Cynnydd mewn cerdded a seiclo yn 'boenus o araf'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o gynyddu nifer y bobl sy'n dewis cerdded a seiclo wrth deithio yng Nghymru yn "boenus o araf", medd adolygiad newydd.
Er i'r arbenigwyr ar deithio llesol ganmol lefelau cyllid a "deddfwriaeth arloesol" yn y maes, fe ddywedon nhw fod angen gweithredu'n "well".
Mae tua un ym mhob tair siwrnai yn digwydd drwy gerdded, seiclo neu drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.
Targed Llywodraeth Cymru yw i hyn gynyddu i 45% erbyn 2040, ac mae llefarydd wedi dweud y byddan nhw'n ystyried argymhellion yr adroddiad diweddaraf.
Ers dros ddegawd, mae'r llywodraeth ac awdurdodau lleol wedi gorfod parhau i wella'r ddarpariaeth ar gyfer cerdded a seiclo - er budd yr amgylchedd a iechyd pobl - a hynny o dan Ddeddf Teithio Llesol Cymru.
Ond mae adroddiad newydd yn nodi ei bod hi'n ymddangos nad oes yna "unrhyw gynnydd sylweddol" wedi bod mewn lefelau cerdded a seiclo ers pasio'r ddeddfwriaeth yn 2013.
Daw hyn yn dilyn rhybudd tebyg chwe blynedd yn ôl.
Mae'r argymhellion yn cynnwys targedu cyllid y llywodraeth yn y dyfodol ar un neu ddwy dref ym mhob awdurdod lleol, er mwyn cael mwy o effaith.
Mae'r Bwrdd Teithio Llesol annibynnol hefyd yn galw am ailwampio'r modd y mae data yn cael ei gasglu, gyda phrinder gwybodaeth ynglŷn â faint o blant sy'n cerdded neu'n seiclo i'r ysgol, er enghraifft.
Un fenter sy'n llwyddo yw'r cyfleusterau newydd yng nghanol Casnewydd i bobl fedru storio beics bedair awr ar hugain y dydd.
"Fe wnaethom ddarganfod bod y risg o'ch beic chi'n cael ei ddwyn yn rhwystro nifer o bobl rhag seiclo mewn i ganol y ddinas," esboniodd Mark Seymour o elusen The Gap Wales.
Mae'r elusen wedi ffurfio partneriaeth â Spokesafe, sefydliad sy'n cynnig gwasanaeth storio beics lle all pobl archebu lle drwy ap.
Maen nhw'n defnyddio siop oedd yn wag ac yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Newport City Homes.
Mae'r cyfleusterau wedi bod yn agored ers 18 mis bellach, ac mae arolwg diweddar yn awgrymu y byddai dros hanner y defnyddwyr heb deithio i ganol y ddinas hebddyn nhw, gyda thros dri chwarter bellach yn seiclo yn amlach.
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2018
"Mae pawb ar eu hennill o deithio'n llesol - mae'n golygu llai o gerbydau ar y ffyrdd, llai o draffig a llygredd ond mwy o le i barcio i bobl sy' wirioneddol angen gyrru car," meddai Mr Seymour.
Dywedodd Ben, myfyriwr 20 oed ei fod yn gwerthfawrogi'r ganolfan newydd fel "lle saff i gadw beic, yn enwedig yn ystod y nos - fe arall y'ch chi'n mynd i'w golli fe".
"Mae gen i bus pass am ddim ond fydde'n well gen i seiclo i mewn i'r dre'," ychwanegodd Jim Corry, 67 oed.
"Mae'r cyfleusterau yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr a dwi'n eu defnyddio nhw lot - pam fyswn i'n talu i barcio ac am betrol pan allai ddod fan hyn a storio fy meic am £1.50 y dydd?"
'Darlun cymysg'
Mae'n un o nifer o esiamplau o arfer da sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad, sy'n mynnu bod gan Gymru'r potensial i fod yn "arwain y byd" ym maes teithio llesol.
Mae'r arbenigwyr yn canmol y newid "dadleuol" i derfyn cyflymder 20mya ar rai ffyrdd, a chynnydd yn lefel y cyllid ar gyfer annog cerdded a seiclo yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cymru bellach yn gwario £19 y pen ar deithio llesol, o'i gymharu â £12 y pen yn Lloegr.
Ond mae cyfraddau cerdded a seiclo yn parhau yn "stwbwrn o isel", rhybuddia'r arbenigwyr.
Yn 2023 roedd 51% o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos, i lawr o 60% cyn y pandemig.
Mae 6% o oedolion yn seiclo o leiaf unwaith yr wythnos, gyda 10% yn seiclo o leiaf unwaith y mis.
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol fod yr adroddiad yn cynnig "darlun cymysg".
"Wrth i mi deithio'n rhyngwladol o fewn yr ynysoedd hyn a thu hwnt, mae gwaith Llywodraeth Cymru ar deithio llesol yn cael ei gydnabod a'i ddathlu fel enghraifft o arfer da."
Ond "mae'r newid ymddygiad rydym yn ei geisio yn absennol i raddau helaeth yn y data sydd ar gael," meddai.
"Rydym wedi gosod yr uchelgais o fod yn genedl teithio llesol, ond hyd yn hyn mae'r cynnydd ar y daith honno wedi bod yn boenus o araf."
Dywedodd y dirprwy gadeirydd, Rhiannon Letman-Wade - a oedd wedi arwain gwaith y grŵp ar ysgolion - fod yna enghreifftiau "o waith arbennig" - gan gynnwys Ysgol Gynradd Howardian ym Mhenylan, Caerdydd lle mae "90% o'r disgyblion bellach yn teithio'n llesol i'r ysgol".
"Felly mae’n bosib," meddai, "ac mae'n bosib iawn bod mwy o ysgolion tebyg, ond does dim modd i ni weld ôl y gwaith yma, oherwydd nid yw’r data lle gallai fod."
Yng Ngheredigion, cafodd llwybr teithio llesol pwrpasol ei chwblhau eleni yn cysylltu Ysgol Gynradd Comins Coch ar gyrion Aberystwyth ag ardal Waun Fawr.
Fe gostiodd £1.6m, ac mae eisoes yn denu 3,000 o ddefnyddwyr y mis, yn ôl y Cynghorydd Keith Henson, aelod cabinet priffyrdd, gwasanaethau amgylcheddol a rheoli carbon y cyngor.
Mynnodd bod hi'n bwysig sicrhau bod ardaloedd gwledig yn ogystal â rhai trefol yn medru denu buddsoddiad i hybu teithio llesol.
"Os y'ch chi wedi teithio ar hyd Ceredigion, dyw'r hewlydd ddim yn ddiogel," meddai.
"Ma 'isie'r arian a dyna ble ni'n cwympo lawr... achos ma'n poblogaeth ni yn llai na'r dinasoedd a'r trefi mwya', wrth gwrs."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu adroddiad y Bwrdd Teithio Llesol.
"Fe fyddwn ni'n ystyried y canfyddiadau ac yn ymateb maes o law," meddai.