Gwahardd nyrs wnaeth ffugio cymwysterau o'r proffesiwn

Tanya NasirFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tanya Nasir ei charcharu am bum mlynedd ym mis Hydref 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wnaeth ddweud celwydd am ei chymwysterau er mwyn cael swydd nyrsio mewn uned babanod newydd-anedig wedi'i gwahardd o'r proffesiwn.

Cafodd Tanya Nasir o Rickmansworth yn Sir Hertford ei phenodi yn rheolwr ward babanod newydd-anedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2019.

Roedd Nasir wedi honni ei bod yn nyrs hynod brofiadol a'i bod wedi trin achosion brys yn ystod cyfnod yn gweithio i'r fyddin yn Afghanistan.

Ym mis Hydref 2024 cafwyd hi'n euog o naw cyhuddiad o dwyllo a'i charcharu am bum mlynedd.

Daeth pwyllgor y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i'r casgliad y byddai gweithredoedd Nasir yn gwneud cleifion bregus yn agored i "niwed sylweddol ac y gallai hynny fod wedi achosi canlyniadau trychinebus".

Cafodd y gwrandawiad i benderfynu a oedd hi'n gymwys i weithio ei gynnal ar 23 Mai - doedd Nasir ddim yn bresennol.

Yn y gwrandawiad dywedodd cynrychiolydd ar ran yr NMC, Naa-Adjeley Barnor, nad oedd Nasir wedi dangos "unrhyw dystiolaeth ei bod yn edifar am ei gweithredoedd".

Ychwanegodd Ms Barnor fod Nasir wedi'i chael yn euog o'r blaen am hawlio budd-daliadau lles drwy dwyll yn 2010, a bod "risg sylweddol" y byddai Nasir yn gwneud hynny eto yn y dyfodol.

Ystyriodd y panel hefyd fod Nasir wedi cymryd camau i guddio'r twyll pan sylweddolodd bod yr hyn roedd hi wedi'i wneud yn hysbys.

Clywodd y gwrandawiad fod gweithredoedd Nasir wedi bod yn "soffistigedig ac wedi'u cynllunio" ac nad oedd modd newid ei hagweddau.

O ganlyniad, dywedodd Ms Barnor mai'r unig gosb briodol ac addas fyddai gorchymyn yn ei dileu o'r gofrestr.

Pynciau cysylltiedig