Ffermwr o Fôn yn euog o droseddau lles anifeiliaid
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cyfaddef achosi dioddefaint i wartheg yn ddiangen yn dilyn marwolaethau pum anifail, gan gynnwys tri y bu'n rhaid eu difa.
Fe wnaeth Daniel Jones, 30, bledio'n euog i 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys achosi dioddefaint i wartheg, methu â sicrhau lles anifeiliaid, a pheidio â chadw cofnodion cywir.
Mae'r cyhuddiadau'n ymestyn dros gyfnod rhwng Ionawr 2023 ac Ebrill 2024, pan yr oedd Jones yn cadw gwartheg ym Modafon y Glyn ger Llannerch-y-Medd.
Dywedodd y barnwr wrth Lys y Goron Caernarfon ddydd Llun ei bod hi bron yn anochel fod Jones yn wynebu cyfnod yn y carchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Hydref.
Mae partner Jones, Ellis Judson, hefyd yn wynebu 12 o gyhuddiadau tebyg, ond clywodd y llys na fyddai'r erlyniad yn cynnig unrhyw dystiolaeth yn ei herbyn, ac mae disgwyl iddi ei chael yn ddieuog yn ffurfiol fis nesaf.
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai
Ar 13 Ionawr 2023, cafodd 84 o loi eu canfod heb ddŵr glân, neu unrhyw fynediad at ddŵr o gwbl.
O ganlyniad, roedd tri llo angen triniaeth gan y milfeddyg.
Ar yr un diwrnod, cafodd pedair buwch eu darganfod "yn denau ac angen dŵr" gyda phob un yn methu â sefyll. Roedd yn rhaid difa tri o'r pedwar.
Ym mis Ionawr fe gafodd cyrff "o leiaf 18 o wartheg a lloi, a nifer anhysbys o garcasau" eu darganfod wedi "eu claddu mewn tomen tail a'r hen gronfa silwair".
Fis yn ddiweddarach, cafodd milfeddygon eu galw gan fod llo a buwch wedi eu canfod yn methu â sefyll a heb fynediad at ddŵr. Bu farw'r ddau anifail yn ddiweddarach.
'Achos difrifol'
Clywodd y gwrandawiad, a gafodd ei gynnal yn Llandudno, fod Jones yn gweithio i wella'r amgylchiadau ar y fferm, ac o ganlyniad ni fyddai'n cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid yn y dyfodol.
Fe gafodd yr achos ei ohirio nes 3 Hydref pan fydd Jones yn cael ei ddedfrydu.
Dywedodd y barnwr Timothy Petts: "Mae hwn yn achos difrifol o ystyried nifer yr anifeiliaid.
"Bydd rhaid penderfynu os fydd y ddedfryd o garchar yn cael ei gohirio neu ddim."
Cafodd Ms Judson wybod y byddai'n ei chael yn ddieuog yn ffurfiol fis nesaf.
Dywedodd Jones wedi'r gwrandawiad bod Ms Judson yn disgwyl babi yn y cyfnod dan sylw.