Marwolaeth menyw a lithrodd yn Eryri yn ddamwain - crwner

Maria EftimovaFfynhonnell y llun, Jamie Graham
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Maria Eftimova - oedd yn gerddwr profiadol - tra'n cerdded mynydd Tryfan

  • Cyhoeddwyd

Damwain oedd marwolaeth menyw 28 oed a lithrodd wrth gerdded yn Eryri, mae crwner wedi cofnodi.

Fe syrthiodd Maria Rosanova Eftimova - peiriannydd o Lannau Mersi - wrth gerdded mynydd Tryfan gyda'i ffrindiau ddydd Sadwrn, 22 Chwefror.

Clywodd gwrandawiad blaenorol ei bod wedi disgyn "pellter sylweddol" ar ôl llithro wrth geisio codi ei hun i fyny ar greigiau.

Mae ei ffrindiau wedi ei disgrifio fel menyw ifanc gyda "phersonoliaeth, egni ac agwedd oedd yn cyffwrdd â phawb o'i chwmpas".

Copa TryfanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tryfan ymhlith y mynyddoedd uchaf yn Eryri, ac mae'n rhaid sgramblo er mwyn cyrraedd y copa

Fe glywodd y cwest fod Ms Eftimova wedi dechrau ar ei thaith tua 09:00 fel rhan o grŵp o 18 o bobl.

Cafodd ei drefnu ar Facebook ac roedden nhw am gerdded i gopa Tryfan, mynydd yn Eryri sydd â rhannau heb lwybrau troed wedi'u marcio.

I gyrraedd y copa mae angen defnyddio dwylo a sgiliau sgramblo.

Ychydig dros hanner ffordd i fyny, rhannodd y grŵp yn ddau, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd llwybr haws, ond chwech neu saith o bobl, gan gynnwys Ms Eftimova, yn dewis llwybr anoddach i fyny wyneb gogleddol y mynydd.

Disgrifiodd Harry Jones, a oedd yng nghefn y grŵp ac y tu ôl iddi, sut y cafodd hi drafferth yn cydio mewn craig i ddringo'n uwch.

"Dechreuodd dynnu ei hun i fyny," meddai mewn datganiad, "ond yna gwelais hi'n hedfan dros fy mhen i lawr ochr y mynydd."

Dywedodd aelod arall o'r grŵp, Neil Oakes, mewn datganiad: "'Nes i droi, a gweld Maria yn cwympo drwy'r awyr.

"Roeddwn i'n gweiddi 'na, na, na', ac edrychais i ffwrdd. Pan edrychais yn ôl, roeddwn i'n gwybod ei bod hi wedi taro craig islaw."

Cafodd criwiau achub a pharafeddygon eu galw yno, ond fe gafodd ei chadarnhau yn farw ar y mynydd am 12:46.

Dangosodd archwiliad post mortem ei bod hi wedi marw o anafiadau difrifol i'w phen gan gynnwys penglog wedi torri.

Wrth roi teyrnged iddi disgrifiodd ei thad Rosen Eftimov sut y cafodd ei geni ym Mwlgaria, cyn teithio i'r DU er mwyn astudio'n y brifysgol

Roedd hi'n ddringwr mynydd profiadol, yn eirafyrddio ac wedi cwblhau cwrs dringo rhewlifoedd yn Norwy.

Dywedodd ffrind arall, Victoria Critchley, yn gynharach eleni ei bod hi'n "uchelgeisiol, yn ddisglair ac yn annwyl".

Daeth y Crwner Kate Robertson i'r casgliad mai marwolaeth ddamweiniol oedd hon gan gydymdeimlo â'i theulu a'i ffrindiau am golli "menyw ifanc ddisglair a chydwybodol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.