Tân Meidrim: Cwest i farwolaeth dynes oedrannus
- Cyhoeddwyd
Cafodd cwest ei agor i farwolaeth dynes oedrannus fu farw mewn tân mewn tŷ ger pentref Meidrim yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd Margaret Cooper, 79 oed, yn byw ar ei phen ei hun ym Mlaenpant, Meidrim.
Yn y gwrandawiad yn Neuadd y Dref Llanelli, dywedodd Swyddog y Crwner, Mr Malcolm Thompson, fod yr heddlu wedi derbyn galwad gan y gwasanaeth tân toc wedi canol nos ar 9 Chwefror, wedi adroddiadau bod tŷ ar dân a'u bod yn credu bod person y tu mewn.
Doedd y criwiau tân ddim wedi gallu mynd fewn i'r adeilad oherwydd "natur ansicr yr eiddo" ac nad oedden nhw wedi gallu chwilio am y ddynes oedrannus.
Clywodd y cwest bod yr eiddo wedi ei "ddinistrio'n llwyr" gyda'r to a'r ail lawr wedi dymchwel.
Roedd yr adeilad wedi’i adael i oeri cyn i gorff Margaret Anne Cooper gael ei ddarganfod gan griwiau tân yn yr ystafell fyw ar 21 Chwefror.
Dangosodd camera ei bod wedi cael ei gweld yn gyrru ei cherbyd Nissan Juke coch yn yr ardal ar 8 Chwefror.
Roedd hi'n byw ar ei phen ei hun ar ôl marwolaeth ei gŵr.
Cafodd y corff ei gludo i Ysbyty Glangwili.
Roedd canlyniadau post mortem cychwynnol yn dangos iddi farw o ganlyniad i losgiadau difrifol oherwydd tân mewn tŷ.
Cafodd y cwest ei ohirio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Chwefror