Uned mamolaeth yn 'gwella'n sylweddol' ond heriau o hyd

Ysbyty SingletonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 3,000 o fabanod yn cael eu geni yn Ysbyty Singleton, Abertawe bob blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae hanner y staff mewn uned mamolaeth yn Abertawe yn dweud y bydden nhw'n fodlon gyda safon y gofal i'w hunain, teulu neu ffrindiau, yn ôl adroddiad.

Mae'r uned yn Ysbyty Singleton yn un o'r mwyaf yng Nghymru gyda thua 3,200 o enedigaethau yno bob blwyddyn.

Yn ystod ymweliad dirybudd ym mis Ebrill, fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ganfod fod lefelau staffio a strwythurau rheoli wedi gwella ers yr ymweliad diwethaf ym mis Medi.

Ond dywedodd yr arolygwyr fod pryderon eraill, yn cynnwys rhai allai olygu risg i gleifion, yn dal i fodoli.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod wedi ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig.

Gofal 'caredig a pharchus'

Yn gyffredinol gwelodd yr arolygwyr fod staff yn darparu gofal "caredig a pharchus" i gleifion a'u teuluoedd a bod trefniadau mewn lle i gynnig gofal diogel ac effeithiol.

Roedd yr holl fenywod a theuluoedd gafodd eu holi gan yr arolygwyr yn canmol y gofal gafon nhw.

Roedd pob un hefyd o'r farn fod eu dewisiadau wedi’u parchu ac iddyn nhw gael gofal amserol.

Yn ystod yr ymweliad fe wnaeth AGIC ddarganfod fod lefelau staffio ar gyfer bydwragedd a staff meddygol yn "addas".

Ond yn ôl arolwg AGIC o staff, roedd y mwyafrif ohonyn nhw yn pryderu am fylchau yn y gweithlu.

Dim ond 10 o’r 62 o ymatebwyr oedd o'r farn fod 'na ddigon o staff i gyflawni eu dyletswyddau yn briodol, ac roedd mwy na hanner yn cwyno nad oedd ganddyn nhw ddigon o amser i gyflawni'r gofynion amrywiol.

Roedd prinder staff yn bryder penodol yn yr Uned Derbyn Cyn Geni - gydag ond un fydwraig ac un aelod o staff ar y dderbynfa yn bresennol yn aml.

Cwynodd tua hanner y staff nad oedd ganddyn nhw bob tro'r cyfarpar meddygol angenrheidiol i gynnig gofal amserol.

Nododd adroddiad yr arolygwyr rai gwelliannau brys oedd angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw ar unwaith. Fe gafodd nifer o'r rheiny eu datrys yn ystod yr ymweliad.

Rhestrodd yr adroddiad 23 o welliannau eraill oedd angen i'r bwrdd iechyd eu gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd y bwrdd iechyd y byddai adolygiad annibynnol o'r gwasanaethau ar gyfer mamau a babanod yn cael ei gynnal.

Yn ôl rheolwyr nod yr adolygiad yw cynnig help i fynd i’r afael â’r pryderon ac "adennill hyder yn y gwasanaeth, gan amlygu arfer da ac unrhyw wersi i’w dysgu."

Ym mis Mehefin cyhoeddwyd bod y bargyfreithiwr a oedd yn arwain adolygiad - Margaret Bowron KC - wedi camu o'r neilltu yn dilyn galwadau gan rai teuluoedd am ei hymddiswyddiad.

Gofynnodd y bwrdd iechyd i Dr Denise Chaffer, oedd yn aelod eisoes o'r panel goruchwylio, i gymryd yr awenau dros dro fel cadeirydd yr adolygiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella ein gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol yn barhaol, ac mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan AGIC yn cydnabod y 'gwelliannau sylweddol' sydd wedi eu gwneud eisoes, yn enwedig o ran staffio ac arweinyddiaeth y gwasanaeth.

"Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd, ac rydyn ni’n cymryd camau penodol i gwblhau’r holl argymhellion.

"Mae'r adroddiad llawn yn rhoi manylion helaeth am y gwelliannau a wnaed, yn ogystal â'n cynllun gweithredu, ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i'w ddarllen."

Pynciau cysylltiedig