'Codi isafswm pris alcohol i achosi mwy o ddioddefaint i bobl sy'n gaeth'

Iola YnyrFfynhonnell y llun, Iola Ynyr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iola Ynyr fod "unrhyw un sy'n ddibynnol ar alcohol yn mynd i ffeindio ffordd o gael mwy, oherwydd dyna sut mae'r salwch yn effeithio ar bobl"

  • Cyhoeddwyd

Byddai codi isafswm pris uned o alcohol yn achosi "mwy o ddioddefaint" i deuluoedd pobl sy'n gaeth, yn ôl yr awdur ac enillydd llyfr y flwyddyn, Iola Ynyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwaith ymchwil sy'n awgrymu codi isafswm pris uned o 50c fel ag y mae, gan ddweud y byddai'n arwain at lai yn ei brynu.

Ond mae 'na bryder y byddai'n taro pobl sydd â dibyniaeth ac yn ddifreintiedig, ac yn arwain at fwy o alw am raglenni adferiad i'r rheiny sy'n gaeth.

Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ystyried buddion codi isaf-bris uned alcohol".

'Effaith emosiynol, feddyliol, ysbrydol a chorfforol'

Yn ôl ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhwng 2019 a 2023 cododd y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol o 52% yng Nghymru.

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod 11,243 o dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol bob blwyddyn.

Cipiodd Iola Ynyr o Gaernarfon wobr Llyfr y Flwyddyn am 'Camu', sy'n trafod ei dibyniaeth ar alcohol.

"Mi oedd o'n cael effaith yn emosiynol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn bendant yn gorfforol," meddai.

"O'dd 'na newid arna'i yn allanol oherwydd o'n i'n syrthio, baglu ac yn taro mewn i bethau, ond hefyd roedd fy nhu mewn i'n gwegian."

Llun o glawr llyfr 'Camu' gan Iola YnyrFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llyfr 'Camu' gan Iola Ynyr yn trafod ei dibyniaeth ar alcohol

Comisiynwyd ymchwil gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried goblygiadau codi isafswm pris uned o alcohol, sydd ar hyn o bryd yn 50c.

Yn ôl casgliadau'r ymchwil mi fyddai "cynyddu'r trothwy o'i lefel bresennol o 50c yr uned yn arwain at ostyngiadau pellach yn y defnydd o alcohol a niwed, gyda'r effeithiau mwyaf yn y grwpiau mwyaf difreintiedig".

Ond mae Iola Ynyr yn dweud na fyddai wedi gwneud gwahaniaeth iddi hi, ac y gallai gael effaith enfawr.

"Dwi ddim yn meddwl fod o'n mynd i newid patrymau yfed pobl sydd yn ddibynnol," meddai.

Silff o alcohol mewn siopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd isafbris o 50c yr uned ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020

Dywedodd fod "unrhyw un sy'n ddibynnol ar alcohol yn mynd i ffeindio ffordd o gael mwy, oherwydd dyna sut mae'r salwch yn effeithio ar bobl".

"Mae'r awch am alcohol yn cynyddu ac mae'n rhaid ei gael o ac os 'di hynny'n digwydd mewn sefyllfa lle mae gan bobl deulu, wel y teulu sydd am ddioddef."

"Wrach bod y person ddim am fwyta, neu trio torri ar gostau ac yn pendraw, yn enwedig os oes 'na blant mae'n mynd i wneud y sefyllfa yn llawer gwaeth ac mae 'na fwy o ddioddefaint yn mynd i ddilyn," meddai.

Mae hi am weld mwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni adferiad i'r rheiny sydd â dibyniaeth, gan gynnwys cynlluniau creadigol a chelfyddydol.

"Gweithgarwch sy'n helpu hunanwerth pobl," meddai.

Andrew MisellFfynhonnell y llun, Alcohol Change UK
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew Misell fod angen gwneud mwy i helpu'r bobl sydd am gael eu taro gan yr isafswm pris

Mae elusen Alcohol Change UK wedi darparu tystiolaeth i bwyllgorau'r Senedd o blaid cynyddu'r isafswm pris i 65c.

Mae Andrew Misell, eu cyfarwyddwr yng Nghymru, yn dweud "nad gwneud alcohol yn rhatach yw'r ateb".

"Mae angen gwneud mwy - ni'n clywed am bobl yn mynd heb ginio er mwyn prynu alcohol," meddai.

Ychwanegodd Mr Misell fod "yn sicr angen i ni wneud mwy i helpu'r bobl yma sydd am gael eu taro gan yr isaf-bris".

Eu "cefnogi nhw a gwneud yn siŵr nad ydy nhw'n dioddef" sy'n bwysig, meddai.

'Dylai pres fynd at gadw pobl allan o'r ysbytai'

Peredur Owen Griffiths AS ydy Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth y Senedd, ac mae'n cytuno gyda'r egwyddor o godi isafswm pris.

Ond mae'n dweud y dylai unrhyw elw sy'n dod gael ei ail-fuddsoddi mewn rhaglenni sy'n helpu pobl sydd â dibyniaeth.

"Dwi'n meddwl dylai'r pres fynd tuag at y stwff ataliol i drio cadw pobl allan o'r ysbytai, i gadw pobl yn iachach, i helpu pobl sy'n strugglo, yn gaeth neu yn strugglo efo gorddefnyddio."

"Dwi'n meddwl bod 'na angen i fuddsoddi, rhywbeth da ni'n gweld ydi nad yw'r arian yn mynd i'r gwasanaethau rheiny ac wrth i ni weld toriadau yn y gwasanaethau front line mae'n rhaid i'r arian fynd yn ôl mewn i complimentio'r polisi yma."

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "ystyried buddion codi isaf-bris uned alcohol yng Nghymru, ar ôl i ymchwil cychwynnol ddangos ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ers ei gyflwyno yn 2020".

"Byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan i geisio barn pobl a byddwn yn ystyried hyn cyn penderfynu sut i symud ymlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.