'Dim mwy o arian i Brifysgolion' - Llywodraeth Cymru

Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 400 o swyddi academaidd llawn amser

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Addysg Uwch yn dweud na fydd arian ychwanegol i brifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn dilyn cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd am gynllun posib i dorri 400 o swyddi, gyda chynigion eraill i gau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill.

Yn ôl Vikki Howells mater i Brifysgolion yw cydbwyso'r llyfrau.

Dywedodd hefyd ei bod yn siarad â Llywodraeth y DU am sut mae'r sector yn cael ei ariannu.

Wrth siarad â BBC Politics Wales, dywedodd y gweinidog fod y sector addysg uwch yn "mynd trwy gyfnod heriol iawn yn ariannol… gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru."

Aeth ymlaen i ddweud mai mater i sefydliadau oedd "cydbwyso'r llyfrau" er ei bod hefyd wedi dweud bod y brifysgol "ar y cyfan yn agored i archwilio opsiynau eraill."

Er hyn, fe wnaeth y gweinidog gadarnhau na fyddai arian ychwanegol i Brifysgolion.

Esboniodd ei bod yn "wirioneddol onest...a dweud na fyddai unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gael oni bai ein bod yn edrych i dorri'n ôl o feysydd eraill fel y Gwasanaeth Iechyd, addysg, y gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw."

'Gobeithio osgoi diswyddo'

Mae'r Llywodraeth i wedi ychwanegu £10 miliwn ychwanegol ar ôl cyllideb yr Hydref i fynd a'r cyllid i £200 miliwn… ond ymgynghoriad yw hwn, ni'n gwybod mai'r sefyllfa waethaf yw'r 400 o swyddi", medd y gweinidog.

Yn ôl Vikki Howells, mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Wendy Larner, yn gobeithio bydd y ffigwr yn "sylweddol is 'na hynny".

"Mae hi wir yn gobeithio osgoi diswyddo gorfodol ond byddwn yn annog yr holl staff i weithio gyda'u hundebau", meddai.

Fe gafodd y staff y Brifysgol wybod am y newidiadau arfaethedig ddydd Mawrth, ac mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.

Er hyn, fe wnaeth hefyd gydnabod ei bod yn edrych ar ddiwygio cyllid addysg uwch ac edrych ar faterion fel mudo, myfyrwyr rhyngwladol, a hefyd rheolau Trysorlys EM sy'n gyfrifol am drefniadau cyllid myfyrwyr.

Dywedodd ei bod wedi bod yn siarad â llywodraeth y DU am hynny ac wedi cael sgwrs "gadarnhaol iawn".

"Rwyf wedi cael sgwrs gadarnhaol iawn gyda fy nghymar yn y DU, y Farwnes Jacqui Smith, ac mae cyfarfod arall wedi'i drefnu gennyf yr wythnos nesaf.

"Felly mae hwn, i mi, yn gwbl allweddol i greu atebion cynaliadwy hirdymor ac rwy'n benderfynol o roi'r anghenion Cymru ar frig y'ngwaith."