Gwerthu het enwog y digrifwr Tommy Cooper am £7,000

Het enwog Tommy Cooper yn gwerthu am fwy na dwywaith yr amcanbris
- Cyhoeddwyd
Mae het a oedd yn eiddo i'r digrifwr Tommy Cooper, yn wreiddiol o Gaerffili, wedi ei gwerthu am £7,000 mewn ocsiwn – mwy na dwywaith yr amcanbris.
Roedd yr het, yr un olaf o bosib i'r digrifwr ei defnyddio, yn un o wyth eitem a oedd ar werth mewn gwesty yn Sir Bedford ddydd Sadwrn.
Ymhlith yr eitemau eraill yn yr ocsiwn roedd llythyr gan ei ferch Vicki a nifer o'r byrddau hud a ddefnyddiai.
Dywedodd y gwerthwr Clive Greeenaway - sy'n dynwared Tommy Cooper - iddo gael yr het gan wraig y digrifwr Gwen a fu farw yn 2002.
Yn ôl Amanda Butler, o gwmni Hansons Auctioneers, "yr het oedd uchafbwynt yr ocsiwn".
Amcangyfrifwyd y byddai'r het - eicon ym mherfformiadau Cooper - yn cael ei gwerthu am rhwng £2,000 a £3,000.
Dywedodd Ms Butler y byddai Mr Greenaway yn defnyddio elw'r gwerthiant i ariannu gofalwyr mewn hosbis plant i gynnal sesiynau ioga chwerthin.
Bu farw Tommy Cooper yn 63 oed yn 1984 wedi iddo gael trawiad tra'n perfformio ar lwyfan yn y West End yn Llundain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2024