Torri biliau gyda dŵr o hen byllau glo?
- Cyhoeddwyd
Gallai cynlluniau gwresogi carbon isel sy'n defnyddio dŵr o hen byllau glo yng Nghymru arwain at filiau ynni is.
Yn ôl yr Awdurdod Glo, mae un ym mhob pum eiddo yng Nghymru ar safleoedd lle gallai cynllun dŵr pwll glo weithio.
Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Wrecsam yw tair ardal sydd wedi eu clustnodi ar gyfer datblygiad posib.
Gan ddibynnu ar ddyfnder y pwll, gall y dŵr ohonynt amrywio rhwng 10 a 20 gradd Celsius.
Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mewn amrywiaeth o gynlluniau gwres carbon isel fel rhan o'i huchelgais i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Gobaith yr Awdurdod Glo, sy'n arwain ar y cynllun yng Nghymru, yw gallu efelychu llwyddiant y cynllun mawr cyntaf o'i fath ym Mhrydain yn Gateshead.
"Ers cau nifer o'r glofeydd, maen nhw wedi llenwi gyda dŵr," eglura Gareth Farr o'r awdurdod.
"Mae'r cynlluniau yma'n gweithio wrth i ni ddrilio tyllau-turio i lawr i gyrraedd at y dŵr.
"Mae wedyn yn cael ei gludo i'r wyneb ac mae peiriannau yn adfer y gwres o'r dŵr sydd wedyn yn dychwelyd o dan y ddaear.
"Mae'r gwres sy'n cael ei adfer yn cael ei ddosbarthu trwy rwydwaith gwres i dai, swyddfeydd neu unedau diwydiannol.
"Mae'r gwres dŵr glofeydd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn rhoi gwres i gwsmeriaid am 5% yn llai na phrisiau nwy, felly mae hwnna wir yn bwysig, yn arbennig mewn argyfwng costau byw."
Yn Gateshead, mae Scott Morrisson o'r Glasshouse International Centre yn dweud ei fod wedi arbed degau o filoedd o bunnau ers ymuno â chynllun dŵr pwll glo y dref yng ngwanwyn 2023.
"Gan fod ein hadeilad ni'n un mawr, ein biliau ynni yw un o'n costau blynyddol mwyaf," meddai.
"Y fantais arall yw ein bod ni hefyd yn anelu at fod yn sero net erbyn 2030.
"Felly rydyn ni'n trio ymateb o ddifrif i'r argyfwng hinsawdd ac mae hwn wir yn ein helpu ni i gyrraedd y targed hwnnw."
Mae Dr Prysor Williams yn uwch-ddarlithydd rheolaeth amgylcheddol ym mhrifysgol Bangor ac wedi gweithio ar nifer o brosiectau sy'n defnyddio egni o ddŵr poeth.
Mae'n dweud bod pob safle'n wahanol ac yn cynnig heriau gwahanol.
“Mewn glofeydd mae llawer iawn o’r tyllu wedi’i wneud yn barod, felly mae’r gwaith i fynd at y dŵr yn eithaf rhwydd mewn hen lofeydd o gymharu â llefydd eraill," meddai.
Eglurodd hefyd nad oes rhaid i'r costau datblygu fod yn uchel chwaith, o weithio yn y safleoedd cywir.
"Mae’r dechnoleg i bob pwrpas yn eithaf syml.
"Mae’r dŵr poeth yno felly mater o bwmpio’r dŵr i’r arwyneb ydy o a defnyddio system o blatiau i dynnu’r gwres o’r dŵr, fel petai, fel bod y dŵr a’r gwres yn gallu cael ei ddefnyddio.”
Mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Gyda gwresogi yn gyfrifol am 50% o ddefnydd ynni yng Nghymru, gallai gwres dŵr pyllau glo wella cynaliadwyedd y llefydd le rydym ni'n byw a gweithio.
"Gallai gwres dŵr pyllau glo hefyd chwarae rhan yn ein hymdrechion angenrheidiol i daclo newid hinsawdd a chefnogi datgarboneiddio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Ebrill