Gollwng achos dau oedd wedi'u cyhuddo o anhrefn ar ôl gêm bêl-droed

Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu yn dilyn y gêm yn erbyn Llanrumney Athletic
- Cyhoeddwyd
Mae achos cyfreithiol yn erbyn dau ddyn oedd wedi eu cyhuddo o anhrefn dreisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd wedi cael ei ollwng.
Cafodd Joel Collins - golwr Avenue Hotspur - ei anafu mewn digwyddiad honedig y tu allan i'r Ganolfan Hamdden Ddwyreiniol yn dilyn gêm yn erbyn Llanrumney Athletic ym mis Hydref 2024.
Fe gadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedden nhw wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth yn erbyn Benjamin Dean, 28 oed o ardal Trowbridge, a Ryan Rees, 22 oed o Lanrhymni, mewn gwrandawiad ar 24 Chwefror.
Roedd y ddau wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac roedd disgwyl iddyn nhw wynebu achos llys yn ddiweddarach eleni.
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024
Fe gafodd Joel Collins lawdriniaeth ar ei ben-glin wedi'r digwyddiad, ac fe gafodd wybod na fyddai'n gallu gweithio am fisoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Avenue Hotspur eu bod yn "siomedig" gyda'r canlyniad, ond eu bod yn awyddus i "symud ymlaen".
"Fe wnaethon ni ymddiried yn y system gyfiawnder i ddelio â'r sefyllfa yma a sicrhau ein bod yn gweld y canlyniad cywir.
"Fel y gallwch chi ddychmygu, rydyn ni'n teimlo fod y canlyniad yma yn siomedig, ond yn yr achos yma, am un rheswm neu'r llall, doedd dim modd sicrhau cyfiawnder."
Ychwanegodd y clwb fod Mr Collins "mewn hwyliau da iawn" a'i fod yn gobeithio dychwelyd i chwarae y tymor nesaf.
"Mae'r gefnogaeth y mae Joel Collins a'r clwb wedi ei dderbyn dros y misoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel, a ry'n ni'n hynod ddiolchgar i bawb am yr holl negeseuon," ychwanegodd y llefarydd.