Bachgen, 16, gafodd ei drywanu i farwolaeth wedi ffoi'r rhyfel yn Syria

Bu farw Ahmad Mamdouh Al Ibrahim, 16, yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn Huddersfield
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Ahmad Mamdouh Al Ibrahim, fu farw ar ôl cael ei drywanu yn Huddersfield wythnos diwethaf, wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd y bachgen 16 oed wedi symud o dde Cymru yn ddiweddar, a bu farw yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar Stryd Ramsden ar 3 Ebrill.
Dywedodd teulu Ahmad ei fod wedi ffoi o'r rhyfel yn Syria ar ôl cael ei anafu mewn bomio.
Dewisodd ddod i'r DU "oherwydd ei fod yn credu mewn gwerthoedd hawliau dynol, diogelwch ac urddas", meddan nhw.
Ymddangosodd Alfie Franco, dyn 20 oed o Kirkburton, Gorllewin Swydd Efrog, yn Llys y Goron Leeds ddydd Mawrth wedi'i gyhuddo o lofruddio'r bachgen ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganol Huddersfield yn dilyn adroddiadau o drywanu ar 3 Ebrill
Cafodd Ahmad ei drywanu yng nghanol y dref am tua 14:45, meddai'r heddlu, ac nid oedd yn gysylltiedig gyda gangiau nag unrhyw anghytuno ehangach rhwng grwpiau.
Newydd gyrraedd Gorllewin Swydd Efrog oedd Ahmad, yn ôl ei deulu.
"Doedden ni byth yn meddwl y byddai'r lle'r oedd yn ei weld fel hafan ddiogel, y lle y byddai ei fywyd yn dod i ben," meddai ei deulu.
"Roedd wedi dechrau setlo i'w fywyd newydd gyda'i ewythr, yn addasu i iaith newydd, cartref newydd, ac yn edrych ymlaen at adeiladu dyfodol."
Ychwanegon nhw fod Ahmad yn gobeithio mynd yn ddoctor, ei fod yn "garedig a thyner", ac mai eu hunig ddymuniad rŵan ydy ei roi i orffwys yn ei famwlad yn Syria.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill