Dedfryd gyrrwr a laddodd fachgen 13 oed yn 'warthus'

Disgrifiad,

Yn sgil y ddedfryd dywed teulu Kaylan eu bod "methu â'i gofio fe fel oedd o"

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen 13 oed fu farw ar ôl cael ei daro gan yrrwr oedd wedi bod yn yfed wedi beirniadu’r ddedfryd “warthus” a gafodd y dyn.

Cafodd Kaylan Hippsley ei daro gan gar oedd yn cael ei yrru gan Harley Whiteman, 19, wrth iddo gerdded gyda’i ffrindiau i glwb ieuenctid Hirwaun ar 29 Chwefror.

Dedfrydwyd Whiteman yr wythnos ddiwethaf i chwe blynedd a naw mis dan glo, am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Ond yn ôl teulu Kaylan dydy hynny ddim yn ddigon, gyda deiseb yn galw am ddedfrydau llymach bellach wedi denu bron i 5,000 o lofnodion a chefnogaeth aelodau'r Senedd.

Dywedodd Llywodraeth y DU mai barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau, ond eu bod wedi cynyddu’r gosb uchaf am achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus i garchar am oes.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Whiteman wedi bod yn yfed a chymryd cyffuriau ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, cyn gyrru o Aberdâr i Hirwaun gyda dau ffrind.

Cafodd ei weld yn gyrru’n beryglus drwy’r pentref, cyn taro Kaylan ar ôl iddo wyro ar y palmant wrth osgoi taro cerbyd arall.

Yna fe yrrodd i ffwrdd, cyn dychwelyd i’r safle ar droed a dechrau sarhau pobl oedd yn ceisio helpu Kaylan.

Yn ôl Sarah Edwards, mam un o ffrindiau Kaylan, roedd hi’n amlwg i’r rheiny oedd yno bod gan Whiteman ran yn yr hyn ddigwyddodd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr wrth ddedfrydu Harley Whiteman bod ei ymddygiad wedi'r gwrthdrawiad yn “wrthun a dienaid”

“Nes i herio fe, ac fe wnaeth e ddweud ambell beth cas, a 'nes i ofyn os mai fe oedd y gyrrwr,” meddai.

“Ac fe wnaeth e sylw coeglyd i fi, ‘wel, os mai fi yw’r gyrrwr, lle mae fy nghar?’ - a chwerthin.

“Roedd e’n olygfa erchyll, yn llanast llwyr, ac fe wnaeth presenoldeb Harley Whiteman wneud pethau 10 gwaith gwaeth.”

Clywodd y llys ei fod wedi parhau i ymddwyn yn sarhaus tuag at swyddogion heddlu wrth gael ei arestio, gan wrthod rhoi sampl anadl na gwaed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae maint y ddedfryd yn cymhlethu'r broses o alaru i deulu Kaylan, gan gynnwys ei chwaer Chloe, ei daid Ron Griffiths a'i fam Lisa

Roedd y gwasanaethau brys eisoes yno pan gyrhaeddodd mam Kaylan, Lisa Hippsley.

“Yr unig beth fi’n cofio yw goleuadau glas ym mhobman, y ffordd wedi ei chau. Felly o’n i’n gwybod fod e’n wael, o’n i’n gwybod yn syth."

Ar ôl iddo gael ei gludo i’r ysbyty, cafodd y teulu wybod ei fod wedi dioddef “anaf pen catastroffig” ac y dylen nhw “baratoi am y gwaethaf”.

Bu farw Kaylan dridiau'n ddiweddarach, ar 3 Mawrth.

Ers hynny mae bywydau’r teulu wedi eu chwalu.

Roedd Kaylan yn byw gyda’i fam-gu Kay, ond dydy hi ddim wedi gallu dychwelyd i’r cartref ers noson y digwyddiad.

“Mae hyn wedi ei llorio hi a gweddill y teulu agos,” meddai hen fodryb Kaylan, Tracey Lewis.

“Fi ddim yn meddwl bydd Kay fyth yn dod yn ôl o hyn.”

Disgrifiad o’r llun,

Hen fodrybedd Kaylan, Julie Craig a Tracey Lewis, gyda Sarah Edwards sy'n fam i un o'i ffrindiau

Ychwanegodd Sarah fod “teimlad iasol” yn y gymuned, gyda’i mab Lucas ymhlith y rheiny sydd wedi ei “ysgwyd yn llwyr” ar ôl colli rhywun yr oedd yn ei ystyried yn “frawd”.

“Mae’n teimlo fel bod darn ohono wedi mynd. Mae’n hiraethu ar ôl ei ffrind bob dydd,” meddai.

Mae Lisa nawr yn gweld y ddelwedd “drosto a drosto” o’i mab yn gorwedd ar y ffordd.

“Dyna’r unig beth fi’n gweld cyn i fynd i gysgu yn y nos, a fi methu meddwl am atgofion hapus bellach.”

'Blas chwerw iawn am yr holl beth'

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins fod Whiteman wedi “anwybyddu rheolau’r ffordd mewn modd difrifol a didrugaredd”, a bod ei ymddygiad wedi hynny yn “wrthun a dienaid”.

Ond er iddo benderfynu ei fod yn drosedd Categori A, rhoddodd ddedfryd o naw mlynedd i Whiteman, sydd tua pen isaf y glorian am drosedd o’r fath.

