Dyfodol 160 o swyddi Prifysgol De Cymru yn ansicr

prifysgol de cymru caerdyddFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol De Cymru yn wynebu twll ariannol o £20m yn 2024-25

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol De Cymru wedi dechrau ymgynghori ar gynlluniau a allai weld 160 o swyddi yn cau.

Fe adawodd 100 o bobl eu swyddi yn y brifysgol yn gynharach eleni fel rhan o gynllun diswyddiadau gwirfoddol.

Mae'r brifysgol - sydd â 26,000 o fyfyrwyr ar draws Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd - yn cyflogi tua 2,900 o bobl.

Dywedodd Unsain, yr undeb mwyaf ymhlith staff cymorth, fod y brifysgol yn targedu yn annheg y rhai sydd ar gyflogau is.

Dywedodd y brifysgol y byddan nhw'n cadarnhau ddechrau 2025 faint o bobl fydd yn colli eu swyddi y tro yma.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru bod "cynlluniau yn cynnwys cynllun i gau 160 o swyddi".

"Er hynny, mae 'na gynlluniau ar gyfer nifer o swyddi newydd felly dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd 160 o weithwyr yn gadael."

'Hinsawdd ariannol hynod o heriol'

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'n hinsawdd ariannol hynod o heriol i'r sector Addysg Uwch, a fel nifer o sefydliadau, rydyn ni'n wynebu diffyg yn ein cyllideb eleni.

"Er ein bod ni eisoes wedi gwneud arbedion, dydyn ni ddim yn credu allwn ni wneud digon o arbedion mewn blwyddyn felly rydyn ni wedi dechrau ystyried ffyrdd o drawsnewid y ffordd rydyn ni'n gweithio fydd yn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion yn ogystal â sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa ariannol mwy cynaliadwy."

Ychwanegodd bod y brifysgol yn gweithio'n agos gyda'r undebau ac y bydd hynny'n parhau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Maen nhw hefyd yn annog gweithwyr i gyfrannu at y broses ymgynghori.

"Ein ffocws ni yw cynnig y profiad gorau posib i'n myfyrwyr ac rydyn ni'n gobeithio y bydd ein rhaglen o drawsnewid yn ogystal â'n buddsoddiad yn ein hisadeiledd yn ein helpu ni i wella profiadau pobl iddyn nhw astudio gyda ni."

'Y cymoedd ar eu colled'

Dywedodd Dan Beard, ysgrifennydd cangen Unsain ym Mhrifysgol De Cymru, ei fod yn “newyddion dinistriol”.

“Mae colli hyd at 160 o swyddi yn rhan enfawr o’r gweithlu," meddai.

"Heb os, bydd toriadau o'r raddfa hon yn cael effaith negyddol ar gefnogaeth i fyfyrwyr, eu lles a'u cyflawniad.

“Yn eithaf annheg, mae’r brifysgol yn targedu’r staff ar y cyflogau isaf, gyda llawer ohonynt ar gytundebau rhan amser.

"Maen nhw'n gwario eu harian yn lleol a nawr bydd strydoedd mawr cymoedd y de ar eu colled."