Castell Penrhyn yn gartref i'r teulu Guinness mewn drama newydd
- Ffynhonnell y llun, Netflix
Disgrifiad o’r llun, Mae'r ddrama newydd yn dilyn hynt a helynt y teulu Guinness yn dilyn marwolaeth Syr Benjamin yn 1868
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Mae un o gestyll enwocaf gogledd Cymru wedi ei ddefnyddio fel un o brif leoliadau'r gyfres newydd, The House Of Guinness.
Er bod y ddrama wedi ei gosod yn Nulyn ac Efrog Newydd yn yr 19eg ganrif, Castell Penrhyn ym Mangor sy'n cael ei ddefnyddio i bortreadu cartref y teulu.
Mae'r gyfres newydd ar Netflix yn adrodd hanes Syr Benjamin Guinness a'r hyn ddigwyddodd i'r cwmni a'r teulu yn dilyn ei farwolaeth yn 1868.
Dywedodd cynhyrchwyr y rhaglen fod Castell Penrhyn wedi ei ddewis oherwydd ei debygrwydd i gyn-gartref y teulu Guinness - sef Castell Ashford yn Cong, Iwerddon.
- Cyhoeddwyd5 Medi 2024
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
Cafodd mwyafrif y gwaith ffilmio ei wneud yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr, gan mai "ychydig iawn" o strydoedd Dulyn sy'n dal i ymdebygu i sut fyddai'r ddinas wedi edrych yn 1868.
Yn ôl Karen Wilson, un o gynhyrchwyr y gyfres, fe wnaeth y tîm deithio ar hyd y DU yn chwilio am leoliadau addas cyn dewis ffilmio yn y gogledd orllewin.
Dywedodd Ceri Williams, rheolwr cyffredinol Castell Penrhyn ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ei bod hi'n "grêt" gallu croesawu cyfres "sy'n edrych ar gyfoeth, anghyfartaledd a gwrthdaro - sy'n debyg i'r themâu yr ydym ni'n rhoi sylw iddyn nhw yma".
Roedd y castell yn gartref i deulu'r Pennant, tirfeddianwyr oedd yn rheoli'r ardal o'u cwmpas ac oedd yn berchen ar y chwarel ym Methesda lle bu'r streic fwyaf yn hanes diwydiannol Prydain rhwng 1900-1903.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.