Cyn-AS Llafur 'ddim yn dweud na' i sefyll yn etholiad 2026

Beth Winter mewn protest yn Downing Street fis Mai y llyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth Winter yn dweud bod gweithio fel Aelod Seneddol wedi bod yn "fraint enfawr"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Beth Winter yn dweud nad yw hi wedi diystyru'r posibilrwydd o sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Fe ymunodd Ms Winter â'r Blaid Lafur ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan Jeremy Corbyn a John McDonnell, ac yn 2019 fe gafodd ei hethol i gynrychioli'r blaid yn etholaeth Cwm Cynon yn 2019.

Ond yn dilyn ras danllyd i fod yn ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf, daeth ei chyfnod yn San Steffan, a'i chyfnod gyda Llafur, i ben yn 2024.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Winter fod nifer o bobl yn siarad gyda hi ynglŷn â sefyll yn etholiadau'r Senedd ac nad oedd hi am "ddweud na yn gyfan gwbl... ond 'sa i'n dweud ie chwaith".

Cyn 2016, doedd Beth Winter heb fod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol.

Ers colli'r ras yn etholaeth Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf, dyw Ms Winter, unwaith eto, ddim yn aelod o unrhyw blaid - ond dyw hynny ddim yn golygu ei bod wedi troi ei chefn ar wleidyddiaeth.

"Ers yr etholiad [y llynedd], dwi wedi bod yn brysur iawn," meddai.

"Mae gwleidyddiaeth yn fy ngwaed i felly mae wedi bod yn amhosibl i fi stopio.

"Ond dwi hefyd wedi mwynhau gwario mwy o amser gyda'r teulu."

San Steffan 'fel ysgol breifat'

A hithau'n gymharol newydd i fyd gwleidyddiaeth pan gafodd ei hethol, roedd bod yn San Steffan yn dipyn o fedydd tân.

"Oedd dim syniad 'da fi o gwbl beth byddai e fel lan 'na - roedd e mor galed," meddai.

"'Dyw gwleidyddiaeth ddim yn hawdd i fod yn rhan ohono. Yn enwedig, fi'n credu, fel rhywun o'n cefndiroedd ni yn y cymoedd. Mae fel ysgol breifat lan 'na.

"Mae llawer o wleidyddion yn ei weld fel gyrfa yn anffodus, a dyw e ddim. Roedd yn fraint enfawr, rwy'n credu nes i gadw at fy egwyddorion, ond ar sail bersonol, roedd yn anodd iawn.

"'Sa i'n difaru sefyll o gwbl, a bydde fi'n gwneud eto - ond roedd y gwaith pwysicaf nes i yma yn y cwm. Dyna ble wnaethon ni newid pethau."

Beth Winter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meth Winter am weld mwy o gydweithio rhwng pleidiau gwleidyddol gwahanol

Er nad yw'n cynrychioli un ardal benodol erbyn hyn, mae Beth Winter yn dweud ei bod yr un mor angerddol dros gymunedau'r cymoedd.

"Un o'r pethau rwy'n ei wneud ar hyn o bryd yw mynd o gwmpas y cymoedd gyda [chyn-arweinydd Plaid Cymru] Leanne Wood," meddai.

"Rydym yn dod o draddodiadau gwahanol yn wleidyddol, ond mae'r ddwy ohonom ni'n sosialwyr.

"Rydyn ni'n cael trafodaethau gyda phobl yn y cymoedd i weld beth sy'n becso nhw, ond hefyd sut gallwn ni adeiladu dyfodol gwahanol, dyfodol teg, dyfodol caredig, a cheisio adeiladu rhywbeth sy'n wahanol yn gyfan gwbl i beth mae'r dde eithafol yn ceisio'i gynnig."

Ychwanegodd: "Rwy'n deall bod pobl wedi colli ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig y prif bleidiau.

"Fi'n deall y teimlad o abandonment sydd gyda phobl ond beth sydd wedi becso fi yw bod y dde eithafol, maen nhw'n gwerthu unrhyw beth i bobl i gael eu pleidleisiau.

"Mae pobl yn edrych am rywbeth gwahanol, rhywbeth sydd yn gwrando ar eu hamheuon nhw, a rhywbeth sydd yn mynd i wella'r sefyllfa i bobl.

"Ac yn anffodus, yn bendant dyw'r Blaid Lafur ddim yn cynnig hynny nawr."

'Ddim yn edrych i ymuno ag unrhyw blaid'

Dywedodd Beth Winter nad yw hi wedi dod i benderfyniad eto ynglŷn â'r posibilrwydd o sefyll yn Etholiad Senedd Cymru yn 2026.

"Sa i'n mynd i ddweud na yn gyfan gwbl, achos mae pobl yn siarad â fi ynglŷn â hynny. Ond 'sa i'n dweud ie, chwaith," meddai.

"Ar hyn o bryd, dwi'n mwynhau treulio amser yn y cwm. Mae Leanne yn grêt ac rwy'n mwynhau'r sesiynau ni'n eu gwneud.

"Sa i'n aelod o unrhyw blaid, a 'sa i'n edrych i ymuno ag unrhyw blaid ar hyn o bryd chwaith i fod yn onest.

"Rwyf i wir wedi bod yn ceisio dweud wrth Blaid Cymru, y Blaid Lafur a'r Blaid Werdd bod rhaid i ni yn y cymoedd weithio gyda'n gilydd mwy.

"Achos os chi'n sosialwyr, does dim ots 'da fi pa blaid chi'n rhan ohoni. Does dim digon o gydweithio yn digwydd mewn gwleidyddiaeth. Mae hwnna'n gwneud fi mor frustrated, i fod yn onest."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Yn ystod Haf y llynedd fe deithiodd Eluned Morgan ar hyd Cymru yn gwrando ar bobl yn egluro be yn union yr oedden nhw am i Lywodraeth Cymru ei wneud.

"Mae hi wedi gwrando ar y bobl hynny, ac wedi addasu blaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru er mwyn sicrhau cynnydd ym meysydd iechyd a swyddi, er mwyn cysylltu cymunedau ac i gynnig cyfleoedd i bob teulu.

"Mae Eluned Morgan wedi gwrando, ac yn bwrw 'mlaen â'r gwaith o weithredu er lles pobl Cymru."