Byddai Reform yn torri 'gwariant gwastraffus' Cymru - Tice

Gwadodd Richard Tice y byddai toriadau swyddi yn "rheng flaen" y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae dirprwy arweinydd Reform UK yn dweud y byddai ei blaid yn torri "gwariant gwastraffus" pe bai'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.
Dywedodd Richard Tice y byddai'r blaid yn torri swyddi "swyddfa gefn" o fewn GIG Cymru ac yn lleihau rhestrau aros.
Gwadodd y byddai'n arwain at doriadau swyddi yn "rheng flaen" y gwasanaeth iechyd.
Roedd Mr Tice yn siarad cyn cynhadledd y blaid yn Birmingham y penwythnos hwn.
- Cyhoeddwyd14 Awst
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
Mae Reform wedi bod yn gwneud yn dda yn yr arolygon barn ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, sy'n awgrymu eu bod yn y ras i ddod yn gyntaf.
Dim ond un AS sydd gan y blaid ar hyn o bryd - Laura Anne Jones, a adawodd y Ceidwadwyr yn ystod yr haf.
Dyw'r blaid ddim wedi dechrau cyhoeddi ymgeiswyr ar gyfer etholiad nesaf y Senedd eto, ac nid yw wedi penderfynu ar ymgeisydd ar gyfer swydd y prif weinidog.
Mae'n debyg y byddai angen cymorth plaid arall ar Reform i lywodraethu pe bai'n ennill etholiad nesaf y Senedd, mewn system bleidleisio lle mae'n anodd i un blaid ennill mwyafrif.
Yr unig blaid fawr sydd heb ddiystyru gweithio gyda nhw yw'r Ceidwadwyr.
Mae eu harweinydd yn y Senedd wedi dweud y bydden nhw'n gweithio gydag unrhyw blaid i gael gwared â Llafur o rym.

Richard Tice yw'r dirprwy arweinydd i Nigel Farage yn Reform UK
Dywedodd Mr Tice: "Rwy'n credu y byddwn yn torri'r nonsens allan ac yn dechrau nodi rhai o'r symiau enfawr o wariant gwastraffus ar draws yr holl feysydd lle mae Llafur dros y 25 mlynedd ddiwethaf wedi lleihau ansawdd gwasanaethau cyhoeddus."
Rhoddodd enghraifft o gael gwared â therfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd trefol, a ddisgrifiodd fel "polisi chwerthinllyd".
Ychwanegodd: "Nid yw'r GIG yn brin o arian. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'n cael ei gamreoli, y ffordd y mae'n gwastraffu arian.
"Mae'n ymwneud â'i reoli'n well - mwy o bobl ar y rheng flaen, nyrsys a meddygon gwych, llai o bobl yn y swyddfa gefn sy'n creu gwaith papur a biwrocratiaeth sy'n gwylltio nyrsys a meddygon.
"Nid toriadau swyddi yn y rheng flaen yw hyn."
'Llawer gwell na Llafur'
Dywedodd Mr Tice y byddai'r blaid yn gwneud yn "llawer gwell na Llafur" wrth leihau rhestrau aros.
"Byddwn yn ymrwymo i fod yn gwbl benderfynol o ostwng rhestrau aros, gwella cynhyrchiant, gwella gofal iechyd i bawb ledled Cymru."
Ychwanegodd fod y blaid "ar ochr y gweithwyr - dyna pam rydym yn arwain yn yr arolygon barn yng Nghymru".
"Mae pobl yn cydnabod ein bod yn gwybod sut i gael ein heconomi i dyfu yng Nghymru, fel ar draws gweddill y DU, a hefyd i dorri mewnfudo anghyfreithlon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.