r Deyrnas Unedig.

Bu sawl cynnig i adeiladu morglawdd ar draws yr Hafren ar hyd y blynyddoedd, ond heb gefnogaeth ffurfiol gan y llywodraeth fe fethon nhw â denu cyllid.

Mae grwpiau amgylcheddol yn gwrthwynebu morglawdd mewn aber sydd wedi ei warchod fel gwlypdir o bwysigrwydd rhyngwladol.

Byddai'r morlyn wedi gallu darparu trydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlyneddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai morlyn Bae Abertawe - cynllun a gafodd ei wrthod yn 2018 - wedi gallu darparu trydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd, yn ôl y datblygwyr

Mae morlynnoedd yn cael eu ffurfio trwy adeiladu wal o amgylch bae neu ar yr arfordir er mwyn dal dŵr wrth i'r llanw ddod i mewn.

Ar drai mae'r dŵr yn cael ei ryddhau, gan droi tyrbinau i gynhyrchu trydan.

Roedd 'na gynigion i adeiladu morlyn ym Mae Abertawe.

Cafodd un cynllun, a gafodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ei atal gan lywodraeth Geidwadol y DU yn 2018 oherwydd nad oedd, medden nhw, yn cynnig gwerth am arian.

'Angen 50 lagŵn'

Ond yn ôl yr Arglwydd Peter Hain, cyn-ysgrifennydd Cymru, mae'r cynigion diweddaraf yn "siomedig ac yn ddryslyd".

Gadawodd cyn-AS Castell-nedd ei le ar fainc flaen Llafur yn 2012 er mwyn cefnogi cynlluniau i adeiladu morglawdd gwerth £30 biliwn ar draws Môr Hafren.

Dywedodd: "Er bod morlynnoedd yn harneisio pŵer llanw, mae'n amlwg o brosiect Abertawe eu bod nhw'n ddrud iawn.

"Dydy'r morlyn ddim yn mynd i harneisio pŵer naturiol, anferthol Aber Hafren.

"Byddai angen 50 o lagwnau yno i gystadlu â morglawdd," meddai.

Ychwanegodd mai morglawdd fyddai'r opsiwn orau oherwydd ei fod yn gallu "darparu trydan rhad... sydd ddim yn amharu ar bysgod ac yn cynhyrchu trydan sylfaenol oherwydd ei fod yn seiliedig ar dyniad dibynadwy a chyson y lleuad".

'Dewis amgen cadarnhaol'

Mae'r adroddiad i'r Hafren yn dweud y dylai llywodraethau Cymru a'r DU greu sefydliad i greu'r morlyn.

Gyda chefnogaeth y sector breifat, fe fyddai'n talu am forlyn fel "prosiect arddangos".

Gallen nhw hefyd edrych ar ffyrdd o ad-dalu unrhyw golled i gynefinoedd bywyd gwyllt.

Dywed yr adroddiad: "Byddai prosiect morlyn yn darparu profiad peirianneg a monitro byd go iawn o effeithiau amgylcheddol.

"Mae datblygu morlyn llanw yn cynnig dewis amgen cadarnhaol i forglawdd."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni Llywodraeth y DU a Net Zero: "Mae pob teulu yn y wlad wedi talu pris dibyniaeth Prydain ar farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang.

"Dyna pam rydyn ni'n symud ar frys i ynni glân, cartref, fel y gall y DU adennill rheolaeth ar ei hynni gyda phŵer glanach, fforddiadwy.

"Y llynedd, cefnogodd ein cynllun Contractau Gwahaniaeth chwe phrosiect llanw newydd ac rydym yn agored i ystyried cynigion sy'n dangos gwerth am arian."

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans: "Rydym am wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw, ac mae Aber Hafren yn ffynhonnell ynni sydd â photensial aruthrol fel un o'r ystodau llanw uchaf yn y byd.

"Rwy'n croesawu gwaith Comisiwn Aber Afon Hafren ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a Phorth y Gorllewin i sicrhau y gallwn fanteisio ar ei botensial tra hefyd yn diogelu'r ased unigryw hwn."