Brwydro a cholled drwy lens ffotograffydd rhyfel
- Cyhoeddwyd
O gael ei arestio yn Burundi, i gael ei smyglo dros y ffin i mewn i Syria, mae’r ffotograffydd Philip Hatcher-Moore wedi cael profiadau anhygoel – a brawychus – wrth ohebu ar rai o ddigwyddiadau mawr y byd.
Yn wreiddiol o Swydd Warwick, mae bellach wedi ymgartrefu yng nghyffiniau Llangollen gyda’i deulu.
Y dyddiau yma, mae’n tynnu lluniau o rai o unigolion a golygfeydd nodweddiadol gogledd Cymru. Ond mae wedi dod i ddysgu mai’r un stori sydd tu ôl i’w holl luniau, meddai, sef perthynas pobl â lle.
Mae'r erthygl yma yn cynnwys delwedd a all achosi pryder.
Rhyfel
Fy mhrofiad cyntaf o dynnu lluniau mewn digwyddiad go iawn oedd pan enillodd Sarkozy yr etholiad Ffrengig yn 2007. Ro’n i’n byw yn Paris mewn fflat gyda myfyrwyr, ac aethon nhw i gyd i brotestio, felly es i hefyd, a bachu fy nghamera ar y ffordd allan.
Dyna oedd fy nhro cyntaf mewn protest o’r fath, efo tear gas a phethau felly, a ’nes i wir fwynhau’r profiad o lywio hyn drwy dynnu lluniau.
Dwi’n meddwl fod ffotograffiaeth yn ffordd o ddelio gyda’r chwilfrydedd o beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, dysgu amdanyn nhw, a gallu adrodd y straeon.
Yn gynnar yn fy ngyrfa, ’nes i sylweddoli mod i’n gallu delio dan yr amgylchiadau dyrys, brawychus, dwys yna. Dydy pob newyddiadurwr ddim eisiau gorfod gwneud hynny, ond o’n i’n gallu ymdopi – dwi’n teimlo eu bod nhw’n straeon diddorol, pwysig i’w hadrodd.
Y tro cynta’ i mi brofi unrhyw fath o frwydr oedd yn Libya.
O’n i yn Ne Sudan ar y pryd, ar ddechrau’r gwrthryfela yna, ac fel welais i don o newyddiadurwyr yn heidio tua’r Aifft oherwydd fod pethau’n dechrau poethi gyda’r Arab Spring, ac yna tua Libya wrth i bethau ddechrau gyda Gaddafi.
’Nes i hedfan i Cairo a dal y bws i’r ffin.
Roedd ’na ran ohona i oedd yn meddwl beth ar y ddaear o’n i’n ei wneud yn mynd i’r lle ’ma, sy’n cael ei reoli gan frwydro, ond ’nes i groesi’r ffin, a doedd pethau ddim rhy ddrwg...
Felly es i i Benghazi, oedd yn ei chanol hi, a doedd hi ddim rhy ddrwg yno chwaith. Felly es i i’r anialwch lle’r oedd yr ymladd, a mynd yn agosach ac agosach, a ti’n sylweddoli, er ei bod hi’n ymddangos fel bod y wlad i gyd yn rhyfela, roedd y patshyn yn llai mewn gwirionedd.
Ond roeddet ti’n sylwi: ‘dwi’n saff yma, ond os dwi’n symud dau fetr i’r ochr yna, dydi hi ddim yn saff’.
Ar adegau, ro’n i’n agos iawn at yr ymladd. Pan o’n i’n Syria, roedd y bomiau yn llawer mwy pwerus, ond roedd yna fwy o adeiladau concrid i guddio tu ôl iddyn nhw. Yn nwyrain y Congo, roedd yr adeiladau wedi eu gwneud o bren neu wair, ac yn cynnig dim amddiffynfa.
Dwi’n cofio ambell i adeg eitha’ brawychus. Un diwrnod yn Syria, wrth yrru o Aleppo draw i lle o’n i’n aros, ddaeth ‘na awyren ymladd draw a thanio rocedi at ein car, a’n methu o drwch blewyn.
Mae'r agwedd tuag at newyddiadurwyr wedi gwaethygu dros y blynyddoedd.
Mae ‘na ambell i frwydr dwi wedi gohebu arnyn nhw lle dwi’n meddwl fod bod yn newyddiadurwr wedi cynnig diogelwch i chi.
