Fuoch chi ‘rioed i…Landudno?
- Cyhoeddwyd
Llandudno yw cyrchfan glan-môr fwyaf Cymru.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r dref bob blwyddyn, ond tybed faint ohonynt sy’n gwybod am hanes lliwgar y dre? Mae’n stori sy’n cynnwys mwyngloddiau copr, Pwnsh a Jwdi, a geifr.
Mae poblogrwydd Llandudno yn ddyledus i’r pensaer a syfeẅr o Lerpwl Owen Williams. Ym 1848, cyflwynodd gynlluniau i’r aristocrat ac etifeddiannwr, yr Arglwydd Mostyn, i ddatblygu’r corsydd tu ôl i Fae Llandudno yn gyrchfan wyliau. Cytunodd yr Arglwydd Mostyn i’r syniad a thyfodd y dref i fod yn boblogaidd gydag ymwelwyr o Lerpwl, Manceinion, Crewe a Chanolbarth Lloegr.
Y Gogarth
Un o’r atyniadau sydd wedi denu twristiaid ers yr Oes Fictoria yw'r Gogarth. Pentir sy’n ymestyn allan i’r môr ger y dref yw’r Gogarth. Ei enw Saesneg yw ‘The Great Orme’ sy’n dod o’r hen air Norseg am ‘sarff y môr’ gan fod ei siâp yn debyg i greadur enfawr yn cysgu.
Mae hanes y Gogarth yn ymestyn dros sawl oes. Darganfyddodd Thomas Kendrick gasgliad archeoleg hynod mewn ogof ym 1881. Credir ei fod yn safle claddu dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y casgliad yn cynnwys celf o’r Oes Ia fel gên ceffyl addurnedig a mwclis wedi ei wneud o ddannedd arth.
Yn ystod yr Oes Efydd fe ddaeth y Gogarth yn fan pwysig o achos ei fwyn haearn. Dechreuwyd cloddio am gopr tua 4000 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n debyg mae hwn oedd pwll copr mwyaf yr Oes Efydd yng Ngorllewin Ewrop.
Ym 1826 dewisodd Porthladd Lerpwl gopa’r Gogarth fel lleoliad ar gyfer gorsaf semaffor optegol. Roedd unarddeg o orsafoedd i gyd, ac roedden nhw’n caniatáu i negeseuon semaffor cael eu hanfon o Lerpwl i Gaergybi mewn llai na munud.
Erbyn 1860 gyda phoblogrwydd y dre yn cynyddu roedd llawer o dwristiaid o’r Oes Fictoria eisiau ymweld â’r hen orsaf felly fe adeiladwyd gwesty a chwrs golff yna. Ym 1902 adeiladwyd tramffordd i gludo ymwelwyr lan i’r copa ac ym 1969 dilynodd car cebl.
Trigolion unigryw
Mae yna hefyd drigolion unigryw iawn yn byw ar Y Gogarth. Maen nhw’n ddireidus, gyda chotiau gwyn moethus, cyrn cryf, a daethant yn enwog iawn yn ystod y cyfnod clo. Am be’ rydyn ni’n siarad? Geifr wrth gwrs!
Mae gyr o eifr Kashmir wedi crwydro’r pentir ers dros gan mlynedd. Yn wreiddiol o India daeth y geifr draw i Brydain o achos y diddordeb yn eu gwlân. Sefydlwyd Y Gyr Frenhinol yn ystod teyrnasiad Siôr IV ac ym 1837 derbyniodd y Frenhines Victoria ddwy afr fel anrheg wrth y Shah o Bersia. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth dwy afr o’r Gyr Brenhinol i fyw ar stad yr Arglwydd Mostyn. Cawsant eu rhyddhau ar y Gogarth lle maent wedi ffynnu ers hynny.
Mae’r geifr yn hapus iawn yna ac maen nhw ond yn symud oddi yno pan mae’r tywydd yn troi’n ddrwg… neu yn ystod y cyfnod clo. Roedd y geifr wedi manteisio ar strydoedd tawel y dre a chafon nhw ddiwrnod (neu ddiwrnodau!) i’r brenin yn dringo ar ben waliau a thoeau a bwyta perthi trigolion y dre. Fe ddaeth y geifr yn enwog dros nos gyda’u hanturiaethau direidus yn newyddion mawr ar draws y byd, gan gynnwys y New York Times.
Pwnsh a Jwdi
Nid y geifr yw unig drigolion direidus y dref chwaith achos mae Llandudno hefyd yn gartref i’r sioe Pwnsh a Jwdi hynaf ym Mhrydain.
Richard Codmon wnaeth creu'r sioe ym 1860. Roedd Richard yn ddiddanwr oedd yn chwarae’r banjo a’r ffidl mewn ffeiriau. Byddai’n teithio o gwmpas mewn carafán oedd yn cael ei thynnu gan ddau geffyl. Bu farw un o’r ceffylau yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Llandudno ym 1860. Nid oedd yn gallu fforddio ceffyl arall ac felly roedd angen gwaith arno. Un dydd, tra oedd o ar y traeth gaeth y syniad i droi broc môr mewn i bypedau. A dyna oedd genedigaeth Pwnsh a Jwdi ar draeth Llandudno.
Mae’r sioe heddiw yn dal i ddefnyddio’r pypedau gwreiddiol ac yn cael ei pherfformio gan bumed genhedlaeth o deulu Richard.
Theatr y Grand
Ac o theatr leiaf y dre i’r theatr fwyaf crand.
Agorwyd Theatr y Grand yn 1901. Y dylunydd Edwardaidd byd enwog Edwin O Sachs a wnaeth lawer o’r gwaith dylunio a disgrifiwyd y theatr fel ‘Theatr West End ar raddfa fach.'
Yn ystod yr ail ryfel byd, symudodd y BBC ei hadran amrywiaeth o Lundain i’r theatr. Yn ystod y cyfnod hwn, darlledwyd rhaglenni radio boblogaidd fel It’s that Man again’ o’r Grand. Daeth organ theatr y BBC i fyw yna hefyd a fyddai’n cael ei chwarae am oriau er mwyn llenwi amserlenni radio gwag yn ystod y rhyfel.
Yn anffodus, caeodd y theatr arbennig hon ym 1980. Erbyn heddiw mae’r adeilad yn gartref i glwb nos Broadway Boulevard. Mae’n siŵr ei fod dal yn dyst i ambell ddrama neu gomedi felly.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst