'Gobaith o hyd' am Forglawdd Hafren

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o forglawdd hafrenFfynhonnell y llun, Eye on Wales
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynllun Corlan Hafren yn golygu adeiladu morglawdd am 11 milltir rhwng Bro Morgannwg a Gwlad yr Haf

Gallai morglawdd gwerth £30 biliwn ar draws Môr Hafren gael ei adeiladu o hyd er gwaethaf gwrthwynebiad rhai Aelodau Seneddol a grwpiau amgylcheddol, medd Llywodraeth y DU.

Mae cefnogwyr y cynllun, fyddai'n ymestyn o Fro Morgannwg i Wlad yr Haf, yn dweud y byddai'n cyflenwi 5% o anghenion trydan y DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Davey, y byddai'r llywodraeth yn ystyried unrhyw gynllun priodol fyddai'n cael ei gyflwyno.

Mae AS Dwyrain Bryste Kerry McCarthy wedi dweud bod y cynllun yn destun pryder i rai yn ei hetholaeth.

Ym mis Hydref dywedodd y cyn-ddirprwy brif weinidog yr Arglwydd Heseltine y gallai'r cynllun gynnig "adfywiad economaidd neilltuol".

Nod y cynllun yw codi morglawdd ar draws yr 11 milltir rhwng Caerdydd a Weston-super-Mare.

Yn trafod

Fe fyddai angen deddf newydd cyn y gallai'r cynllun fynd yn ei flaen.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y fenter, Corlan Hafren (Hafren Power), yn trafod gyda gweinidogion llywodraeth y DU a grwpiau amgylcheddol.

Gadawodd AS Castell-nedd a chyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ei le ar fainc flaen Llafur yn gynharach eleni er mwyn cefnogi cynlluniau'r cwmni.

Dywedodd y consortiwm eu bod wedi gwella cynlluniau blaenorol ar gyfer morglawdd gafodd eu gwrthod yn 2010 drwy ddefnyddio tyrbinau llai fyddai'n gallu cynhyrchu ynni yn ystod llanw a thrai a phan fyddai'r dŵr yn symud yn arafach.

Mae'r newidiadau, meddai'r cwmni, yn golygu bod yr effaith ar bysgod yn llai andwyol ac y byddai llai o draethellau llaid yn cael eu colli i fywyd gwyllt.

Dywedodd y cwmni y byddai'r cynllun yn medru cyflenwi digon o ynni ar gyfer 3.4 miliwn o gartrefi.