Teyrngedau i deulu fu farw yn y gwrthdrawiad awyren yn India

Llun o Akeel Nanabawa, Hannaa Vorajee a'u merch SaraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Akeel Nanabawa a Hannaa Vorajee, ar daith i India gyda'u merch Sara

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn a gafodd ei fagu yn ne Cymru wedi rhoi teyrnged iddo ef, ei wraig, a'u merch ar ôl i'r tri farw yn y gwrthdrawiad awyren yn India ddydd Iau.

Dywedon nhw eu bod wedi "torri eu calonnau" gan ddisgrifio'u hanwyliaid fel pobl "caredig a pharchus iawn".

Roedd Akeel Nanabawa, Hannaa Vorajee a Sara Nanabawa, a oedd yn bedair oed, yn dychwelyd o daith i India pan darodd eu hawyren i mewn i ardal breswyl.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Mae newyddion am y digwyddiad trasig hwn wedi torri ein calonnau, ac rydym yn dal i ddod i delerau gyda beth sydd wedi digwydd."

Roedd 242 o bobl ar yr awyren pan ddaeth i lawr funudau ar ôl gadael maes awyr Ahmedabad am faes awyr Gatwick yn Llundain.

Llun o'r awyren wedi chwalu yn dilyn y gwrthdrawiad yn AhmedabadFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dydyn ni dal ddim yn gwybod beth achosodd y gwrthdrawiad

Fe darodd yr awyren ardal breswyl, gan ladd 241 o deithwyr a chriw.

Goroesodd un teithiwr, Vishwashkumar Ramesh, dinesydd Prydeinig, y digwyddiad a chafodd driniaeth yn yr ysbyty am anafiadau.

Dywedodd perthynas Hannaa, Hussain Vorajee, o Gaerloyw, wrth y BBC: "Rydym yn drist iawn, roedden nhw'n eneidiau hyfryd rydym nawr wedi'u colli.

"Mae'r gymuned mewn sioc, nid yn unig yng Nghaerloyw ond ledled y wlad.

"Mae teulu ifanc iawn wedi cael ei gymryd oddi wrthym, mae hyn yn rhywbeth nad ydym erioed wedi'i weld, rhywbeth sydd wedi effeithio ar gymaint o deuluoedd.

"Ni fyddwn yn dymuno'r drychineb hon i unrhyw un."

Llun o grŵp o ddynion ifanc yn yr ysgol. Mae Akeel Nanabawa yn sefyll yn y canol yn gwisgo top hufen, Ruman Hussain ar y dde yn gwisgo siorts coch a top Nike glas.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Ruman Hussain (ar y dde) ei ffrind Akeel (yn y canol) fel "dyn hyfryd"

'Bob amser yn gwenu'

Mae dyn o Gasnewydd wedi disgrifio tyfu i fyny gydag Akeel Nanabawa, gan ddweud ei fod "fel brawd" iddo.

Dywedodd Ruman Hussain: "Rydw i wedi'i adnabod drwy gydol fy mywyd.

"Roedden ni gyd arfer gwylio pêl-droed, chwarae criced a chael bwyd gyda'n gilydd.

"Roedd gymaint yn ei hoffi, roedd e'n gwybod pawb yn y gymuned."

Dywedodd Ruman, sy'n gweithio ym maes arlwyo yng Nghasnewydd, iddo glywed am y drasiedi gyntaf ar grŵp WhatsApp pêl-droed lleol.

Ebsoniodd fod brawd Akeel, Hamzah, wedi cadarnhau'r newyddion ofnadwy dros y ffôn yn ddiweddarach.

"Mae'n anodd iawn," meddai Mr Hussain. "Roedd e bob amser yn gwenu. Maen nhw'n dweud mai'r gorau sy'n mynd gyntaf."

Mae tîm o ymchwilwyr o'r Air Accidents Investigation Branch (AAIB) y DU bellach wedi cyrraedd India.

Yn unol â phrotocolau rhyngwladol, dim ond awdurdodau India sy'n gyfrifol am ryddhau gwybodaeth am yr ymchwiliad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig