Prifysgol Caerdydd yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol
- Cyhoeddwyd
Mae prifysgol fwyaf Cymru yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i staff mewn ymateb i heriau ariannol cynyddol i'r sector addysg uwch.
Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad diweddaraf i agor cynllun diswyddo gwirfoddol.
Mae Prifysgolion Aberystwyth, Abertawe, De Cymru a Met Caerdydd eisoes wedi cymryd y cam er mwyn gwneud arbedion.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod y cynllun ymhlith sawl mesur i "helpu sicrhau dyfodol tymor hir y brifysgol".
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2023
Dywed y brifysgol bod ei Llywydd ac Is-ganghellor, Yr Athro Wendy Larner "wedi bod yn glir ei bod yn credu bod model ariannu prifysgolion wedi torri" - barn a fynegodd ar ddechrau ei chyfnod yn y swydd fis Tachwedd y llynedd.
"O ganlyniad," dywedodd y llefarydd, "mae pob prifysgol yn ailystyried y ffyrdd y maen nhw'n gweithredu i sicrhau eu dyfodol yn y tymor hir."
Ychwanegodd bod yr Athro Larner "hefyd wedi bod yn glir bod dim angen i unrhyw un boeni ynghylch ein hamgylchiadau ariannol yn y tymor ehangach - ond ni allwn weld sefyllfa ble y gallwn ni barhau i gofnodi cyllidebau â diffygion ariannol".
“Ynghyd â mesurau eraill â'r nod o leihau ein costau, bydd hyn yn helpu sicrhau dyfodol tymor hir y brifysgol."
Mae'r brifysgol yn pwysleisio fod y cynllun diswyddo, sydd ar agor am gyfnod penodol, "yn hollol wirfoddol".
“Does dim rheidrwydd ar unrhyw aelod staff i ymgeisio nag i'r brifysgol dderbyn cais," meddai'r llefarydd.
“Wrth ystyried ceisiadau, byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth ar leihau'r effaith ar brofiad y myfyriwr a llwyth gwaith cydweithwyr sydd ar ôl."
'Lefelau peryglus o straen'
Mae undeb wedi codi pryderon am oblygiadau diswyddiadau gwirfoddol yn y cyd-destun nad oes unrhyw benodiadau newydd ar hyn o bryd.
Dywedodd UCU Caerdydd y gallai hynny arwain at "lefelau peryglus o straen a gor-weithio" heb staff newydd yn lle'r rhai sy'n gadael.
Mae'r undeb wedi gofyn am asesiadau trylwyr a mesurau lleddfu cyn bod unrhyw aelod o staff yn gadael yn wirfoddol.