'Band eang israddol yn gwahardd pobl o fywyd modern'
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhwystrau at gael cysylltiad rhyngrwyd o ansawdd uchel mewn sawl rhan o Gymru "wahardd pobl o fywyd modern", yn ôl un o bwyllgorau trawsbleidiol Senedd Cymru.
Er gwaethaf gwelliannau yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r adroddiad yn rhybuddio bod llawer o bobl yn dal i fethu â chael mynediad at gyflymder rhyngrwyd digonol.
Mae'r adroddiad yn nodi mai ardaloedd trefol a elwodd gyntaf o uwchraddio, gyda llawer o ardaloedd gwledig yn dal ar ei hôl hi.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Llyr Gruffydd AS fod angen cysylltiad cyflym ar bawb ac "ni ddylai hyn fod yn foethusrwydd".
Dywedodd Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang mwy cyflym, eu bod yn gwario £5bn i sicrhau nad yw'r ardaloedd hynny sy'n anodd i'w cyrraedd yn colli allan.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe wnawn nhw "barhau i gamu i fewn" i ddarparu band eang cyflym drwy Gymru.
Beth yw band eang cyflym iawn?
Mae Llywodraeth y DU yn diffinio band eang cyflym iawn fel un sydd â chyflymder dros 30 megabit yr eiliad (Mbps). Megabit yw'r mesuriad safonol o gyflymder rhyngrwyd.
Dywedodd y rheolydd cyfathrebiadau Ofcom wrth ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, mai dim ond 63% sy'n defnyddio'r gwasanaeth er ei fod ar gael mewn 96% o Gymru.
Dywed Ofcom bod tua 15,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru heb gyflymder lawrlwytho o 10Mbps neu'n uwch na chyflymder uwchlwytho o 1Mbps, gan ddefnyddio naill ai cysylltiad ffibr neu dechnoleg ddiwifr sefydlog amgen.
Y llynedd, cyhoeddodd gweinidogion y DU gamau cyntaf cynlluniau gwerth £5bn i ariannu costau gosod band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig ar draws y Deyrnas Unedig.
Ond dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, wrth yr ymchwiliad nad oedd y cynlluniau'n ystyried y ffaith bod daearyddiaeth fynyddig Cymru yn golygu bod yna eiddo sy'n fwy anodd eu cyrraedd.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fand eang, nid gweinidogion Cymru, roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi cyllid ychwanegol, ond fe wnaethon nhw rhoi'r gorau i wneud hynny bedwar mis yn ôl.
Mae'r pwyllgor nawr yn galw ar weinidogion y DU i ddarparu mwy o arian ar gyfer y cynllun fel ei fod yn cwrdd ag anghenion Cymru, ac yn annog llywodraethau Caerdydd a Llundain i gynnal trafodaethau "ystyrlon" ar y mater.
'Miloedd yn debygol o dalu gormod'
Gall pobl sy'n derbyn budd-daliadau ddefnyddio "tariffau cymdeithasol" gan rai darparwyr, gan roi bargeinion band eang cyflym iawn rhatach iddynt.
Ond clywodd yr ymchwiliad mai dim ond 1.2% o'r rhai sy'n gymwys sydd wedi eu defnyddio, sy'n golygu bod miloedd o bobl ar incwm isel yn debygol o fod yn talu mwy nag sydd angen am fand eang.
Mae'r pwyllgor yn galw am hyrwyddo tariffau cymdeithasol yn well, sicrhau bod mynediad atynt yn symlach ac yn gliriach, ac i gofrestru'n awtomatig i'r rhai sydd â hawl iddynt gael ei ystyried.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae'n siomi rhywun yn ofnadwy i glywed bod llawer o bobl yng Nghymru o hyd heb fynediad at fand eang cyflym iawn.
"Yn enwedig yn sgil y pandemig, a'r ffaith bod mwy a mwy o'n bywydau'n digwydd ar-lein.
"Annhegwch pur yw'r ffaith bod disgwyl i gynifer o bobl mewn ardaloedd gwledig oddef band eang annibynadwy, israddol.
"Dylai cysylltiad â band eang cyflym iawn fod ar gael i bawb yng Nghymru, nid y rhai mewn ardaloedd trefol yn unig - ni ddylai gael ei ystyried yn beth moethus."
'Gwasanaeth Band Eang Cyffredinol'
Os na fydd modd i adeiladau gael cyflymder lawrlwytho o 10Mbps yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1Mbps yr eiliad, mae'n bosib uwchraddio'r cysylltiad o dan 'Wasanaeth Band Eang Cyffredinol'.
BT sydd yn trefnu'r gwaith os yw'r gost yn £3,400 neu'n llai, ond os yw'r gost yn fwy na hyn, mae disgwyl i'r cwsmer dalu'r gweddill.
Mae'r gymdeithas wedi dweud bod y 'Gwasanaeth Band Eang Cyffredinol' wedi cael "effaith bositif", ond maent wedi mynegi eu pryderon bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sy'n byw mewn mannau gwledig sy'n anodd eu cyrraedd "dalu cyfraniad uwch na'r cap" a fydd yn "rhy ddrud i lawer".
Mae'r adroddiad yn galw am ailystyried lefel y cap, a oedd wedi'i osod "cyn i'r costau gynyddu" ar draws yr economi.
Band eang heb ei ddatganoli
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU: "Mae ein buddsoddiad o £2bn i gyflwyno band eang cyflym iawn yn golygu y gall 96% o adeiladau yng Nghymru gael mynediad at gyflymderau ddigon cyflym ar gyfer eu hanghenion presennol, gyda 70,000 eisoes â band eang gigabit a 35,000 fydd wedi eu cysylltu erbyn diwedd y flwyddyn.
"Rydym yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i gyflwyno Project Gigabit i fwy o adeiladau ac yn gwario £5bn i sicrhau nad yw'r ardaloedd hynny sy'n anodd i'w cyrraedd yn colli allan ar y band eang gigabit fwy cyflym sydd ei hangen ar gyfer y dyfodol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio taw cyfrifoldeb gweinidogion Llywodraeth y DU yw sicrhau band eang cyflymach, gan ei fod heb ei ddatganoli i Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i gamu i fewn i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gartrefi a busnesau dros Gymru.
"Mae ein cynllun gwerth £56m sy'n sicrhau band eang ffibr llawn mewn 40,000 o adeiladau - gyda mynediad i fand eang sy'n medru'r gigadid - yn gobeithio rhedeg erbyn Mawrth 2023."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019