Gyrrwr heb stopio ar ôl gwrthdrawiad â bachgen - cwest
- Cyhoeddwyd

Bu farw Kaylan Hippsley yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Aberhonddu, Hirwaun
Bu farw bachgen 13 oed o Hirwaun ar ôl cael ei daro gan gar, ac ni wnaeth y gyrrwr stopio wedi'r digwyddiad, clywodd cwest.
Clywodd y crwner ym Mhontypridd fod Kaylan Hippsley yn cerdded ar Ffordd Aberhonddu yn Hirwaun ar 29 Chwefror, pan gafodd ei daro gan gar Ford Fiesta.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gyda nifer o anafiadau.
Roedd mewn cyflwr difrifol a bu farw ar 3 Mawrth 2024.
Dywedodd y crwner, Patricia Morgan, ei bod yn amau bod marwolaeth Kaylan yn "dreisgar neu'n annaturiol" a bod angen cynnal cwest i'w farwolaeth.
Dywedodd y byddai'r cwest yn cael ei ohirio "er mwyn galluogi swyddogion i gwblhau eu hymchwiliad troseddol".
Aeth ati ei gydymdeimlo gyda'r teulu "ar adeg mor anodd".

Bu farw Kaylan Hippsley yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Aberhonddu
Mae teulu Kaylan Hippsley eisoes wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn fachgen "disglair a deallus" a bod pawb yn hoff ohono yn Ysgol Gymunedol Aberdâr.
"Roedd yn hoff iawn o dreulio amser gyda'i deulu, ac roedd ganddo gylch ffrindiau da iawn."
Fe wnaethon nhw ychwanegu ei fod yn "chwaraewr rygbi a phêl-droed talentog".
"Rydym wedi'n tristau o golli Kaylan mor ifanc, ag yntau ond yn 13 gyda'i fywyd o'i flaen."
"Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb a helpodd ar safle'r ddamwain."
Ar 3 Mawrth 2024, fe ymddangosodd dyn 19 oed o flaen ynadon wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024