Nifer o fyfyrwyr Caerdydd yn cefnogi streic staff er 'effaith fawr'

prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Wrth i staff ym Mhrifysgol Caerdydd baratoi ar gyfer streic ac o bosib boicot asesu a marcio dros yr haf, mae nifer o fyfyrwyr yn dweud eu bod yn gefnogol er gwaethaf yr effaith uniongyrchol sy'n bosib arnyn nhw.

Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn dweud mai hwn yw'r cam olaf posib wedi misoedd o ansicrwydd ynghylch swyddi a dyfodol adrannau.

Yn sgil costau uwch a llai o fyfyrwyr rhyngwladol, cyhoeddodd y brifysgol gynnig i gael gwared ar 400 o staff a chau rhai adrannau.

Er bod y nifer hwnnw wedi gostwng, dywedodd UCU bod y cynigion yn "greulon a diangen" ac maen nhw wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

Gwenno DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenno Davies yn ei hail flwyddyn, a ddim yn poeni'n ormodol am yr oedi posib i dderbyn ei marciau

"Mewn gwirionedd fi o blaid y streic achos fi'n gwybod faint o ansicrwydd mae staff y brifysgol wedi mynd trwyddo, ac ar ddiwedd y dydd ni'n gwybod bo' ni'n mynd i gael ein marciau ni yn y pendraw," meddai Gwenno Davies, sydd yn ei hail flwyddyn.

"Dyw'r darlithwyr ddim yn gwybod os ydyn nhw'n mynd i gadw eu swyddi nhw.

"Os yw'r streiciau yn cael effaith a bod llai o doriadau yn mynd i fod, byddai hynna'n cael effaith ar y myfyrwyr yn y pen draw achos mae'r toriadau yn effeithio arnon ni hefyd."

Sion Llywelyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Ni isio marcio gwaith myfyrwyr. Mae hwn just yn opsiwn ola'," medd Sion Llywelyn Jones

Does yna ddim dewis arall, meddai Sion Llywelyn Jones o'r UCU.

"Dwi'n cydymdeimlo efo myfyrwyr, wrth gwrs. 'Dan ni isio dysgu nhw, 'dan ni isio marcio gwaith nhw ond 'dan ni'm yn teimlo fod yna opsiwn arall.

"'Dan ni wedi bod yn siarad gyda'r brifysgol. 'Dan ni wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau. 'Dan ni ddim yn teimlo bo' nhw'n gwrando arnon ni.

"Trwy beidio marcio gwaith myfyrwyr, 'dan ni'n gobeithio y bydd hynna'n neges glir i'r brifysgol bo' ni ddim yn hapus.

"Ni isio marcio gwaith myfyrwyr. Mae hwn just yn opsiwn ola' i ni o ran hynny."

Streic yn 'rhywbeth sydd angen digwydd'

Mae aelodau'r undeb wedi pleidleisio o blaid streic undydd ar 1 Mai, ac os na chaiff y sefyllfa ei datrys, dywed UCU y bydd boicot asesu amhenodol yn dechrau ar 6 Mai, gyda saith diwrnod o streicio ym Mai a Mehefin i ddilyn.

Mae'r boicot yn golygu na fydd gwaith yn cael ei farcio ac na fydd adborth i fyfyrwyr.

Ond er yr ansicrwydd, mae sawl myfyriwr yn deall ac yn cefnogi'r camau.

Tomos EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r canlyniadau o be' fydd yn digwydd os nad oes unrhyw action gymaint gwaeth," medd Tomos Edwards

"Mae angen iddyn nhw streicio i ddweud y gwir," meddai Tomos Edwards, sydd yn ei drydedd flwyddyn.

"Ar yr un pryd mae'r streiciau yn cael effaith fawr ar y stiwdants - fydda i ddim yn cael marc fy asesiad a dwi angen gwybod fel bo' fi'n gwybod faint o waith sydd angen ei wneud ar gyfer yr arholiadau - ond yn bersonol mae'n rhywbeth sydd angen digwydd wir.

"Mae'r canlyniadau o be' fydd yn digwydd os nad oes unrhyw action gymaint gwaeth.

"Does dim wir ffordd effeithiol iddyn nhw hitio 'nôl at y sefydliad heb frifo'r myfyrwyr, sy'n siomedig, ond does dim ffordd arall."

Hannah WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i staff weithredu mewn ffordd sy'n effeithio ar y myfyrwyr, yn ôl Hannah Williams

Mae Hannah Williams yn ei hail flwyddyn ac mae hi hefyd yn gefnogol.

"Fi'n credu be' sy'n rhwystredig mwy na dim yw bod y darlithwyr mewn sefyllfa yn y lle cyntaf lle mae'n rhaid iddyn nhw streicio – nid eu bai nhw yn amlwg yw'r hyn sydd wedi digwydd.

"Fi'n cytuno'n llwyr bod yn rhaid iddyn nhw streicio neu gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch tebyg i streicio.

"Fi'n credu bod yn rhaid i staff wneud rhywbeth sy'n effeithio ar y myfyrwyr mewn ffordd er mwyn bod yn effeithiol.

"Mae'n sefyllfa anodd fi'n credu ar y ddwy ochr."

Mae nifer y swyddi sy'n y fantol bellach wedi gostwng i 286 ac mae'r cynlluniau i gau adran nyrsio'r brifysgol wedi'u gohirio, ond mae staff yn parhau i fod yn bryderus iawn, medd Sion Llywelyn Jones o'r UCU.

"'Dan ni ddim eisiau gweld unrhyw ddiswyddiadau gorfodol o gwbl.

"'Dan ni ddim yn meddwl mai hwn yw'r trywydd iawn. 'Dan ni'n cydnabod fod prifysgolion ar hyn o bryd yn wynebu problemau ariannol.

"Be' dan ni'n deimlo y dylai'r brifysgol 'neud yw datrys hwn mewn ffordd resymol ac mewn ffordd graddol yn hytrach na mynd ar y trywydd yma.

"Mae'n edrych fel bod nhw am gael hwn drwodd yn eitha' sydyn – dyna be' sy'n bryderus."

'Anghynaladwy'

Ond does dim dewis arall, medd Prifysgol Caerdydd.

Does dim modd cynnal y sefyllfa fel y mae, meddai'r is-ganghellor Yr Athro Wendy Larner.

"Cynnig yw'r toriadau i swyddi," meddai ddechrau'r flwyddyn yn sgil pwysau costau cynyddol a llai o geisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol.

Mae hefyd wedi dweud y byddai'r brifysgol wedi dod yn "anghynaladwy" heb ddiwygiadau llym, ac felly bod yn rhaid gwneud "penderfyniadau anodd".