Pan es i i Libya ar y dechrau, roedd pobl yn desperate i gael pobl i ddod i mewn atyn nhw; doedden nhw ddim wedi cael y cyfle i leisio’u barn ers blynyddoedd, felly roedd pobl ar ochr y rebels yn barod ac yn awyddus i fod yn agored â newyddiadurwyr.
Ond ar ochr arall y lein flaen, roedd y newyddiadurwyr a oedd yn trio adrodd ar y stori o ochr y llywodraeth yn cael eu rheoli.
Droeon eraill, byddet ti’n cael dy dargedu am fod yn newyddiadurwr neu yn Orllewinwr... roedd hi’n gymhleth.
Yn Burundi, ges i fy arestio rhyw bythefnos cyn fy mhriodas.
Roedd yr awdurdodau'n honni eu bod nhw wedi fy nal mewn tŷ gyda rebels ac arfau. Mewn gwirionedd, ges i fy arestio am weld pethau doedd y llywodraeth ddim am i mi weld.
Ges i fy rhoi mewn car a fy nal yn y ddalfa. Ar ôl 24 awr, ges i fy rhyddhau, a gorfod gadael y wlad y diwrnod wedyn. Mae ganddyn nhw dal un o fy nghameras...
Cefais i brofiad rhyfedd wrth ohebu ar y rhyfel yn Syria. Ro’n i wedi teithio yn Syria ac astudio Arabeg am ychydig o fisoedd, flynyddoedd yn ôl. Ro’n i wrth fy modd gyda’r wlad anhygoel yma.
Ar ôl i’r rhyfel dorri, ges i gyfle i ddychwelyd, ar swydd tynnu lluniau, ond yn wahanol i’r tro diwethaf - pan es i ar y bws a dangos fy mhasbort - y tro yma roedd yn rhaid i mi gael fy smyglo dros y ffin.
Roedd yn brofiad gwahanol iawn, i gerdded yr un strydoedd ro’n i wedi bod yn eu crwydro gyda fy backpack o'r blaen.
Dyma oedd fy nhro cyntaf i mi weld effaith rhyfel, ar ôl cael syniad o sut beth oedd bywyd cynt a’r cwbl oedd wedi ei golli.
Adref
Ro’n i eisiau symud yn ôl tuag at y gynulleidfa, ac eisiau dod yn ôl i fyw yn agosach at deulu, felly rydyn ni nawr yn byw tu allan i Langollen.
Roedd Sky Arts yn gwneud prosiect am rannau gwahanol o’r DU, ac o’n i eisiau edrych ar ucheldiroedd Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar ffermio defaid mynydd. Dwi wedi treulio llawer o amser gyda’r ffermwyr yno, yn edrych ar y gwaith maen nhw wedi ei wneud i siapio hunaniaeth y wlad, o ran y tir a’r gymdeithas.
Dwi hefyd wedi tynnu lluniau am yr ymgyrch Hawl i Fyw Adref.
Dwi’n meddwl mod i wastad wedi bod eisiau perthyn i’r lle ydw i, a deall y gymuned. Lle bynnag dwi wedi gweithio, dwi wedi trio peidio jest hedfan i mewn, gohebu a gadael eto, ond treulio amser yno.
Pan symudon ni i Gymru, y bwriad oedd i ymgartrefu yma. Dwi’n meddwl fod edrych ar y problemau yma yn ffordd i mi gysylltu â’r lle ac i ddeall yn iawn. Mae prosiectau ffotograffiaeth ddogfennol yn ffordd i mi dyrchu a gofyn cwestiynau.
Mae yna newidiadau cymdeithasol mawr wedi digwydd yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond roedd gen i fwy o ddiddordeb yn y materion cymdeithasol ac anghydraddoldeb.
Mae hi wedi cymryd dipyn i mi sylweddoli, ond mae llawer o fy ngwaith, yn ei hanfod, yn ymwneud â pherthynas pobl â’r tir maen nhw arni, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Efallai fod pobl yn llythrennol yn ymladd dros eu gwlad, neu mae am y teimlad o berthyn i le fel oedd o gyda ffermwyr yr ucheldiroedd.
Wrth i mi setlo fwy yma, mae’r cysylltiad rhyngof fi a’r lle yn cryfhau. Dwi wrth fy modd gyda’r mynyddoedd, a dwi’n hoffi cael esgus i fynd allan i dynnu lluniau ohonyn nhw.
Dwi wedi bod i’r anialwch lawer gwaith, ond does ‘na ddim byd fel mynydd!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022