Dros 50% yn cael diagnosis canser yr ysgyfaint yn y cam mwyaf difrifol

Canser yr ysgyfaintFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau o ganser yng Nghymru, ac mae'n gyfrifol am oddeutu 1,800 o farwolaethau'r flwyddyn, yn ôl Cancer Research

  • Cyhoeddwyd

Mae dros hanner y bobl sydd â chanser yr ysgyfaint yng Nghymru yn cael diagnosis pan mae'r clefyd yn ei gam mwyaf datblygedig, yn ôl elusen.

Dywedodd Cancer Research UK bod y salwch wedi cyrraedd cam pedwar mewn 51% o achosion erbyn diagnosis.

Mae canser yr ysgyfaint cam pedwar, neu ganser metastatig yr ysgyfaint, yn golygu bod y canser wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff a bod triniaeth yn llai tebygol o fod yn llwyddiannus.

Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser Cymru, ac mae'n gyfrifol am oddeutu 3,845 o farwolaethau'r flwyddyn, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn "cydnabod pwysigrwydd diagnosis cynnar" ac yn "ystyried cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar sut i weithredu rhaglen sydd wedi'i thargedu ar sgrinio'r ysgyfaint yng Nghymru".

Branwen HywelFfynhonnell y llun, Paul Heyes
Disgrifiad o’r llun,

"Roeddwn i'n flinedig ac yn fyr iawn fy anadl ac roedd fy nhraed a'm dwylo ddwywaith eu maint arferol," meddai Branwen Hywel

Cafodd Branwen Hywel, 50 o Ynys Môn, ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint cam tri yn 2018.

Mae hyn yn golygu bod y canser wedi ymledu o'r ysgyfaint i'r meinwe o amgylch a'r nodau lymff.

 Ei symptomau cychwynnol oedd diffyg anadl, blinder a dwylo a thraed wedi chwyddo.

Doedd Ms Hywel ddim yn ysmygu, ond dywedodd ei bod yn gwybod "ym mêr ei hesgyrn" bod rhywbeth difrifol o'i le ar ôl cael trafferth ymdopi â'i swydd fel pennaeth ysgol yn Llundain, a theimlo'n fyr o wynt ar deithiau cerdded yr oedd wedi bod yn eu cwblhau ers blynyddoedd.

Dywedodd: "Roeddwn i'n flinedig ac yn fyr iawn fy anadl ac roedd fy nhraed a'm dwylo ddwywaith eu maint arferol."

Branwen HywelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Branwen Hywel ei bod yn "ofnus iawn, iawn" pan gafodd y diagnosis

Dangosodd sgan CT ym mis Ebrill 2018 bod annormaleddau yn ei hysgyfaint a datgelodd profion pellach fod ganddi ganser yr ysgyfaint cam 3b.

"Roeddwn i ar wyliau yn Sir Benfro pan gefais alwad gan yr ymgynghorydd i ddweud bod canlyniadau fy sganiau wedi'u goleuo fel coeden Nadolig oherwydd y tiwmorau yn fy ysgyfaint," meddai.

"Pan gefais i ddiagnosis, roeddwn i wedi dychryn ac yn ofnus iawn, iawn. Doeddwn i ddim rhywsut yn gallu credu ei fod yn wir ac mai dyna oedd fy mywyd.

"Yn ffodus, cefais ddiagnosis ar gam 3b, a oedd yn golygu bod llawdriniaeth yn bosibl."

Branwen HywelFfynhonnell y llun, Paul Heyes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Hywel yn aelod o Fôr-forynion Moelfre – grŵp sy'n mwynhau nofio mewn dŵr oer

Cafodd Ms Hywel lawdriniaeth fawr i dynnu hanner ei hysgyfaint ynghyd â 18 o nodau lymff ar y frest.  Cafodd hefyd dri mis o gemotherapi a 35 sesiwn o radiotherapi.

Rhoddodd y gorau i'w gwaith a symudodd o Lundain i Foelfre – ger ei thref enedigol sef Porthaethwy – gyda'i gwraig, Julie.

Er ei bod yn colli ei swydd fel pennaeth, mae hi'n mwynhau bywyd ger y môr, ac yn gwerthfawrogi'r "pethau bach" mewn bywyd.

"Dwi'n colli fy swydd yn ofnadwy. Roeddwn i wrth fy modd bod yn bennaeth ac mae wedi cymryd amser hir i dderbyn bod fy mywyd wedi arafu. Ond dwi'n teimlo'n arbennig o lwcus fy mod yma o hyd," meddai.

Branwen HywelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ms Hywel gyda'i nith

Mae Ms Hywel hefyd yn gwirfoddoli fel llysgennad Cancer Research UK, ac mae'n dweud bod pobl yn gallu "trin y rhai sydd â mathau eraill o ganser yn wahanol i'r rhai hynny ohonom ni sydd â chanser yr ysgyfaint".

"Yn anffodus, mae rhagfarn go iawn yn parhau i fodoli ynghylch y clefyd," meddai.

Dywedodd ei bod yn "frwd iawn" dros ledaenu'r neges am ddiagnosis cynnar, gan annog pobl i "gysylltu â'u meddyg teulu gydag unrhyw symptomau sy'n peri pryder, gan fod cael eu trin yn gynnar mor bwysig".

Mae Cancer Research UK wedi lansio ymgyrch i godi ymdwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint - a hynny am chwe wythnos ar y teledu a'r radio ac ar y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru.

Y gobaith yw bod modd dod o hyd i'r clefyd yn gynharach, pan fydd modd ei drin yn well, meddai'r elusen.

Dywedodd Michelle Mitchell, prif weithredwr Cancer Research UK, y gallai "canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach wneud byd o wahaniaeth, a dyna pam mae'r ymgyrch hon yn hanfodol".

Ychwanegodd: "Ond dim ond un rhan o'r stori yw hyn. Drwy bleidleisio o blaid y Bil Tybaco a Fêps, gall y Senedd amddiffyn cenedlaethau iau rhag niwed ysmygu, sef prif achos canser yr ysgyfaint, a gallai Llywodraeth Cymru helpu i droi'r llanw ar yr ystadegau arswydus hyn drwy gyflwyno sgrinio am ganser yr ysgyfaint wedi'i dargedu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ysmygu yw prif achos marwolaethau y gellir eu hosgoi ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Typaco a Vapes a fydd, os caiff ei basio, yn atal plant sydd wedi'u geni ar neu ar ôl 1 Ionawr, 2009 rhag prynnu cynhyrchion tybaco yn gyfreithlon.

"Mae ein gwasanaeth ar gyfer rhoi'r gorau i smygu am ddim yn y GIG, Helpa Fi i Stopio, ar gael i gefnogi ysmygwyr, gan gynyddu eu siawns o lwyddo 300% a hyd yma mae wedi helpu mwy na 100,000 o bobl i roi'r gorau i ysmygu.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd diagnosis cynnar ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar sut i weithredu rhaglen sydd wedi'i thargedu ar sgrinio'r ysgyfaint yng Nghymru ac y bydd gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn rhan annatod ohoni."

Pynciau cysylltiedig