Tad i ddau wedi marw wrth weithio ar fferm - cwest

Cafodd Ryan Roberts ei ddisgrifio gan ei deulu fel dyn "cariadus a thriw"
- Cyhoeddwyd
Bu farw tad i ddau o anafiadau difrifol a gafodd wrth weithio yn Sir Benfro, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Ryan Roberts, 34 o Vetch Close ym Mhenfro, ei anafu tra'n gweithio mewn eiddo yn ardal Llangwm ar 12 Medi.
Wrth agor cwest, dywedodd swyddog y crwner, Jerome Carlson, fod Mr Roberts wedi marw yn dilyn digwyddiad yn y gweithle - oedd yn ymwneud â JCB ar fferm Little Nash.
Clywodd y cwest fod Mr Roberts wedi cael ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ond bu farw'n ddiweddarach.

Daeth patholegydd i'r casgliad fod Mr Roberts wedi marw o waedu mewnol wedi'i achosi gan anafiadau i'r iau a'r ddueg.
Cafodd y cwest ei ohirio gan Uwch Grwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Gareth Lewis, wrth i ymchwiliad yr heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch barhau.
Diolchodd y crwner i deulu a ffrindiau Mr Roberts am fynychu'r cwest yn Neuadd y Sir, Hwlffordd.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, cafodd dyn 60 oed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol wedi'r digwyddiad, ond cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad yn ddiweddarach.
Cafodd dyn 64 oed ei gyfweld yn wirfoddol hefyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y farwolaeth.
'Triw, cariadus, gofalgar a doniol'
Mewn datganiad blaenorol, cafodd Mr Roberts ei ddisgrifio gan ei deulu fel dyn "cariadus a thriw".
Dywedodd ei deulu fod "ei bartner, Kirsty a'i ddwy ferch hardd, Jaida a Talia wedi eu llorio gan y golled sydyn".
"Roedd Ryan yn ddyn teulu, roedd ei gi T Boy wrth ei ymyl o hyd, roedd yn caru clwb pêl-droed Lerpwl ac roedd ganddo angerdd gwirioneddol am ei waith.
"Roedd Ryan yn driw, yn gariadus, gofalgar, doniol, yn weithiwr caled ac yn gymeriad ffyddlon.
"Roedd yn medru goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi, fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac roedd yn cael ei garu gan bawb a gafodd y pleser o'i adnabod."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd16 Medi