Galw am wella system ddraenio Pontypridd yn dilyn llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau ym Mhontypridd yn galw am weithredu er mwyn atal draeniau rhag gorlifo mewn tywydd garw yn dilyn y llifogydd diweddar.
Dywedodd perchnogion busnesau ar Heol y Felin fod y llifogydd wedi digwydd o ganlyniad i'r draeniau yn gorlifo yn hytrach na dŵr yn llifo o afon Taf.
Wrth siarad â'r BBC fore Sadwrn, dywedodd dau berchennog busnes eu bod eisiau gweld datrysiad technegol er mwyn atal yr un broblem rhag digwydd eto yn y dyfodol.
'Roedd y cyfan yn dod i fyny o'r draeniau'
Dywedodd Josh Downes, perchennog siop farbwr ar Heol y Felin, fod perchnogion busnes eisiau gwybod pwy sy'n gyfrifol.
"Fe ddaeth llawer [o ddŵr] trwy'r draen, ac ar y funud rydym yn ceisio canfod pwy sy'n gyfrifol am y system ddraenio ar ein stryd".
"Mae'r broblem un ai lawr i'r cyngor neu Dŵr Cymru.”
Fe wnaeth Enrico Orsi, sy'n rhedeg Zucco's Juice Bar gytuno gyda Josh: "Dy'n ni ddim hyd yn oed dros y rhan waethaf o'r gaeaf eto.
"Felly gall y math yma o lifogydd ddigwydd eto wythnos nesaf. ‘Ni’n teimlo fel bo' ni'n troi yn yr unfan ar y funud."
"Rydym yn trio gwthio i gael rhywbeth wedi ei wneud er mwyn atal y stryd rhag profi llifogydd eto.
"Roeddwn yma'r bore pan ddaeth y llifogydd i mewn, ac roedd y cyfan yn dod i fyny o'r draeniau. Roedd hi fel ffynnon.
"Rydym yn teimlo bod modd datrys hyn. Felly rydym am wthio er mwyn cael y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau bod dyfodol i'r stryd."
Dywed Dŵr Cymru nad oedd y llifogydd ar Heol y Felin wedi eu hachosi gan garthffosydd yn gorlifo.
Dywedon nhw mai’r draeniau yw'r broblem, ac mai Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldeb amdanyn nhw.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael cais am ymateb. Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr Awdurdod eu bod yn adolygu'r hyn a ddigwyddodd ym Mhontypridd yn sgil y llifogydd diweddar.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Mae ein tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnal ymchwiliadau lle'r oedd y llifogydd, er mwyn deall yn well sut a pham mae gwahanol ddigwyddiadau llifogydd wedi digwydd.
"Ar hyn o bryd, mae dros hanner yr achosion o lifogydd wedi deillio o lifogydd y brif afon - gan gynnwys Heol y Felin, Stryd Sion a Ffordd Berw ym Mhontypridd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024