Gyda’r amser sy’n cael ei dynnu am bledio’n euog, a chael ei ryddhau ar drwydded hanner ffordd drwy’r ddedfryd, gallai olygu bod Whiteman yn treulio llai na tair blynedd a hanner dan glo.

Roedd Julie Craig, hen fodryb arall i Kaylan, yn un o ddau ddwsin o deulu a ffrindiau oedd yn y llys i glywed y ddedfryd, gan adael yn teimlo’n “hollol afiach”.

“Mae ‘na flas chwerw iawn am yr holl beth,” meddai. “Fi’n teimlo fel bod ni wedi colli Kaylan i gyd eto.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylan Hippsley ei ddisgrifio fel bachgen "disglair a deallus" oedd yn chwaraewr rygbi a phêl-droed "talentog"

Dywedodd Tracey fod gorfod dweud beth ddigwyddodd wrth Kay, oedd methu wynebu mynd i’r llys, yn “ofnadwy”.

“Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl a dweud wrth ei fam-gu fod bywyd Kaylan werth dim byd – tair blynedd, pedwar mis.

“Alla i ddim credu pa mor flin ydw i. Roedden ni’n credu yn y system, ac ro’n i wir yn meddwl bydden ni’n cael cyfiawnder, ond mae hwnna’n jôc.

“Mae’n sarhad ar y cof am Kaylan.”

'Dedfryd Mickey Mouse'

Roedd taid Kaylan, Ron Griffiths, ymhlith y rheiny oedd fwyaf emosiynol wrth i’r ddedfryd gael ei gyhoeddi yn y llys.

“Ry’n ni eisiau cyfiawnder,” meddai.

“Roedd hwnna’n ddedfryd Mickey Mouse. Rydyn ni eisiau i’r barnwr edrych eto, a rhoi be ddyle fe. Does gen i ddim trugaredd [tuag at Whiteman] o gwbl.”

Mae’r teulu nawr yn ystyried apelio yn erbyn y ddedfryd, ac hefyd wedi lansio deiseb yn galw am gosbau llymach am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Mae bron i 5,000 o bobl eisoes wedi ei arwyddo, gydag aelodau'r Senedd hefyd yn mynegi cefnogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun

“Bydd pobl yn teimlo’n sâl o weld y ddedfryd drugarog hon,” meddai Andrew RT Davies, AS Canol De Cymru.

“Dylai’r canllawiau dedfrydu ar gyfer y rheiny sy’n euog o achosi marwolaeth ar ôl cymryd cyffuriau gael eu hadolygu i sicrhau bod cyfiawnder.”

Dywedodd AS Cwm Cynon, Vikki Howells, ei bod yn deall rhwystredigaeth y teulu ynglŷn â beth maen nhw’n ystyried yn “ddedfryd annigonol”.

“Rydw i’n cefnogi eu galwad am adolygiad brys i’r canllawiau dedfrydu ar gyfer pobl sy’n cael eu canfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando arnynt,” meddai.

Dywedodd Heledd Fychan, AS Canol De Cymru, ei bod yn deall dyhead y teulu am “ddedfryd sy’n cyfleu difrifoldeb y drosedd”.

“Rwyf yn llwyr gefnogi eu galwadau yn y ddeiseb, fyddai yn gwella diogelwch ar ein ffyrdd a gobeithio arbed teuluoedd eraill rhag gorfod dioddef colled o’r fath.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kylan a'i chwaer fawr Chloe yn rhannu hoffter o rygbi

Er nad yw’r teulu wedi cael y diweddglo roedden nhw’n ei ddymuno eto, mae ymdrechion eisoes i adael marc er cof am Kaylan.

Mae arian wedi ei gasglu ar gyfer elusennau iechyd, tra bod ei dîm rygbi hefyd yn bwriadu trefnu modd i’w gofio.

Roedd ei deulu wastad yn annog y dalent honno, gan gynnwys Ron oedd yn mynd ag ef i gemau Scarlets, a’i chwaer hŷn Chloe - gyda hi y byddai’n ymarfer ei sgiliau.

“Bydden i’n taflu’r bêl o gwmpas gyda fe achos fi oedd yr unig un arall oedd yn chwarae rygbi fel plentyn,” meddai.

“Felly roedd e wastad eisiau i fi daflu fe o gwmpas gyda fe, ac ro’n i’n mwynhau hefyd.”

'Bydd e wastad yn 13'

Mae ei fam Lisa yn cofio bachgen oedd yn “glown” ac yn “hoffi jôc”, fyddai wastad yn diddanu ei deulu a’i ffrindiau.

“Roedd wastad gwên ar ei wyneb, roedd e’n goleuo’r ystafell,” meddai.

Ond gyda theulu Kaylan yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael cyfiawnder, mae’r broses o alaru hefyd wedi bod yn anoddach i rai na’i gilydd.

“Mae’n mynd i gymryd amser hir, hir iawn nid yn unig i’r teulu, ond i’r gymuned ehangach a’i ffrindiau, i ddod dros hyn,” meddai Julie.

“Bydd e wastad yn 13, a dyna’r peth trist.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Roedd hon yn drosedd ofnadwy ac rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Kaylan Hippsley.

"Tra mai barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau, rydym wedi cynyddu’r gosb uchaf am achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus i garchar am oes, fel y gall cosbau gyd-fynd â difrifoldeb y drosedd.

"Mae'r rhai a gafwyd yn euog nawr yn mynd i garchar am fwy o amser nag erioed o'r blaen. ”

Pynciau cysylltiedig