Ffermwr o Fôn yn osgoi carchar am droseddau lles anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar, wedi ei ohirio am 18 mis, am achosi dioddefaint i wartheg yn ddiangen yn dilyn marwolaethau pum anifail, gan gynnwys tri y bu'n rhaid eu difa.
Fe wnaeth Daniel Jones, 30, bledio'n euog fis diwethaf i 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys achosi dioddefaint i wartheg, methu â sicrhau lles anifeiliaid a pheidio â chadw cofnodion cywir.
Bydd yn rhaid iddo hefyd gwblhau 120 o oriau o waith di-dâl a chyfres o weithgareddau ailsefydlu, yn ogystal â thalu £8,000 mewn costau.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno, fe ddisgrifiodd y Barnwr Timothy Petts yr achos fel un "difrifol o esgeulustod hir i lu o anifeiliaid a arweiniodd, ar adegau, i'w marwolaethau".
Ond fe ychwanegodd nad oedd yn credu ei fod "yn achos o greulondeb bwriadol" ac y gallai Jones fod "yn ffermwr gwell yn y dyfodol" wedi buddsoddiad sylweddol yn y fferm.
'Mor falch bod hwn drosodd'
Dywedodd Jones wrth BBC Cymru wedi'r gwrandawiad: “Dwi mor falch bod hwn drosodd. Mae 'di bod yn gyfnod rili anodd.
"Dwi heb rili cysgu dros y misoedd diwethaf, mae hwn 'di bod fel cwmwl dros bopeth.
"Falle heno, o’r diwedd, bydda i’n gallu cysgu.
"Dwi jyst isio symud ymlaen rŵan a chadw gwella pethau ar y fferm."
Roedd wedi dweud bod ei gymar yn disgwyl babi adeg y troseddau, a bod costau uchel uwchraddio'r fferm ar ôl ei gymryd drosodd gan ei daid yn 2016 wedi creu "storm berffaith".
Roedd y cyhuddiadau'n ymestyn dros gyfnod rhwng Ionawr 2023 ac Ebrill 2024, pan yr oedd Jones yn cadw gwartheg ym Modafon y Glyn ger Llannerch-y-medd.
Ar 13 Ionawr 2023, cafodd 84 o loi eu canfod heb ddŵr glân, neu unrhyw fynediad at ddŵr o gwbl.
O ganlyniad, roedd tri llo angen triniaeth gan y milfeddyg.
Ar yr un diwrnod, cafodd pedair buwch eu darganfod "yn denau ac angen dŵr" gyda phob un yn methu â sefyll. Roedd yn rhaid difa tri o'r pedwar.
Ym mis Ionawr eleni fe gafodd cyrff "o leiaf 18 o wartheg a lloi, a nifer anhysbys o garcasau" eu darganfod wedi "eu claddu mewn tomen tail ar hen gronfa silwair".
Fis yn ddiweddarach, cafodd milfeddygon eu galw gan fod llo a buwch wedi eu canfod yn methu â sefyll a heb fynediad at ddŵr.
Bu farw'r ddau anifail yn ddiweddarach.
'Dylech chi fod wedi gofyn am help'
Clywodd gwrandawiad fis diwethaf fod Jones yn gweithio i wella'r amgylchiadau ar y fferm, ac o ganlyniad ni gafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid yn y dyfodol.
Fe nododd ddatganiad milfeddygol diweddar bod "tystiolaeth sylweddol o newidiadau positif i amgylchedd y fferm" ac i iechyd yr holl anifeiliaid.
Dywedodd y barnwr ddydd Iau bod gan Mr Jones "gynllun i wella'r fferm ond fe wnaethoch chi ei weithredu'n wael".
Ychwanegodd: "Dylech chi fod wedi gofyn am help yn lle cuddio eich pen yn y tywod."