Cyhuddo gyrrwr o achosi marwolaeth dyn 'annwyl'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall ger Dinbych-y-pysgod ddechrau'r wythnos trwy yrru'n beryglus.
Bu farw Christopher Brian Boyle, oedd yn 57 oed ac o Gilgeti, Sir Benfro, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Volkswagen arian a BMW brown ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun tua 22:15 nos Lun.
Fe wnaeth Mateusz Sikorski, 30, ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli fore Iau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Hydref.
Mewn teyrnged dywedodd teulu Mr Boyle: "Roedd Chris yn fab, tad, brawd, ewythr a chyfaill annwyl.
"Yn cael ei nabod fel ‘Mucker’ i'w ffrindiau, roedd yn chwarae rhan fawr yn y gymuned ac fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un."
'Colli un o'r goreuon'
Mae cwmni Tenby Taxis hefyd wedi rhoi teyrnged iddo, gan fynegi tristwch ac "anghrediniaeth lwyr o golli ein cydweithiwr a ffrind annwyl".
Dywed y cwmni bod "y gymuned tacsi wedi colli un o'r goreuon" gan ei ddisgrifio fel "y gyrrwr tacsi mwyaf caredig, doniol, diffuant a pharod ei gymwynas erioed".
Ychwanegodd ei fod "yn gymeriad digymar" ac yn "ŵr bonheddig oedd wastad yn gwenu, wastad yn hapus".
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio i glywed gan unrhyw dystion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi