Galw am ailedrych ar strategaeth gofal canser i blant
- Cyhoeddwyd
Mae angen edrych eto ar strategaeth trin canser ymhlith plant yng Nghymru, yn ôl elusen Tenovus.
Maen nhw’n dadlau na ddylai plant ac oedolion gael eu trin yn yr un ffordd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Mae’n bwysig ein bod ni yn gwahanu’r strategaeth, ac yn cael strategaeth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc," meddai Lowri Griffiths o'r elusen.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu eu bod "wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau posib i blant a phobl ifanc â chanser".
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
- Cyhoeddwyd15 Mai
Cafodd Jacob Crane o Abertawe ddiagnosis o lewcemia yn 2022, ychydig ddyddiau wedi ei ben-blwydd yn 16 oed.
Wedi'r diagnosis, fe ddaeth ei deulu a’i ffrindiau ynghyd i godi dros £20,000 i’r achos.
Ond wedi i Jacob guro’r canser unwaith, fe ddaeth y newyddion ei fod wedi dychwelyd am yr eildro, a bu farw ar 7 Mai eleni yn 17 oed.
Cafodd Sefydliad Jacob Crane ei sefydlu yn ei enw er mwyn codi arian a dangos cefnogaeth i deuluoedd sy’n mynd trwy’r un profiad.
"Ni moyn cefnogi teuluoedd eraill a moyn iddyn nhw wybod fod pobl 'da nhw a'n deall beth maen nhw'n mynd trwyddo, achos ni 'di mynd trwyddo fe gyda Jacob," meddai ei fam, Jess Jones.
"O'dd e mor garedig, oedd e wastad yn chwerthin a gwenu, a bydd e'n edrych lawr nawr yn dweud ein bod ni wedi gwneud y peth gorau allwn ni wneud yn ei enw fe.
"Ni'n rili balch o hynny."
Yn ôl Evan Dalton, un o ffrindiau Jacob, mae’n bwysig cadw ei enw a’i feddylfryd yn fyw.
"O'dd e'n galed, a ma' fe dal yn galed hyd heddiw, a fi'n credu bydd e'n galed am flynyddoedd a blynyddoedd," meddai.
“Yr unig beth oedd e moyn 'neud trwy gydol ei fywyd oedd helpu pobl eraill.
"Yn ei enw ef 'nawn ni 'neud yn union hynny."
Fel rhan o ymgyrch codi arian at Sefydliad Jacob Crane, bydd degau o bobl yn rhedeg ras 10k Abertawe yn ei enw ddydd Sul.
'Anghenion gwahanol iawn i oedolion'
Yn ddiweddar, ar yr hyn fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jacob yn 18 oed, cafodd tair ystafell eu hagor yn enw Sefydliad Jacob Crane yn llety Ronald McDonald House ger Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.
Elusen sy’n rhoi cymorth a llety i bobl sy’n dioddef o ganser yw Ronald McDonald House.
Bu’r elusen hon yn gymorth i Jacob a’i deulu yn ystod ei salwch.
Ond galw am fuddsoddiad pellach mae Lowri Griffiths, sy’n gweithio i elusen Tenovus.
“Ar hyn o bryd mae’r strategaeth sydd gennym ni ar gyfer canser yng Nghymru yn rhoi plant a phobl ifanc i mewn hefo oedolion," meddai.
"Does 'na ddim gwahaniaeth yn be' 'da ni'n dweud sydd ei angen ar bobl ifanc.
"Mae’n bwysig ein bod ni yn gwahanu’r strategaeth, ac yn cael strategaeth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol fel ein bod ni'n medru darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, sy’n hollbwysig gan fod ganddyn nhw anghenion gwahanol iawn i oedolion.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau posib i blant a phobl ifanc â chanser.
"Mae’r GIG yng Nghymru yn gweithio i safonau NICE ar gyfer canser plant a phobl ifanc.
“Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i’r GIG yng Nghymru ddarparu llwybr gofal y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer canser plant, ac mae gwasanaethau i blant 0-15 oed yn gorfod cydymffurfio â gofynion Cydbwyllgor Comisiynu’r GIG.”