Uwch-arolygydd heddlu wedi ei 'lorio' gan gyhuddiadau camymddwyn

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Davies yn gwadu bod ei weithredoedd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae uwch-arolygydd heddlu sydd wedi ei gyhuddo o greu diwylliant misogynistaidd o fewn Heddlu Dyfed-Powys, wedi dweud ei fod wedi'i "lorio" gan y cyhuddiadau.

Mae Gary Davies wedi ei gyhuddo o bum achos o gamymddygiad o fewn y llu rhwng 2017 a 2021, gan gynnwys cyffwrdd â staff benywaidd mewn parti Nadolig.

Fe glywodd gwrandawiad yn Llangynnwr ddydd Llun ei fod hefyd wedi'i gyhuddo o roi llysenwau i fenywod y bu'n gweithio gyda nhw - enwau fel Ferrari, Rolls-Royce a Porsche.

Mae Mr Davies yn gwadu ei fod wedi cyfrannu tuag at awyrgylch "clwb dynion", neu ymddwyn mewn ffordd sy'n gwahaniaethu.

Mae e hefyd yn gwadu bod ei weithredoedd honedig yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Mae'r Uwch-arolygydd Davies yn wynebu honiadau ei fod wedi cyfeirio at ymddangosiad neu rywioldeb merched hefyd.

Yr wythnos diwethaf clywodd y panel honiadau fod Mr Davies yn cael ei alw'n "octopws" - a'i fod yn adnabyddus am "gyffwrdd".

Dywedodd Mr Davies ddydd Llun nad oedd ganddo "unrhyw gof" am y llysenw hwn ac "nad oedd unrhyw un wedi codi pryder" am ei reolaeth na'i ymddygiad ar y pryd.

Wrth gael ei holi gan y bargyfreithiwr Mr Gerrard Boyle KC am honiadau iddo gyffwrdd â dau gydweithiwr benywaidd yn amhriodol mewn parti Nadolig yn 2017, fe gyfaddefodd ei fod yn "berson a oedd yn cyffwrdd" bryd hynny.

Dywedodd wrth y panel nad oedd ganddo "unrhyw ddiddordeb rhywiol yn yr unigolion" ac ymddiheurodd i'r cydweithwyr a gafodd eu heffeithio.

Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae un cydweithiwr wedi honni i'r uwch-arolygydd ei chyffwrdd yn amhriodol mewn parti Nadolig

Fe wnaeth Mr Davies gyfaddef iddo anfon neges destun at gydweithiwr benywaidd yn gofyn iddi redeg i ffwrdd gydag ef.

Dywedodd ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan y ffilm Thelma and Louise yr oedd wedi'i gwylio.

Ddydd Llun dywedodd nad oedd ganddo "gof" o wneud sylwadau rhywiol am gydweithwyr benywaidd.

Clywodd y panel fod y dyn 58 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi gobeithio bod yn blismon "o oedran ifanc iawn", gan ymuno â'r heddlu yn 2002.

Cafodd ei ddyrchafu'n uwch-arolygydd yn 2019.

Dywedodd wrth y gwrandawiad, ei fod wedi cysylltu â llawer o gyfarfodydd ynghylch adborth ac arfer myfyriol yn dilyn y cwynion.

"Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi wella fy hunanymwybyddiaeth", meddai.

Clywodd y gwrandawiad fod yr Uwch-arolygydd Davies wedi mynd trwy "ddigwyddiad bywyd sylweddol" ar y pryd, wrth iddo drefnu i'w wraig adael Wcráin - gan gymryd cyfnod o absenoldeb o'i waith.

'Ansefydlog yn emosiynol'

Yn ôl Mr Davies, fe wnaeth e gwrdd â'i wraig drwy asiantaeth ar-lein yn 2020 - roedd ganddyn nhw berthynas o bell. Fe briodon nhw ym mis Awst 2021.

Trefnodd Mr Davies i'w wraig adael am Wlad Pwyl, ac yna i'r DU yn 2022. Dywedodd wrth y gwrandawiad fod yr heddlu'n "hynod gefnogol" yn ystod yr amser hwn.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Davies ei fod wedi'i lorio wedi iddo dderbyn papurau camymddwyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gan achosi i'w briodas chwalu.

Dychwelodd gwraig Mr Davies i Wcráin a dyw e ddim wedi ei gweld ers hynny. Yn ôl yr uwch-arolygydd fe achosodd hyn iddo fynd yn "ansefydlog yn emosiynol".

Wrth gael ei holi gan Mr Boyle KC, dywedodd Mr Davies ei fod ers hynny wedi cael therapi i ddelio â'i bryder ac wedi ailbriodi.

"Roedd angen i mi ailwerthuso fy hun a'r penderfyniadau roeddwn i wedi'u gwneud," meddai.

Os caiff yr honiadau eu profi, byddai'n gyfystyr â thorri safonau proffesiynol.

'Ddim yn fwriadol'

Dywedodd Mr Davies bod ganddo "gywilydd" am ddigwyddiad lle cododd ei lais tra'n siarad â chydweithiwr benywaidd mewn cyfarfod.

"Doedd e ddim yn briodol, a ddylai mod i ddim wedi gwneud hynny," meddai.

Nid oedd e'n "fwriadol" wedi creu awyrgylch unigryw i ddynion yn y gwaith, meddai, a dywedodd nad oedd "yn derbyn" ei fod yn rhoi ffafriaeth i ddynion wrth rannu gwaith.

Dywedodd Mr Davies hefyd wrth y panel nad yw'n "derbyn" yr honiad ei fod yn syllu ar frest cydweithiwr benywaidd.

"Efallai fy mod wedi bod yn edrych i'r cyfeiriad hwnnw - mae'n bosib iawn y byddwn wedi bod yn synfyfyrio."

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig