Ffotograffydd dogfen yn creu llyfr am alar ei dad
- Cyhoeddwyd
Mae Rhodri Jones wedi treulio’i yrfa yn teithio’r byd yn dogfennu bywyd cymunedau lleiafrifol mewn ardaloedd diarffordd. Nawr mae’n troi ei lens at rywbeth sy’n gyffredin i bawb waeth pa gornel o’r byd maen nhw’n byw: galar.
Dros y degawdau bu’r ffotograffydd yn gweithio mewn rhannau o China, Affrica, Ciwba a Chanolbarth America - a fo oedd y gorllewinwr cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i fynd i un o ardaloedd mynyddig gogledd Albania.
Mae’n byw yn yr Eidal ers blynyddoedd bellach, ond wedi iddo golli ei fam yn 2016 fe dreuliodd gyfnodau hirach gartref gyda’i dad yn Nyffryn Ogwen.
A thra yno, fe ddogfennodd y cyfnod wrth i’w John Ellis Jones geisio dod i delerau gyda cholli Renée, ei gymar ers dros 60 mlynedd.
A nawr mae’r lluniau - a darnau ysgrifenedig gan awduron fel Angharad Price a Manon Steffan Ros - yn rhan o’r llyfr Cofion.
“Mae o wedi bod yn therapi i bawb rhywsut... yn sicr roedd yn therapi mawr i fi,” meddai Rhodri ar raglen Beti a’i Phobol.
“Mae pawb sydd wedi cyd-weithio ar y llyfr yma yn gobeithio bydd o’n help i bobl... oherwydd mae o’n digwydd i bawb.
“Mae pawb yn colli rhieni. Nath Lele (Emanuele Iamedica, dylunydd y llyfr) golli hogyn oedd ond yn 20 oed... ac mae hynny’n lot gwaeth yn dydi, ond mae pawb yn colli rhywun mewn bywyd - mae o’n naturiol, ac mae o fel trauma i bawb hefyd.
“Wedyn wrth wneud y llyfr yma y syniad ydi bod ni yn siarad am y peth oherwydd ‘da ni’n tueddu i jest edrych ar yr ochr arall neu ddim isho gweld petha... mae’n rhaid siarad am y pethau yma. Dwi’n meddwl wrth siarad am bethau ‘da ni efo mwy o siawns i ddod dros y peth.”
Ond tra bod ei berthynas gyda’i dad yn amlwg yn ei lyfr newydd, mae dylanwad ei rieni yn greiddiol i’w waith ffotograffiaeth mewn ffordd lai amlwg.
Fe gafodd ei fam, Renée, ei magu yn yr Almaen o dan y Natsïaid, cyn teithio’n helaeth ar draws Ewrop wedi’r rhyfel - oedd yn anghyffredin i ferched. Roedd ei dad wedi gwirioni ar hanes clasurol Gwlad Groeg, ac yn academydd oedd yn treulio pob cyfle posib yn gwneud gwaith ymchwil yno ac yn gweithio gyda thîm o archeolegwyr.
Roedd eu plant - oedd yn byw ar aelwyd ddwyieithog Cymraeg ac Almaeneg - yn treulio’u gwyliau unai ar ynysoedd Groeg neu’n cael eu gyrru at berthnasau yn yr Almaen i ddysgu’r iaith, a dysgu sut i fod yn annibynnol.
Yr effaith ar Rhodri oedd cariad at deithio a sylweddoli nad oedd rhaid iddo gael gwaith oedd dim ond yn talu’r biliau.
Meddai: “Roedd gen i ryw fath o syniad bod o yn bosib cael gwaith lle mae passion a lle mae rhywun yn byw passion... a dyna be oedd Dad yn neud. Bob tro oedd o efo dipyn bach o amser rhydd o’r brifysgol efo gwyliau roedd o’n mynd i Wlad Groeg.”
I Rhodri ffotograffiaeth oedd hynny:
“Be’ sy’n digwydd mewn llun llonydd ydi mae ‘na magic yn y peth... oherwydd pan ma' rhywun yn tynnu llun, os ti wedi gweld y peth yn digwydd a thynnu llun mae o wedi mynd yn barod.
"Rhaid i ti fod yno yn yr amser ac yn rhan o be' sy’n mynd ymlaen a jest gadael i’r llun tynnu ei hun mewn ffordd... a dyna’r magic.
"Dwi’n meddwl bod fideos yn grêt, dwi’n meddwl bod ffilms yn grêt ond y magic am dynnu lluniau ydi ti byth yn gwybod be' sydd am ddigwydd yr eiliad yna pan ti’n tynnu’r llun.”
Ar ddechrau'r 1980au, fe adawodd Rhodri ei gartref teuluol ger Bethesda ddiwrnod ar ôl gorffen ei arholiad Lefel A - ar ôl llosgi ei lyfrau ysgol y noson gynt - a bodio am yr Eidal.
Ar ôl cyfnod yn gweithio ym myd y theatr yno, gan ddysgu am oleuo, fe ddatblygodd ddiddordeb mewn ffotograffiaeth.
Ar ddiwedd yr 1980au aeth i weithio fel ffotograffydd yng Nghanolbarth America yn ystod gwrthryfel Nicaragua a rhyfel cartref El Salvador gan ddychwelyd i Ewrop yn 1991 gyda’r cyfandir mewn cyfnod o newid mawr wedi dymchwel y llen haearn.
Yn 1992 hwyliodd o’r Eidal i Albania i dynnu lluniau i bapur newydd The Guardian yn ystod yr etholiad cyntaf yno ers cwymp comiwnyddiaeth.
Meddai: “(Ar ôl yr etholiad) ro’n i’n rhydd i jest trafaelio trwy’r wlad... a nes i benderfynu mynd i’r gogledd... oherwydd dyna’r lle oedd pawb yn deud ‘o ti ddim isho mynd i’r gogledd’ (gan fod o’n beryglus) ac wedyn neshi benderfynu mynd yna.
“A fi oedd y boi cynta’ i fod yn yr ardal Dukagjin a Shlak - y boi cynta’ o’r gorllewin Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.”
Yno fe ddogfennodd gymdeithas oedd heb lawer o gysylltiad gyda gweddill y byd, ac oedd yn dal i fyw o dan set o reolau oedd yn dyddio yn ôl canrifoedd, lle’r oedd lladd ar sail ‘anrhydedd’ (honour killings) yn gyffredin.
“Ar y dechrau (fy ngyrfa) o’n i’n mynd i lefydd gwirion... ond do'n i ddim yn ffotograffydd rhyfel,” meddai.
“Ar ôl y cyfnod cynta’ o’r antur a petha a chael sawl damwain neshi benderfynu wel, dim rhyfel ydi peth fi a neshi ddechrau mynd i lefydd lle doedd ‘na ddim rhyfel, roedd ‘na conflicts yn mynd ymlaen, ond dim rhyfel... a neshi treulio lot o amser yn China.
“Be’ o’n i isho weld oedd be’ oedd yn digwydd dydd i ddydd.”
Rhwng 1995 a 2007 fe deithiodd i ddogfennu gwahanol grwpiau ethnig o fewn China - mae 56 grŵp swyddogol, a mwy o rai answyddogol - mewn cyfnod pan oedd twf yr economi yn effeithio’r grwpiau ethnig.
Mae Rhodri hefyd wedi gweithio ar brosiectau sy'n agosach at adref. Mae un yn dogfennu gwyliau traddodiadol gwahanol ardaloedd o’r Eidal ac yn 2006 cyhoeddodd llyfr am Gymru, sy’n dod a phersbectif rhywun sy’n gyfarwydd gyda’r wlad a’i diwylliant - ond wedi byw i ffwrdd ers degawdau.
Ond, fel gyda’i brosiect diweddara, mae gwreiddiau ei waith yn mynd nôl i’w fagwraeth.
“Oedda ni’n lwcus dros ben oherwydd roedd y teulu wedi treulio amser yn yr Almaen, roedda ni wedi treulio yng Ngwlad Groeg," meddai.
"Hefyd pam oedda ni adra yn Sling, ger Bethesda, roedd rhieni fi yn cael llwyth o bobl yn dod i’r tŷ o dramor... roedda nhw’n agored iawn i bob math o bobl, roedda nhw’n curious iawn... roedda nhw jest isho gofyn llwyth o gwestiyna i bawb.
“Roedd hwnna’n help mawr... gofyn cwestiyna trwy’r amser.”
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 1 Medi ac ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Mehefin