Allyriadau carbon GIG Cymru wedi codi 20% er y targed i'w lleihau

Targed GIG Cymru oedd lleihau eu hallyriadau carbon 16% rhwng 2018-19 a 2025
- Cyhoeddwyd
Mae allyriadau carbon GIG Cymru wedi codi 20% ers 2018-19, er mai eu targed oedd i'w lleihau 16%.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn dweud bod y ffigwr hwnnw o ganlyniad i gynnydd mewn allyriadau gan eu cyflenwyr.
Dros yr un cyfnod, mae GIG Cymru yn dweud eu bod wedi gwneud "cynnydd sylweddol" drwy dorri bron i chwarter o'u hallyriadau carbon y tu allan i'w cadwyn gyflenwi, gan gynnwys yn eu hadeiladau a thrafnidiaeth.
Mae gan y gwasanaeth ddyletswydd i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.
Maen nhw wedi adnewyddu eu Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio er mwyn gosod "amserlen glir" i gyrraedd y targed.
'Llai o gleifion canser yn hapus gyda lefelau staffio'r GIG'
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Plant i gael eu brechu rhag brech yr ieir gan y GIG o 2026
- Cyhoeddwyd29 Awst
Defnyddio allyriadau carbon i greu topiau poteli
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2023
Targed y GIG yng Nghymru oedd lleihau eu hallyriadau carbon 16% erbyn 2025, o gymharu â ffigyrau 2018-19.
Ond mae allyriadau cyffredinol y gwasanaeth wedi cynyddu tua 20% ers hynny.
Mae allyriadau o'r gadwyn gyflenwi wedi codi 44%, ond mae'r allyriadau sydd ddim yn rhan o'r gadwyn gyflenwi wedi gostwng 23%.
O ran cyfanswm yr allyriadau carbon o'r flwyddyn 2024, mae GIG Cymru yn dweud fod 77% ohono wedi dod o'r gadwyn gyflenwi, 15% o adeiladau a 6% o drafnidiaeth.
Gwastraff a nwyon meddygol ydy'r gweddill, medden nhw.
'Pobl, planed, elw'
Mae tîm Uned Gofal Dwys Gwyrdd o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gweithio ar wneud yr uned yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol - a hynny heb wanhau gofal i gleifion yno.
Mae gwastraff plastig yr uned wedi lleihau tua dwy dunnell y flwyddyn dros y bum mlynedd ddiwethaf.
O ran nifer y menig plastig sy'n cael eu defnyddio mewn gofal critigol, mae'r ffigwr wedi lleihau o bron i hanner miliwn y flwyddyn.
Dywed y bwrdd iechyd fod degau o filoedd o bunnoedd wedi cael ei arbed o ganlyniad i'r gwaith.

Mae allyriadau cyffredinol GIG Cymru wedi cynyddu tua 20% ers ffigyrau 2018-19
Dywedodd Jack Parry-Jones - meddyg ymgynghorol yn yr adran - eu bod yn ceisio "gwarchod byd sydd werth goroesi a byw ynddi".
"Y mantra ry'n ni wedi'i fabwysiadu yw 'pobl, planed ac elw'.
"Pobl - gofal rhagorol i'n cleifion, eu perthnasau a'n staff. Planed - amgylchedd glân yng Nghymru gyda bioamrywiaeth sydd wedi'i warchod."
Ychwanegodd mai "darparu gofal iechyd da ar sail gwerth a gwneud hynny mewn ffordd ddoeth a chynaliadwy", ydy ystyr 'elw' yn yr arwyddair.

"Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd," medd Jeremy Miles
Mae'r Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio newydd yn dweud y bydd y gwasanaeth iechyd yn "gweithio gyda chyflenwyr i leihau'r effaith amgylcheddol".
Bydd y gwasanaeth hefyd yn gwella effeithlonrwydd ynni a'r defnydd o ynni adnewyddadwy, yn cefnogi teithio mwy cynaliadwy, yn lleihau gwastraff ac yn gweithio'n fwy cynaliadwy.
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles: "Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
"Gall y GIG yng Nghymru chwarae ei ran trwy gymryd camau syml, fel lleihau gwastraff, arbed ynni a gweithio mor gynaliadwy â phosibl, gan ganolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd uchel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.