Penodi Rob Page yn brif hyfforddwr tîm dan-21 Lerpwl

Cafodd Rob Page ei ddiswyddo fel rheolwr Cymru flwyddyn yn ôl wedi cyfres o ganlyniadau siomedig
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-reolwr Cymru, Rob Page wedi cael ei benodi'n brif hyfforddwr ar dîm dan-21 Lerpwl.
Dyma ei swydd gyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo fel rheolwr dynion Cymru ym Mehefin 2024.
Roedd Page, 50, wedi bod yn rheolwr ar Gymru am bedair blynedd - cyfnod a welodd y tîm yn cystadlu yn Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.
Mae ganddo brofiad gyda thimau dan-21, ag yntau wedi bod yn rheolwr ar dîm dan-21 Cymru cyn cael y swydd gyda'r tîm cyntaf.
Bydd yn olynu Barry Lewtas gyda thîm dan-21 Lerpwl, wedi iddo ymddiswyddo ddechrau'r mis ar ôl pum mlynedd yn y rôl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024